Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Paul Davies. Roedd Andrew R T Davies yn dirprwyo ar ei ran. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwneud datganiad am
Ddyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad:"Diogelu
Dyfodol Cymru": Pontio o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop. Cafodd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gymunedau a Phlant: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel ei
ohirio tan 7 Chwefror. Cafodd y ddadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb
2015-16, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016,
ei thynnu’n ôl. Byddai'r
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelid y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer
ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y
Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen Dydd Mercher 15 Chwefror 2017 –
|
|
Rhaglen waith weithdrefnol |
|
Adolygiad o’r Trefniadau Ynghylch Deisebau Cyhoeddus Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y
Pwyllgor Deisebau yn cadarnhau eu bod yn fodlon â’r cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ac i
dreialu trefn newydd ar gyfer ystyried cynnal dadl ar ddeisebau sydd wedi cael
5,000 o lofnodion yn y Cyfarfod Llawn. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd ag awgrym y Pwyllgor
Deisebau i gyflwyno’r newidiadau ar 8 Mawrth.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am adroddiad drafft ar y
newidiadau i'r Rheolau Sefydlog er mwyn iddynt eu hystyried mewn cyfarfod yn y
dyfodol. |