Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod
ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu datganiad gan Weinidog y Gymraeg a
Chysylltiadau Rhyngwladol at agenda dydd Mercher, a nododd y bydd yn cynnwys
diweddariad ar dwristiaeth. Datganiad
a Chyhoeddiad Busnes Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â gofyn unrhyw gwestiynau ar y
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes. Ymyriadau Gofynnodd
y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau i beidio ag anfon negeseuon
Zoom at bawb, gan fod y rhain yn cael eu darlledu. Bydd hi'n galw i drefn
unrhyw Aelodau sy'n gwneud hynny o'r wythnos hon ymlaen. Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y bydd, cyn i'r siaradwr olaf
ymateb i'r ddadl, yn cymryd cyfraniadau o un funud gan Aelodau a fydd am ymateb
i rywbeth a ddywedwyd yn ystod y ddadl. Gallai hynny gynnwys Aelodau a oedd
eisoes wedi siarad. Sut i
Ymuno Gofynnodd
y Llywydd i Reolwyr Busnes hysbysu'r Aelodau bod angen iddynt ddilyn yr un
patrwm â'r wythnos diwethaf - i hysbysu Ysgrifenyddiaeth y Siambr pwy fydd yn
bresennol, ac i gael eu ceisiadau siarad i mewn erbyn diwedd prynhawn dydd Mawrth
os yw hynny'n bosibl. Gofynnodd
y Llywydd hefyd i Reolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau bod angen iddynt ymuno â'r
cyfarfod am 10.30am (neu hanner awr cyn yr amser cychwyn os ydynt ond yn ymuno
ar gyfer sesiwn y prynhawn), fan bellaf, i ganiatáu amser ar gyfer gwiriadau
TG. Bydd angen i Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl 10.50am (neu 10 munud cyn dechrau
unrhyw sesiwn) aros nes y bydd y cyfarfod wedi dechrau. Egwyl Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylid cael yr egwyl ar ôl y Cwestiynau Amserol, am tua 12.20.
|
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn: Dydd
Mercher 24 Mehefin 2020
|
|
Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd
Rheolwyr Busnes i amser cychwyn dros dro o 11.00 ar gyfer y Cyfarfod Llawn am y
tro. |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio'r
Memorandwm at bwyllgor i graffu arno, o ystyried pa mor gyflym y mae disgwyl
i'r Bil symud trwy ei gamau craffu yn Senedd y DU a bod y ddadl wedi'i
hamserlennu ar gyfer y dydd Mercher hwn. Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y ddadl
wedi'i threfnu am 30 munud yn hytrach na'r 15 munud arferol er mwyn ystyried
diffyg craffu gan bwyllgor yn yr achos hwn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y papur a chytunwyd i ddod â'r dyddiad cau ymlaen ar gyfer
adrodd ar Femorandwm y Bil Cyllid o 2 Gorffennaf i 18 Mehefin, oherwydd bod
amserlen Senedd y DU wedi'i chyflymu. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i'r ceisiadau amserlennu gan y Pwyllgor. |
|
Cynnig y Pwyllgor Busnes i sefydlu Pwyllgor y Llywydd Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i sefydlu Pwyllgor y Llywydd, a gofynnwyd i'r
Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur gyda chynigion manylach o ran ei aelodaeth. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) Esboniodd
y Trefnydd fod y Bil gyda'r Llywydd ar gyfer Penderfyniad ar hyn o bryd ac y
bydd papur yn nodi amserlen arfaethedig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Busnes
yr wythnos nesaf. Gofynnodd Sian
Gwenllian yn ffurfiol i amser sydd ar gael cyn ei gyflwyno gael ei roi i
lefarwyr pleidiau i drafod cynnwys y Bil gyda'r Gweinidog Addysg. Dychwelyd
i ystâd y Senedd Gofynnodd
y Llywydd am farn y Rheolwyr Busnes ynghylch dychwelyd busnes y Senedd i ystâd
y Senedd. Nododd y Rheolwyr Busnes fod gwaith yn mynd rhagddo i baratoi
ar gyfer unrhyw benderfyniad i ddychwelyd i'r adeilad, a chytunwyd ei bod yn
bwysig ystyried yr egwyddorion a fyddai'n eu llywio i wneud penderfyniadau mewn
perthynas â dychwelyd i'r adeilad. Gofynnwyd i'r ysgrifenyddiaeth am bapur yn
amlinellu'r egwyddorion hyn, gan gynnwys cydraddoldeb, iechyd y cyhoedd a
chysylltiadau gweithwyr, ac opsiynau ar gyfer Cyfarfod Llawn hybrid a
chorfforol. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i weithredu proses bleidleisio electronig o bell
(gan Aelodau unigol) cyn gynted â phosibl. Gofynnodd
y Llywydd i Reolwyr Busnes ystyried cynnwys y Cyfarfod Llawn, yn enwedig
ailgyflwyno cwestiynau a materion nad ydynt yn gysylltiedig â Covid. |