Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod
ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes
bod y llywodraeth yn bwriadu cyflwyno cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
er mwyn caniatau i ddadl ar 'Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n
heconomi: dal i drafod' gael ei chynnal ddydd Mercher. Er mwyn gwneud hynny,
bydd y datganiadau gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth
a Gogledd Cynmru yn cael eu cyfyngu i 45 munud, a datganiad y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol yn gael ei dynnu yn ôl. Mynegodd y
Rheolwyr Busnes eu siom na fydd datganiad llafar bellach gan y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol, a chytunodd y Trefnydd i gyfleu hyn i'r Gweinidog. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes
mai'r amser terfynol ar gyfer cyflwyno gwelliannau i'r cynnig fydd 6.00pm dydd
Mawrth, ac y bydd yn dethol gwelliannau ar sail annog cynnal busnes y cyfarfod
llawn mewn cyd-destun rhithwir yn drefnus. Roedd, felly, yn annog grwpiau i
ystyried nifer y gwelliannau y byddant yn eu cyflwyno. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes
hefyd y bydd, yn hytrach nag ymyriadau, cyn i'r Prif Weindog ymateb i'r ddadl,
yn cymryd cyfraniadau o yn funud gan Aelodau a fydd am ymateb i rywbeth a
ddywedwyd yn ystod y ddadl. Gallai hynny gynnwys Aelodau a oedd eisoes wedi
siarad. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu nodyn i'r
Aelodau yn esbonio hyn. Grwpio
rheoliadau Gofynnodd
Darren Millar i'r ddwy set o reoliadau Covid-19 gael eu grwpio i'w trafod
gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân, ac felly caiff y cynnig i grwpio
ei newid yn unol â hynny. Datganiad
a Chyhoeddiad Busnes Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â chael unrhyw gwestiynau ar y
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes. |
|
Amserlen Busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar amser dechrau arfaethedig o 11.00am ar gyfer cyfarfod 3
Mehefin. Cytunodd y
Pwyllgor i barhau i amserlennu Cwestiynau Amserol am y tair wythnos nesaf. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Busnes y Cyfarfod Llawn a'r Argyfwng Covid-19 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynyddu nifer yr
Aelodau a ganiateir mewn Cyfarfod Llawn rhithwir i hyd at y 60 llawn o'r
wythnos ar ôl hanner tymor. Tynnodd y
Llywydd sylw at yr angen i Reolwyr Busnes barhau i hysbysu swyddogion ymlaen
llawn o ran pa Aelodau fydd yn bresennol yn y cyfarfod. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i barhau i
ddefnyddio'r system bleidleisio wedi'i phwysoli, ac i rannu'r cyfarfod yn
sesiynau bore a phrynhawn os bydd cynnydd sylweddol mewn busnes. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y byddant yn gwneud penderfyniad yn wythnosol ar amser
dechrau'r Cyfarfod Llawn. Cytunodd y Pwyllgor Busnes ei bod yn bwysig
arwain drwy esiampl a dilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol tan y bydd y
canllawiau hynny'n newid. Cytunwyd i ddychwelyd at faterion yn ymwneud â
chyfarfodydd ffisegol neu 'hybrid' ar ôl unrhyw newidiadau i ganllawiau
Llywodraeth Cymru yn unig. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu
un awr ychwanegol yr wythnos o fusnes nad yw'n fusnes y llywodraeth, gan
gychwyn o'r wythnos ar ôl hanner tymor, ac amserlennu un ddadl yr wythnos am y
tair wythnos nesaf, gan wrthblaid.
Nododd y Rheolwyr Busnes mai'r ddadl nesaf, o dan yr amserlen a oedd yn
cael ei dilyn cyn atal busnes arferol dros dro, fyddai dadl Plaid Brexit, ond
penderfynodd y Pwyllgor amserlennu'r tair dadl nesaf yn ôl trefn maint y
grwpiau, a dilyn y gymhareb arferol wedi hynny. Gwrthwynebodd Caroline Jones y
penderfyniad hwn. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai angen i'r dadleuon fod yn
gysylltieidig â materion Cofid-19. Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn awgrymu sefydlu pwyllgor penodol ar gyfer
Covid-19. Cafwyd barn wahanol ynghylch buddioldeb y cynnig, a gofynnodd y
Pwyllgor i'r ysgrifenyddiaeth am bapur cwmpasu ar y broses o sefydlu pwyllgor
o'r fath. |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Cyllid i'r Pwyllgor Cyllid a'r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cyflwyno
adroddiad ddydd Iau 2 Gorffennaf. |
|
Llythyr gan Gadeirydddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm ar y Bil
Amgylchedd i 2 Gorffennaf. |
|
Llythyr gan Gadeiryddion y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm ar y Bil
Masnach i 2 Gorffennaf. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar derfyn amser
Cyfnod 2 o 9 Hydref 2020, ac y dylai'r cyfnod o gyflwyno gwelliannau ailagor yn
ystod wythnos olaf toriad yr haf fel y cynigiodd y pwyllgor. |
|
Pwyllgorau |
|
Amserlen y Pwyllgorau Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a chytunodd mewn egwyddor i'w
gais am slot darlledu wythnosol. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i swyddogion ymchwilio
a fyddai'n bosibl a sut y byddai'n bosibl darparu hyn, a chytunwyd i ddychwelyd
at y mater yn y cyfarfod nesaf. |