Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Anfonodd Caroline Jones ei hymddiheuriadau, a dirprwyodd
David Rowlands ar ei rhan. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyrau a anfonwyd rhwng y Trefnydd a'r
Llywydd, wrth i’r Llywydd gytuno ar gais i ganiatáu i Gyfnod 4 o Fil y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) gael ei gynnal yn syth ar ôl
cwblhau trafodion Cyfnod 3 ar 14 Ionawr 2020. Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r
Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i Fusnes y Llywodraeth am y 3 wythnos
nesaf: Dydd Mawrth 7 Ionawr
2020 – ·
·
Cynnig i Gydsynio Offeryn
Statudol Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019 (15 munud) ·
Dadl: Cyfnod 4 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) (15 munud) Dydd Mawrth 21
Ionawr 2020 – ·
Rheoliadau Cynrychiolaeth
y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020 (15 munud) ·
Rheoliadau Rheoleiddio ac
Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE)
2020 (15 munud) - tynnwyd yn ôl |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 29 Ionawr 2020 – ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr
Cymreig (120 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru
(60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Papur i’w nodi: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cofnodion: Nodwyd y
llythyr gan y Rheolwyr Busnes, a chytunwyd eto i edrych ar yr adeg sydd ar gael
ar gyfer cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 fel rhan o'u gwaith etifeddiaeth. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: LCM ar Fil
yr UE (Ymadael) Hysbysodd y
Trefnydd y Rheolwyr Busnes fod y llywodraeth wedi gosod Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr UE (Ymadael). Mae gofynion amserlen Seneddol y
Bil yn golygu y bydd angen i'r Cynulliad ystyried y Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol cysylltiedig ddydd Mawrth 21 Ionawr fan bellaf. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r LCM at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac mai dydd
Gwener 17 Ionawr fyddai’r dyddiad cau ar gyfer adrodd. Papurau
sydd ar ddod i’r Pwyllgor Busnes Atgoffwyd y
Rheolwyr Busnes gan y Llywydd y bydd yr ymgynghoriad ar bleidleisio drwy
ddirprwy ar agor tan 13 Ionawr, a bydd ymatebion yn cael eu crynhoi mewn papur
i'w drafod yn y cyfarfod ar 21 Ionawr. Yn dilyn hyn, bydd y Pwyllgor Busnes yn
edrych eto ar y papur ar aelodaeth Pwyllgorau, Cadeiryddion Pwyllgorau a
chydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau, gan gynnwys system d'Hondt ar 28
Ionawr. Mae'r rhain wythnos yn hwyrach na'r hyn a ddywedwyd o'r blaen, er mwyn
caniatáu rhagor o amser ar gyfer yr ymgynghoriad ar Bleidleisio drwy
Ddirprwy. Gofynnodd y
Rheolwyr Busnes i'r Clerc ddarganfod beth yw’r sefyllfa o ran adolygu'r
weithdrefn yn Nhŷ'r Cyffredin, sydd i fod i gael ei wneud gan y Pwyllgor
Gweithdrefnau yno. Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor hefyd nad oedd hi'n gallu bod yn bresennol yng
nghyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf, ac y byddai'r Dirprwy Lywydd yn
cadeirio yn ei habsenoldeb. |