Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

  • Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

 

Bydd Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan wedi'i gynnull i drafod Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn cael ei gynnal ar ôl y Cyfarfod Llawn. Yr arwyddion ar hyn o bryd yw y gallai'r amser gorffen fod tua 10pm.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 6 Tachwedd 2019 -

 

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Hepatitis C: Cynnydd tuag at ei ddileu yng Nghymru (30 munud)

Dadl ar Ddeiseb P-05-854 - Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai (60 munud)

Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

 

3.4

Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau.

Cofnodion:

 

Dewisodd y Rheolwyr Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 16 Hydref:

NDM7155 Huw Irranca–Davies (Ogwr)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ddefnyddio plastigau untro.

 

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

 

a) lleihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro yn seiliedig ar yr arferion a'r ymchwil rhyngwladol gorau, a fyddai'n sefydlu Cymru fel arweinydd byd o ran lleihau gwastraff plastig;

 

b) cyflwyno trethi ac ardollau priodol er mwyn lleihau'n sylweddol y gwaith o gynhyrchu plastigau untro yng Nghymru a'r defnydd ohonynt;

 

c) cyflwyno cynllun gweithredu trawslywodraethol gan gynnwys cyfres gynhwysfawr o fesurau i leihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro; a

 

d) pennu targedau a cherrig milltir ar gyfer lleihau plastigau untro penodol.

 

Cefnogir gan:

 

Alun Davies (Blaenau Gwent)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

David Rees (Aberafan)

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Hefin David (Caerffili)

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Rhianon Passmore (Islwyn)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Gweithdrefnau ar gyfer Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.

 

 

4.2

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr amserlen a nodi'r sylwadau yn y llythyr.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad - Amserlennu

Cofnodion:

Ystyriodd y Rheolwyr Busnes yr opsiynau a chytunwyd i drefnu amser ar fore Llun i'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad gael cwrdd.

 

6.

Rheolau Sefydlog

6.1

Diwygio Rheolau Sefydlog - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyrau, a chytunwyd i gynnig y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog, a'r newidiadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a gosod adroddiad i'r perwyl hwn.