Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes fod datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar Ffermio Cynaliadwy a'n Tir wedi cael ei ychwanegu at  fusnes Dydd Mawrth.

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y caiff y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach - Blwyddyn Yn Ddiweddarach ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2019 -

 

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Blaenoriaethau Brexit (30 munud)

 

Dydd Mercher 25 Medi 2019 -

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Hawliau Pleidleisio i Garcharorion (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a Hybu'r Gymraeg (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)

 

 

3.4

Llythyr at y Llywydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a nododd fod yna bellach ddatganiad gan y llywodraeth ar Brexit wedi'i drefnu ar gyfer 16 Gorffennaf. Cytunwyd i drefnu datganiad y Cadeirydd ar 17 Gorffennaf, yn amodol ar gadarnhad gan y Pwyllgor ei fod yn dal yn awyddus i fwrw ymlaen, yng ngoleuni'r datganiad a ychwanegwyd yn ddiweddar gan y llywodraeth.

 

 

4.

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2020-21

4.1

Amserlen Cyllideb Llywodraeth Cymru 2020-21

Cofnodion:

Amserlen Cyllideb Llywodraeth Cymru 2020-21

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i'w hysbysu am yr amserlen gyllidebol arfaethedig, ac y bydd yn awr yn ysgrifennu at bob Pwyllgor arall.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid, yn unol â'r Rheolau Sefydlog, a dychwelyd at y mater yn eu cyfarfod cyntaf ym mis Medi.

 

 

5.

Rheolau Sefydlog

5.1

Ymgynghoriad ar Filiau Cydgrynhoi

Cofnodion:

Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y Rheol Sefydlog ddrafft a chytunwyd i ddychwelyd ati yn yr hydref, ar ôl trafod gyda'u grwpiau. Cytunwyd hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ymgynghori ar y cynigion.

 

 

6.

Papur i'w nodi - Gohebiaeth at y Llywydd

6.1

Llythyr at y Llywydd gan y Prif Weinidog

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i aros am ymatebion gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn ystyried ymhellach.