Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Ni fydd Cyfnod Pleidleisio. Dydd
Mercher ·
Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Yn eu
cyfarfod ar 2 Ebrill, cytunodd y Rheolwyr Busnes, dros dro, i drefnu eitem ar y
cyd â'r Senedd Ieuenctid ar 26 Mehefin. Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor nad
yw'r manylion wedi'u cadarnhau eto, felly nid yw'r eitem ar y Datganiad Busnes
ar hyn o bryd, ond y bydd papur yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Busnes yr
wythnos nesaf. Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 19 Mehefin 2019 -
·
Dadl ar Ddeiseb
P-05-869: Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi
(60 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i Blaid Brexit (60 munud) Dydd Mercher 26
Mehefin 2019 - ·
Dadl ar Gynnig
Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) ·
Dadl ar Adroddiad
y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amrywiaeth mewn
Llywodraeth Leol (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Busnes y Cynulliad |
|
Llythyr gan Dai Lloyd AC Cofnodion: Ar gais yr
Aelod, cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer 19
Mehefin mewn perthynas â Rheoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y Gymraeg mewn
Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019. |
|
Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau. Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i leihau maint y saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth
wyth-Aelod i chwe Aelod yr un. Gofynnwyd i swyddogion ysgrifennu at Blaid
Brexit ac Aelodau Annibynnol i ofyn am eu dewisiadau ar gyfer y lleoedd sy'n
weddill ar Bwyllgorau. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes hefyd y dylai dyraniad amser y Cyfarfod Llawn i grwpiau
gwrthbleidiau ddilyn y gymhareb 11:10:4, er mwyn cynnal adlewyrchiad manwl o
faint cymharol y grwpiau. Nododd y Rheolwyr Busnes fod y Llywydd wedi cytuno i
ganiatáu i Grŵp Brexit ofyn dau gwestiwn Arweinydd i'r Prif Weinidog, ac
enwebu tri Gweinidog i ofyn dau gwestiwn llefarydd iddynt. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Cyngor cyfreithiol ar y cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 1.3 Cofnodion: Ystyriodd
y Rheolwyr Busnes y cyngor cyfreithiol ar y cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog
1.3. Gofynnwyd i'r swyddogion ddrafftio adroddiad yn nodi pam eu bod wedi
penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r newid ar hyn o bryd, ond i adolygu'r
Rheolau Sefydlog perthnasol erbyn y chweched Cynulliad. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Coladu Canllawiau - Cwestiynau Llefarwyr Cofnodion: Ystyriodd
y Rheolwyr Busnes y canllawiau cyfredol ar gwestiynau llefarwyr a chytunwyd i
newid y geiriad ychydig, er mwyn caniatáu i'r cwestiynau wyro oddi wrth thema
eang mewn amgylchiadau eithriadol. Felly, mae'r Rheolwyr Busnes wedi cytuno ar
y canllawiau a gasglwyd yn eu cyfanrwydd ac fe'u cyhoeddir yn fuan. |
|
Papurau i'w nodi - Y Pwyllgor Busnes |
|
Llythyr gan y Prif Weinidog at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch slotiau gweinidogion ar ddydd Llun |
|
Llythyr at y Prif Weinidog gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch slotiau gweinidogion ar ddydd Llun Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y ddau lythyr, ac awgrymu y gallai Cadeirydd y Pwyllgor ddymuno
codi'r mater o Weinidogion yn mynychu slotiau Pwyllgorau ar brynhawn dydd Llun
yn Fforwm y Cadeiryddion. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Aelodau'r
Pwyllgor Busnes Er bod
Plaid Brexit yn gymwys i gael ei chynrychioli ar y Pwyllgor Busnes, cafodd y
cynnig i ethol Caroline Jones fel aelod ei drechu ar 22 Mai. Mae'r Llywydd wedi
derbyn cais gan Blaid Brexit i ail-gyflwyno'r cynnig i ethol Caroline Jones.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ail-gyflwyno'r cynnig a'i drefnu, dros dro, ar
gyfer yfory, ond gofynnwyd i swyddogion wirio gyda Phlaid Brexit a oedd yr
amseru yn briodol iddyn nhw. |