Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Anfonodd Darren Millar, Neil Hamilton, a'r Dirprwy Lywydd eu hymddiheuriadau; roeddent yn cynrychioli'r Cynulliad mewn cynhadledd BIPA yn Swydd Wicklow. Roedd Russell George yn dirprwyo ar ran Darren Millar, ac roedd Gareth Bennett yn dirprwyo ar ran Neil Hamilton.

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 6.20pm.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 7.00pm.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 12 Mehefin 2019 -

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Masnach

Cofnodion:

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Masnach

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y Memorandwm atodol a bod y ddadl wedi'i threfnu ar gyfer 21 Mai. Roeddent yn cytuno, yng ngoleuni'r amserlen Seneddol, nad oedd amser i graffu mewn pwyllgor.

 

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Cais gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynnal ymweliad ffurfiol oddi ar y safle

Cofnodion:

Cais gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynnal ymweliad ffurfiol oddi ar y safle

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.

 

 

6.

Busnes y Cynulliad

6.1

Amseru ar gyfer dadleuon 30 munud y gwrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn

Cofnodion:

Amseru ar gyfer dadleuon 30 munud y gwrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i newid holl ddadleuon 30 munud y gwrthbleidiau i'r un strwythur â dadleuon Cynnig Deddfwriaethol yr Aelodau.

 

 

6.2

Aelodaeth Pwyllgorau

Cofnodion:

Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau.

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i barhau â thrafodaethau y tu allan i'r Pwyllgor a dychwelyd at y mater yr wythnos nesaf.

 

 

 

7.

Y Pwyllgor Busnes

7.1

Coladu canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17

Cofnodion:

Coladu canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i ddychwelyd at y mater o gwestiynau'r Llefarwyr yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.