Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a’r Trefnydd, gan ddweud ei
bod yn dirprwyo’n ffurfiol ar ran Julie James yn y cyfarfod heddiw. Bydd cynnig
yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn yfory i ethol Rebecca Evans yn ffurfiol
i'r Pwyllgor Busnes. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Busnes yr
Wythnos Hon Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y ddadl
fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 16 Ionawr 2019 - ·
Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol:
Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018 (15 munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau: Diogelwch Tân mewn Adeiladau Uchel Iawn (60
munud)
Dydd Mercher 23 Ionawr 2019 - ·
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio
cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ynghylch Hawliau Pobl Hŷn (60
munud)
Dydd Mercher 30 Ionawr 2019 - ·
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30
munud)
|
|
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol, Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018 Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwr Busnes i gynnal dadl ar y cynnig 16 Ionawr |
|
Pwyllgorau |
|
Cais am ddadl ar Ddeiseb Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y cais a dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn deall bod
canllawiau NICE wedi’u diweddaru ers i'r llythyr gael ei anfon. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ystyried hyn ymhellach, mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor
Deisebau, cyn penderfynu a ddylid cynnal dadl. |
|
Amserlen y Cynulliad |
|
Papur i'w nodi - Amserlen Cwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y newidiadau. Dywedodd y
Trefnydd fod Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion yn trafod sut y byddant yn
dyrannu’r cyfrifoldebau rhyngddynt. Bydd y ddogfen 'Cyfrifoldebau'r
Gweinidogion,' yn cael ei diwygio a’i chylchredeg eto i'r Aelodau yn fuan. |
|
Deddfwriaeth |
|
Y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) Cofnodion: Cadeiriodd
y Dirprwy Lywydd yr eitem hon gan mai’r Llywydd yw'r Aelod sy'n gyfrifol am y
Bil. Ystyriodd Rheolwyr
Busnes y papur a ph'un ai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
ddylai fod yn gyfrifol am ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil. Nododd Darren
Millar fod gwrthdaro buddiannau yn achos un aelod o’r Pwyllgor hwn sydd hefyd
yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad, ac awgrymodd y dylid cyfeirio'r Bil at y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Nodwyd hefyd fod y
Pwyllgor hwnnw'n cynnwys Aelod o'r Comisiwn. O gofio mai'r penderfyniad cyntaf
yw ymgynghori ynghylch yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil, cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol cyn
penderfynu at ba bwyllgor y dylid cyfeirio’r mater. O ran mater yr amserlen arfaethedig, cododd y Trefnydd yr
effaith bosibl ar Fil Etholiadau Lleol y Llywodraeth os bydd unrhyw oedi wrth
gyflwyno’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). |
|
Unrhyw fater arall Ymweliad y
Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau â Manceinion Cytunodd y
Rheolwyr Busnes â'r cais. |