Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Rhoddodd
Arweinydd y Tŷ wybod i'r Rheolwyr Busnes nad oedd y Prif Weinidog yn gallu
bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn heddiw oherwydd mater personol, ac felly y
byddai hi'n ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog yn ei le. Byddai'r
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer
ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i symud y ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod o 29 Mawrth i 5
Ebrill fel y gall y Rheolwyr Busnes ddewis cynnig unwaith y bydd canlyniad y
bleidlais ar gyfer Biliau Aelodau (a fydd yn digwydd ar 28 Mawrth), yn hysbys. Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 22 Mawrth 2017 -
Dydd Mercher 29 Mawrth 2017 -
·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) |
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig Cofnodion: Dewisodd y
Pwyllgor Busnes ddau gynnig i'w trafod: y cyntaf ar 22 Mawrth, yr ail ar 5
Ebrill. Dydd
Mercher 22 Mawrth 2017 - ·
NNDM6259 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir
a'r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd. 2. Yn nodi ymhellach fod gweithgarwch
economaidd yn gysylltiedig â'r môr eisoes yn werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru,
ac yn cynnal degau o filoedd o swyddi. 3. Yn credu y bydd ymrwymiad strategol i'r
economi las yn galluogi Cymru i droi ein moroedd yn un o'n hasedion economaidd
mwyaf. 4. Yn credu ymhellach y gall Cymru fod yn
arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth a chwaraeon, pysgota,
bwyd a dyframaethu, a gweithgynhyrchu a pheirianneg morol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno
Cynllun Morol uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i
gwneud yn elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd. Dydd
Mercher 5 Ebrill 2017 –
|
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Carchardai a Llysoedd: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y
Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil
Carchardai a Llysoedd. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at bedwar
pwyllgor er mwyn iddynt graffu arno; y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon; y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 4 Mai er mwyn i’r Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 9 Mai
2017. |
|
Defnyddio amser yn y Cyfarfod Llawn |
|
Cwestiynau Amserol Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes gynigion diwygiedig ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Amserol a
diwygio'r meini prawf ar gyfer Cwestiynau Brys. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y cynigion yn y papur ac i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno
adroddiad drafft i'r Pwyllgor Busnes gytuno arno a'i roi gerbron y Cynulliad.
Cytunwyd na fyddai unrhyw ddyraniad amser ar gyfer Cwestiynau Amserol yn cael
ei gynnwys yn y Rheolau Sefydlog fel bod gan y Rheolwyr Busnes hyblygrwydd i
newid yr amseru os oes angen yn nes ymlaen. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i adolygu'r drefn newydd yn nhymor yr hydref, gan gynnwys faint
o amser a ddyrennir a phryd y cawsant eu trefnu. |
|
Unrhyw fater arall Gofynnodd
Paul Davies am eglurhad ar sefyllfa Neil McEvoy o fewn grŵp Plaid Cymru a
pha effaith y byddai hyn yn ei chael ar feintiau grwpiau'r wrthblaid, gan
gynnwys dyrannu lleoedd pwyllgor. Dywedodd y Llywydd y byddai'n gwerthfawrogi
pe gallai'r sefyllfa gael ei gwneud yn eglur cyn gynted â phosibl. |