Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Mae'r datganiadau ar y Gwerthusiad Annibynnol o'r Model Ymateb Clinigol ar
gyfer Gwasanaethau Ambiwlans Brys ac Adolygiad Addysg ac Argymhellion y
Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi'u cyfnewid. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith yn gwneud
Datganiad ar Ddyfodol Gwasanaethau Bysiau Lleol (45 munud). Bydd Arweinydd y Tŷ yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog, sydd ar
ymweliad â'r Unol Daleithiau. Bydd Arweinyddion y Gwrthbleidiau yn gofyn
cwestiynau heb rybudd, yn unol â'r drefn arferol. Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer
ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 22 Mawrth 2017 - ·
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Pedolwyr (Cofrestru) Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Pedolwyr (Cofrestru). Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at ddibenion gwaith
craffu. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad
ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 23 Mawrth 2017 er mwyn
i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd
Mawrth 28 Mawrth 2017. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Cynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 23 - Deisebau Cyhoeddus Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes adroddiad drafft ar y newidiadau arfaethedig i
Reol Sefydlog 23 er mwyn newid y drefn bresennol ar gyfer Deisebau Cyhoeddus. Gwnaeth y Rheolwyr Busnes gytuno ar yr adroddiad a chytuno i gyflwyno
cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i'w drafod ar 8 Mawrth 2017. |
|
Unrhyw fater arall Rhoddodd Arweinydd y Tŷ y wybodaeth ddiweddaraf am Fil yr Economi
Ddigidol. Anogodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i drafod ei chynigion ynghylch
Cwestiynau Amserol ymysg ei gilydd oddi allan i weithgarwch y Pwyllgor, gyda'r
bwriad o ganfod tir cyffredin cyn trafod y mater eto mewn cyfarfod Pwyllgor. |