Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cynhelir y
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y
Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 15
Chwefror 2017 –
Dydd Mercher 1
Mawrth 2017 -
|
|
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - Dewis Cynnig Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer y ddadl: Dydd Mercher 8 Chwefror
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig
ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub bywyd. 2. Yn nodi mai
diben y Bil fyddai: a) creu hawl
statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w
hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau b) llunio
cyfrifoldebau statudol i sicrhau: i) bod
hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei ddarparu; ii) bod
diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau priodol; iii) bod unigolion
sydd wedi cael hyfforddiant achub bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn
gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na pherson cymorth cyntaf penodedig); a iv) bod deunyddiau
cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid
ar gyfer y staff yn unig. c) creu ffyrdd o
wella a gorfodi o ran yr uchod. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Grwpiau a Chynrychiolaeth ar Y Pwyllgor Busnes Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor bapur ar grwpiau a chynrychiolaeth
ar Y Pwyllgor Busnes. Roedd y papur yn nodi opsiynau posibl ar gyfer diwygio'r
Rheolau Sefydlog er mwyn i Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp beidio â
bod o dan anfantais am nad oes ganddynt gynrychiolaeth ar Y Pwyllgor Busnes. Trafododd y Rheolwyr Busnes hefyd ymatebion gan Kirsty
Williams, Nathan Gill a Dafydd Elis-Thomas i lythyr y Llywydd yn gofyn am eu
barn ar y mater. Roedd y tri Aelod wedi nodi y byddent yn ffafrio cael eu
cynrychioli drwy ddirprwy. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i beidio â gwneud unrhyw
newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd. |
|
Defnyddio amser yn y Cyfarfod Llawn |
|
Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes opsiynau i gyflwyno
gweithdrefn newydd ar gyfer Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth ddrafftio
meini prawf posibl ar gyfer y weithdrefn newydd, ynghyd â gweithdrefn ddiwygiedig
ar gyfer y Cwestiynau Brys. Nododd Arweinydd y Tŷ ei bod yn bwriadu dosbarthu
nodyn a oedd yn amlinellu ei meini prawf arfaethedig ar gyfer pob gweithdrefn. Cytunwyd
i ailystyried y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Unrhyw fater arall Datganiadau 90 Eiliad
Cwestiynau'r Llefarwyr
Ysgrifenyddion y Cabinet yn
cyrraedd yn hwyr ar gyfer dadleuon
|