Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelid y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 25 Ionawr 2017 -

 

  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: ymchwiliadau a gwaith ymgysylltu ar gyfer y dyfodol (30 munud)

 

Dydd Mercher 8 Chwefror 2017 –

  • Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Waith Ieuenctid (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

 

Biliau Aelod

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes am yr amserlen ar gyfer y balot sydd i'w gynnal ar gyfer Biliau Aelod:

 

    • Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion cyn y balot ar gyfer Biliau Aelod - 16.00 dydd Gwener 20 Ionawr
    • Dyddiad y balot (a'r cyhoeddiad yn y Cyfarfod Llawn) - 25 Ionawr

 

Cynigion deddfwriaethol Aelodau

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes am yr amserlen ar gyfer y ddadl sydd i'w chynnal ar gynigion deddfwriaethol Aelodau:

 

    • Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion - 17.00, 26 Ionawr
    • Y Rheolwyr Busnes i ddewis cynnig ar gyfer dadl – 31 Ionawr

Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau – 8 Chwefror

3.4

Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor Busnes dri chynnig ar gyfer dadl: y cyntaf ar 25 Ionawr, a’r ail ar 15 Chwefror, gyda’r trydydd ar ddyddiad i'w gadarnhau ar ôl hanner tymor.

 

Dydd Mercher 25 Ionawr 2017

 

  • NNDM6191

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Hefin David (Caerffili)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i drychineb gwaed halogedig y 1970au a'r 1980au.

 

2. Yn nodi bod 70 o bobl yng Nghymru wedi marw o HIV a Hepatitis C a gawsant wrth gael gwaed halogedig neu gynnyrch gwaed halogedig a bod eraill yn dal i fyw gyda'r heintiau hyn.

 

3. Yn cydnabod bod perthnasau mewn galar yn byw gyda chanlyniadau'r drychineb hon.

 

4. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi ymddiheuro ym mis Mawrth 2015 i bobl a gafodd eu heintio gan driniaeth â gwaed halogedig ac yn nodi ymhellach nad yw'r teuluoedd y mae hyn yn effeithio arnynt, wedi cael atebion llawn ynglŷn â'r rhesymau pam y caniatawyd i hyn ddigwydd a'u bod yn dal i ymgyrchu dros gyfiawnder.

 

Dydd Mercher 15 Chwefror 2017

 

  • NNDM6204

Hannah Blythyn (Delyn)

Jeremy Miles (Castell-nedd)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod mis Chwefror yn Fis Hanes LGBT, ac yn gyfle blynyddol i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ledled Cymru.

 

2. Yn nodi ymhellach gyfraniad pobl LGBT a mwy i'n cymunedau a'n gwlad.

 

3. Yn cydnabod y rôl a chwaraeir gan eiconau LGBT a chyfeillion heterorywiol yng Nghymru, fel y dangosir gan yr arddangosfa eiconau a chyfeillion LGBT yn y Senedd y mis hwn.

 

4. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf o ran derbyn LGBT ac o ran eu hawliau.

 

5. Yn credu bod angen bod yn effro i sicrhau bod hawliau LGBT a mwy yn cael eu diogelu.

6. Yn cymryd yr awenau o ran parhau i hybu cydraddoldeb a herio gwahaniaethu ac anghydfod, gan sicrhau bod Cymru yn genedl groesawgar i bobl LGBT a mwy.

 

Yn dilyn hanner tymor (dyddiad i'w gadarnhau)

  • NNDM6210

Lee Waters

Jeremy Miles

Vikki Howells

Hefin David

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod tua 40 y cant o'r gweithlu sy'n cael eu cyflogi yn yr 'Economi Sylfaenol' yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel: seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu; ac iechyd, addysg a gofal.

 

2. Yn cydnabod bod y sectorau hyn yn aml yn fwy abl i wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod ganddynt gryn botensial i sicrhau mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol.

 

3. Yn gresynu fod llawer o'r sectorau o fewn yr Economi Sylfaenol yn nodedig am swyddi â thâl isel ac ansicrwydd.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i wneud yn fawr o effaith yr 'Economi Sylfaenol' ledled Cymru fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd, gan gynnwys mesurau i wella amodau cyflogaeth yn y sectorau hynny.

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol diwygiedig ar Fil Cymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig ar gyfer Bil Cymru.

 

Gan fod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei chynnal heddiw, cytunodd y Rheolwyr Busnes i beidio â chyfeirio'r SLCM a'r SLCM diwygiedig at bwyllgor ar gyfer eu craffu.  

5.

Amserlen y Cynulliad

5.1

Dyddiadau Toriadau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes ddyddiadau'r toriadau yn 2017 ar gyfer y Pasg, y Sulgwyn a'r Haf, a chytunwyd ar ddyddiadau dros dro'r toriadau yn 2017 ar gyfer hanner tymor mis Hydref a'r Nadolig.

 

Toriad

Dyddiadau

Toriad y Pasg

(3 wythnos)

 

Dydd Llun 10 Ebrill 2017 - dydd Sul 30 Ebrill 2017

Hanner Tymor y Sulgwyn

(1 wythnos)

 

Dydd Llun 29 Mai 2017 – dydd Sul 4 Mehefin 2017

Toriad yr Haf

(8 wythnos)

 

Dydd Llun 24 Gorffennaf 2017 – dydd Sul 17 Medi 2017

Hanner Tymor Hydref

(1 wythnos)

 

Dydd Llun 30 Hydref 2017 – dydd Sul 5 Hydref 2017

Toriad y Nadolig

(3 wythnos)

 

Dydd Llun 18 Rhagfyr 2017 - Dydd Sul 7 Ionawr 2018