Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion i’w cyhoeddi.

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad am Gymunedau Cryf.                 

 

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad am yr Arllwysiad Olew yn Nantycaws, Caerfyrddin fel yr eitem olaf o fusnes cyn amser pleidleisio.

 

Byddai’r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

3.3

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i aildrefnu’r eitemau a ganlyn:


Dydd Mercher 19 Hydref 2016 -

 

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) - wedi symud i 2 Tachwedd.

Dydd Mercher 2 Tachwedd 2016 -

 

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (120 60 munud) – 1 awr wedi symud i 9 Tachwedd

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 19 Hydref 2016 -

 

  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor gan gynnwys Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches a Phlant ar eu Pen eu Hunain (30 munud)

 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Cymru Llywodraeth y DU (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 2 Tachwedd 2016 -

 

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

Dydd Mercher 9 Tachwedd 2016 -

 

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (120 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

3.4

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cais am ddadl ar ei adroddiad ar Fil Cymru Llywodraeth y DU

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnwys dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Cymru Llywodraeth y DU ar yr amserlen.

 

Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y bydd Bil Cymru yn destun cynnig cydsyniad deddfwriaethol a dadl maes o law, cytunodd y Rheolwyr Busnes na ddylid cyflwyno dim gwelliannau i’r cynnig tynnu sylw.

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio’r Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio’r penderfyniad ar amserlen y Bil tan gyfarfod yn y dyfodol, i roi amser i ymgynghori â’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

5.

Defnydd o Amser yn y Cyfarfod Llawn

5.1

Datganiadau’r Aelodau - canllawiau ar gyfer Aelodau

Cofnodion:

Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y canllawiau drafft sydd i’w dosbarthu i Aelodau cyn cyflwyno ‘datganiadau 90 eiliad’, a chytunwyd i ddosbarthu’r canllawiau i Aelodau yn amodol ar wneud rhai newidiadau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y cyntaf o’r datganiadau hyn ar yr amserlen ddydd Mercher 2 Tachwedd.

5.2

Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad

Cofnodion:

Ystyriodd y Rheolwyr Busnes bapur a oedd yn crynhoi’r diwygiadau a wnaed yn ystod y Pedwerydd Cynulliad a’r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor a oedd yn ei ragflaenu ar gynnal Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad, ochr yn ochr â phapur ar gyflwyno Cwestiynau Amserol.

 

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i’r Clerc weithio gyda swyddogion y Llywodraeth i gael eglurhad o ran ffigurau cymharol â deddfwrfeydd eraill, ac i bapur diwygiedig gael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor yng nghanol mis Tachwedd.