Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunodd
y Pwyllgor ar y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith yn gwneud datganiad ar Groesawu’n ôl Athletwyr Gemau Olympaidd a Pharalympaidd
Rio 2016 ar ddydd Mawrth. Byddai
Plaid Cymru yn defnyddio’r amser a neilltuwyd iddi i gynnal dwy ddadl 30 munud
ddydd Mercher. Byddai’r
Cyfnod Pleidleisio ar ddydd Mawrth yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn
y Ddadl Fer ar ddydd Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd
y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes
ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn
ar yr amserlen: Dydd Mercher 19 Hydref 2016
|
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i
gyfeirio’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi at y Pwyllgor Cyllid ar gyfer ei
ystyried. Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai’n rhaid i’r Bil gael ei basio cyn toriad yr haf er mwyn iddo ddod i rym erbyn mis Ebrill 2018, ac felly na ddylai fod cyfle i ymestyn yr amserlen ar gyfer y Bil ar ôl iddi gael ei chytuno. Nododd hefyd na fyddai modd i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar y Bil yn yr amser hwnnw; yn ei barn hi, dylai Rheolwyr Busnes ystyried cyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. |
|
Biliau Aelodau Cofnodion: Yn dilyn penderfyniad y Rheolwyr Busnes yn gynnar
yn y tymor diwethaf i adolygu’r broses ar gyfer Biliau Aelodau ar sail
argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y pedwerydd
Cynulliad, trafododd y Pwyllgor gynigion ar gyfer newid y drefn bresennol. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am grynodeb gan yr Ysgrifenyddiaeth ar yr opsiynau posibl. Gwahoddwyd y Pwyllgor i ymgynghori â’u grwpiau a dychwelyd at y mater ymhen tair wythnos. |
|
Pwyllgorau |
|
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cais i ymweld â Thŷ’r Arglwyddi Cofnodion: Cytunodd
y Rheolwyr Busnes i gais y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i
ymweld â Thŷ’r Arglwyddi ddydd Mercher 12 Hydref 2016. |
|
Rhaglen waith weithdrefnol |
|
Y defnydd o amser y Cynulliad Cofnodion: Yn
y cyfarfod ar 13 Medi, trafododd y Rheolwyr Busnes bapur ar y defnydd o amser y
Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn, gan gytuno i drafod y cynigion â’u grwpiau a
dychwelyd at y mater yng nghyfarfod heddiw. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapurau pellach ar ddatganiadau Aelodau a chwestiynau amserol, a chytunwyd y byddai angen cyfathrebu ag Aelodau ynglŷn â’r cyfleoedd sydd ganddynt i gyfrannu at wahanol fathau o fusnes yn y Cyfarfod Llawn. |
|
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr gan y Llywydd at y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â’r Adolygiad o Drefniadau Deisebau Cyhoeddus Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan y Llywydd at y Pwyllgor Deisebau yn holi a ydynt yn bwriadu bwrw ymlaen ag argymhelliad i gynnal dadleuon yn y Cyfarfod Llawn ar ddeisebau sy’n cyrraedd trothwy penodol o ran llofnodion, ac yn gofyn iddynt gadarnhau a ydynt am i’r Pwyllgor Busnes fwrw ymlaen â’r newid i’r Rheol Sefydlog a gynigiwyd yn adroddiad y pwyllgor blaenorol ar ei Adolygiad o Ddeisebau Cyhoeddus. |
|
Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Datganiadau Pwyllgorau yn y Cyfarfod Llawn Cofnodion: Nododd y Pwyllgor lythyr gan y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn nodi ei fwriad i gyflwyno datganiad ar Fil
Cymru yn yr wythnosau i ddod. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru / Dadl ar
Fil Cymru Gofynnodd y Llywydd pryd y byddai’r Llywodraeth yn
bwriadu cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru. Dywedodd Jane
Hutt wrth Reolwyr Busnes y byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor
maes o law. Datganiadau Pwyllgorau Yn ystod datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y
Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a
Llywodraeth Leol yn bresennol ar gyfer yr eitem. Dywedodd y Llywydd y byddai’n
annog hyn fel arfer da ar gyfer dadleuon Pwyllgorau yn y dyfodol. Dywedodd
Rheolwyr Busnes hefyd ei bod yn ddefnyddiol bod y datganiad wedi cael ei
ddosbarthu i bob Aelod cyn ei draddodi yn y Cyfarfod Llawn. Presenoldeb yn y Cyfarfod Llawn Dywedodd
y Llywydd fod rhai achlysuron yn ystod yr wythnosau diwethaf pan oedd
Ysgrifenyddion y Cabinet ac Aelodau wedi cyrraedd yn hwyr, neu wedi cyrraedd ar
y funud olaf, ar gyfer eitemau yr oeddent yn siarad ynddynt, a bod Aelodau
eraill wedi gadael y Siambr cyn diwedd yr eitemau. Atgoffwyd y Rheolwyr Busnes
o’r confensiynau yn y Siambr ac fe’u hanogwyd i godi’r mater gyda’u grwpiau. |