Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Roedd Nathan Gill AC yn bresennol yn y cyfarfod, yn unol â RhS 11.5(iii).

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion i'w cyhoeddi.

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Byddai’r Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y Rhaglen Lywodraethu ddydd Mawrth.

 

Byddai Plaid Cymru yn defnyddio'r amser a neilltuwyd i gynnal dwy ddadl 30 munud ddydd Mercher.

 

Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ddydd Mawrth yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ar ddydd Mercher.

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

3.3

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

Dydd Mercher 28 Medi 2016 –

·         Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar agwedd y Pwyllgor at ei gylch gorchwyl, a sut y mae'n bwriadu ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru (30 munud)

Dydd Mercher 12 Hydref 2016 -

  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl

  • Dewisodd y Pwyllgor Busnes 2 gynnig ar gyfer dadl.

Dydd Mercher 28 Medi 2016

  • NNDM6088

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniad i fynd i'r afael â TB buchol drwy ymrwymo i ddefnyddio'r dulliau mwyaf effeithiol o reoli a dileu TB buchol a sicrhau bod y profion a'r cyfyngiadau symud yn gymesur â statws y clefyd mewn ardal.

Dydd Mercher 12 Hydref 2016

  • NNDM6089

Lee Waters (Llanelli)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Huw Irranca-Davies (Ogwr)

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod amryfal fanteision iechyd a lles gweithgareddau corfforol.

2. Yn nodi mai dim ond 35 y cant o blant Cymru sy'n cael yr awr o weithgareddau corfforol a gaiff ei argymell sydd ei angen arnynt bob dydd.

3. Yn cydnabod potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i godi lefelau gweithgareddau corfforol ymysg pob grŵp oedran.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n llawn â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai'n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da.

4.

Pwyllgorau

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnig lle i Nathan Gill ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Cynigiodd UKIP ildio ei le ar y Pwyllgor fel bod ei faint yn aros yr un fath.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i adolygu'r Rheolau Sefydlog ar y diffiniad o grŵp, yn enwedig mewn perthynas ag Aelod yn gadael neu'n cael ei atal o grŵp, a'r berthynas gyda'r Pwyllgor Busnes.

Unrhyw Fusnes Arall

Amser ar gyfer Llefarwyr

 

Hysbysodd y Llywydd yr Aelodau o'i bwriad i ganiatáu dim ond dwy funud i lefarwyr i wneud eu sylwadau rhagarweiniol yn dilyn datganiad, cyn iddynt ddod at gwestiynau. Ni fydd cloc y Siambr yn cael ei osod ar gyfer pob Aelod, ond bydd y Llywydd yn ymyrryd os nad yw Aelod yn dod at gwestiynau ar ôl dwy funud.

 

Aberfan  

 

Hysbysodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes am ei bwriad i wahodd arweinwyr y pleidiau a Dawn Bowden AC (Merthyr Tudful a Rhymni) i wneud cyfraniad ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ar 19 Hydref, ynghyd â munud o dawelwch, i nodi 50 mlynedd ers Trychineb Aberfan. Nododd y Rheolwyr Busnes eu bod yn fodlon ar y trefniadau arfaethedig.