Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 119(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/02/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Datganiad y Llywydd Ar ran holl Aelodau’r Cynulliad, cafodd Jack
Sargeant ei groesawu i’r Cynulliad gan y Llywydd, ei longyfarch ar ei lwyddiant
diweddar yn is-etholiad Alun a Glannau Dyfrdwy, a’i wahodd i wneud datganiad. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.39. Gofynnwyd
y 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2 |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.31 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cynllun Gwaith Polisi Treth 2018, gan gynnwys Trethi Newydd Dogfen Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.50 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.50 |
|
Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: Cynigiodd y Llywydd fod eitemau 5 a 6 yn cael eu trafod
gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. Ni wrthwynebwyd hyn gan Aelod. |
||
Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 NDM6653
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
(Diwygiadau Canlyniadol) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Ionawr 2018.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.35 NDM6653
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
(Diwygiadau Canlyniadol) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Ionawr 2018 Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||
Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018 NDM6652
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru)
(Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2018.
Cofnodion: NDM6652
Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol)
(Cofrestru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol NDM6651
Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol, sy'n
ymwneud â sefydlu'r un corff arweiniad ariannol, i’r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2017
yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd
2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae copi o’r Bil i’w weld ar
wefan Senedd y DU: Bill
documents — Financial Guidance and Claims Bill [HL] 2017-19 — UK Parliament
(Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 NDM6651
Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arweiniad a Hawliadau
Ariannol, sy'n ymwneud â sefydlu'r un corff arweiniad ariannol, i’r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2017
yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd
2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae
copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU: Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl: Setliad terfynol yr Heddlu 2018-19 NDM6649
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988,
yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2018-2019 (Setliad
Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd
copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.44 NDM6649
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2)
2018-2019 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd
copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) NDM6655
Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol
Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Gosodwyd Bil
Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 16 Hydref 2017. Gosodwyd
adroddiad Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Bil
Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) gerbron y Cynulliad
ar 31 Ionawr 2018. Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.23 NDM6655
Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn
cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol
Cofrestredig (Cymru). Gosodwyd
Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad
ar 16 Hydref 2017. Gosodwyd
adroddiad Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Bil
Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) gerbron y Cynulliad
ar 31 Ionawr 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(5 munud) |
Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) NDM6656
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil
Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), yn cytuno i unrhyw
gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n
codi o ganlyniad i’r Bil. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.07 NDM6656
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n
deillio o’r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), yn
cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol
Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid
oedd cyfnod pleidleisio. |