Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 118(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 3
ag 8 gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.20 Gofynnwyd y 9 chwestiwn.
|
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbynniwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw
Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.52 Gwnaeth Jane Hutt
ddatganiad yn nodi can mlynedd ers i rai menywod ennill yr hawl i bleidleisio
(6 Chwefror), a thalu teyrnged i fenywod sy’n ymddangos yn Llwybr Menywod y
Barri. Gwnaeth Rhun ap Iorwerth
ddatganiad ar Ganser y Coluddyn, a gêm rygbi rhwng y Cynulliad a Thŷ’r
Cyffredin a fydd yn codi arian i elusen Bowel Cancer UK (10 Chwefror). Gwnaeth Dai Lloyd
ddatganiad ar Diwrnod Canser y Byd (4 Chwefror). |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig Comisiwn y Cynulliad: Ymgynghori ynghylch Diwygio'r Cynulliad NDM6646
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol
y Cynulliad. 2. Yn cymeradwyo penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i
ymgynghori ynghylch cynigion y Panel a diwygiadau eraill yn ymwneud ag
etholiadau, yr etholfraint a threfniadau mewnol y gellir eu rhoi ar waith o
ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017. Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad - Senedd sy'n Gweithio i
Gymru Deddf Cymru
2017 (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.58 NDM6646 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. 2.
Yn cymeradwyo penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i ymgynghori ynghylch cynigion
y Panel a diwygiadau eraill yn ymwneud ag etholiadau, yr etholfraint a
threfniadau mewnol y gellir eu rhoi ar waith o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil chwarae cynhwysol NDM6537
Vikki
Howells (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella
cyfleoedd chwarae cynhwysol drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol a fyddai'n
golygu bod rhaid iddynt ddarparu offer chwarae sy'n diwallu anghenion plant ag
anableddau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.37 NDM6537 Vikki Howells (Cwm Cynon) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella cyfleoedd chwarae cynhwysol drwy
osod dyletswydd ar awdurdodau lleol a fyddai'n golygu bod rhaid iddynt ddarparu
offer chwarae sy'n diwallu anghenion plant ag anableddau. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Ffordd liniaru arfaethedig yr M4 NDM6647
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn penderfynu na ddylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu
ffordd liniaru arfaethedig yr M4 heb bleidlais ystyrlon ar gynnig o sylwedd yn
y Cynulliad yn dilyn casgliad yr ymchwiliad cyhoeddus presennol. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod bod ymchwiliad cyhoeddus gan arolygwyr
annibynnol i brosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn parhau i fynd
rhagddo ac ni ddylid gwneud unrhyw beth i amharu ar ganlyniad yr ymchwiliad,
adroddiad yr archwilwyr neu’r broses statudol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.02 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6647 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn penderfynu na ddylai
Llywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu ffordd liniaru arfaethedig yr M4 heb
bleidlais ystyrlon ar gynnig o sylwedd yn y Cynulliad yn dilyn casgliad yr
ymchwiliad cyhoeddus presennol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod bod ymchwiliad cyhoeddus gan arolygwyr
annibynnol i brosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn parhau i fynd
rhagddo ac ni ddylid gwneud unrhyw beth i amharu ar ganlyniad yr ymchwiliad,
adroddiad yr archwilwyr neu’r broses statudol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6647 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod bod ymchwiliad cyhoeddus gan arolygwyr
annibynnol i brosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn parhau i fynd
rhagddo ac ni ddylid gwneud unrhyw beth i amharu ar ganlyniad yr ymchwiliad,
adroddiad yr archwilwyr neu’r broses statudol.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig – Diwygio Etholiadol y Cynulliad NDM6645
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio
Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'. 2. Yn credu: a) ar hyn o bryd, na ddylai fod unrhyw gynnydd yn nifer
aelodau etholedig y Cynulliad; a b) bod yn rhaid i etholwyr nodi eu caniatâd ar gyfer
unrhyw gynnydd yn nifer yr aelodau etholedig yn y dyfodol drwy refferendwm. Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad - Senedd sy'n Gweithio i Gymru Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl pwynt 1. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.04 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6645 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Adroddiad y Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'. 2. Yn credu: a) ar hyn o bryd, na ddylai fod
unrhyw gynnydd yn nifer aelodau etholedig y Cynulliad; a b) bod yn rhaid i etholwyr nodi
eu caniatâd ar gyfer unrhyw gynnydd yn nifer yr aelodau etholedig yn y dyfodol
drwy refferendwm.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl pwynt 1. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6645 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.30 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6648
Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Rôl ysbytai cymunedol yng ngofal iechyd yn y 21ain ganrif Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.34 NDM6648 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Rôl
ysbytai cymunedol yng ngofal iechyd yn y 21ain ganrif |