Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 60(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.58, bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn ateb cwestiynau ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.58, atebodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

 

Gofynnwyd cwestiynau 1 – 8 a 10 - 11. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

 

Gofynnwyd y 5 cwestiwn.

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 14.42

 

I Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:

 

David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cynnal â Llywodraeth y DU ynghylch y penderfyniad i adeiladu carchar ym Mhort Talbot? EAQ(5)0124(CC)

(5 munud)

3.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.07

 

Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau.

(60 munud)

4.

Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6259
 
Jeremy Miles (Castell-nedd)
Lee Waters (Llanelli)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a'r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd.

2. Yn nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn gysylltiedig â'r môr eisoes yn werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal degau o filoedd o swyddi.

3. Yn credu y bydd ymrwymiad strategol i'r economi las yn galluogi Cymru i droi ein moroedd yn un o'n hasedion economaidd mwyaf.

4. Yn credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a dyframaethu, a gweithgynhyrchu a pheirianneg morol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.07

NDM6259

Jeremy Miles (Castell-nedd)
Lee Waters (Llanelli)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a'r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd.

2. Yn nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn gysylltiedig â'r môr eisoes yn werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal degau o filoedd o swyddi.

3. Yn credu y bydd ymrwymiad strategol i'r economi las yn galluogi Cymru i droi ein moroedd yn un o'n hasedion economaidd mwyaf.

4. Yn credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a dyframaethu, a gweithgynhyrchu a pheirianneg morol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Datganiad y Llywydd

 

Am 15.57, gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn sgil y digwyddiadau a oedd yn mynd rhagddynt yn San Steffan. Cymerwyd y camau diogelwch priodol yn y Cynulliad, ac roedd y mater yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Dywedodd y Llywydd bod ein meddyliau gyda’n cydweithwyr a phawb yn San Steffan yn y cyfnod anodd hwn.

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd

NDM6267 David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i'r goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2017.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2017.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.04

 

Datganiad y Llywydd

 

Am 16.17, bu i’r Llywydd ohirio trafodion y diwrnod yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, yn sgil yr hyn oedd yn cael ei drin i fod yn ddigwyddiad difrifol o frawychiaeth yn San Steffan. Caiff busnes y Cynulliad ei aildrefnu maes o law.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 16.18

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Mawrth 2017.

(60 munud)

6.

Dadl Plaid Cymru

NDM6268 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu prosiectau seilwaith yng Nghymru a thu hwnt. 

2. Yn credu bod angen diwygio proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn elwa'n llawn ar botensial cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pŵer prynu sector cyhoeddus Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gyflwyno Bil Caffael i'w gwneud yn ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, er mwyn sicrhau bod adeiladu yn cael yr effaith gymdeithasol ac economaidd fwyaf bosibl;

b) sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau y caiff y dyheadau yn Natganiad Polisi Caffael Cymru eu gwireddu;

c) codi lefelau gwariant seilwaith cyfalaf er mwyn hybu'r economi yng Nghymru, gan roi hwb angenrheidiol i'r sector adeiladu;

d) ystyried yr achos dros sefydlu Coleg Adeiladu Cenedlaethol i Gymru er mwyn meithrin sgiliau o ansawdd uchel yn y diwydiant adeiladu.

'Datganiad Polisi Caffael Cymru'

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru yn datblygu Datganiad Polisi Caffael Cymru sydd wedi lleihau rhwystrau rhag caffael ar gyfer busnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru.

3. Yn cydnabod yr angen i gynyddu gallu o fewn sector cyhoeddus Cymru i fanteisio i'r eithaf ar effaith gwariant caffael o fewn economi Cymru.

4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer caffael er mwyn helpu i alluogi sector cyhoeddus Cymru i wneud defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth ar draws Cymru.

5. Yn cydnabod cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd caffael sylweddol sy'n cael eu cyflwyno gan gynlluniau Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru; rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; ffordd liniaru'r M4; adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth Cymru a phrosiectau seilwaith sylweddol eraill.

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau a fydd yn rhoi contractau'r sector cyhoeddus o fewn cyrraedd cwmnïau Cymru, yn arbennig busnesau bach a chanolig.

7.

Cyfnod pleidleisio

(30 munud)

8.

Dadl Fer

NDM6266 Dawn Bowden (Merthyr Tydfil a Rhymni)
 
Undebau Credyd: Cyfraniad allweddol i fynd i'r afael ag allgáu ariannol