Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 283(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/07/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau ar Srebrenica Dechreuodd yr eitem am 11.02 Gwnaeth y Llywydd, y Prif Weinidog a David Melding
ddatganiadau am Srebrenica |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Dechreuodd yr eitem am 11.08 Croesawodd
y Llywydd Laura Anne Jones, yr Aelod newydd dros ranbarth Dwyrain De Cymru, a’i
gwahodd i ddweud ychydig o eiriau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 11.12 Gofynnwyd
cwestiynau 1-3 a 5-7. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 12.07 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 12.23 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Am
13.14 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro tan 14.01. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.01 Gofynnwyd
cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 6 ac 8 gan y
Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant,
Chwaraeon a Thwristiaeth Sian
Gwenllian (Arfon): A
wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gefnogaeth fydd ar
gael i'r celfyddydau yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi pecyn i
gefnogi'r sector ymdopi ag effeithiau Covid-19? I’w ateb gan Gweinidog yr Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd
Cymru Carwyn Jones (Pen-y-bont): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad
yn dilyn adroddiadau bod Ineos yn ailystyried ei benderfyniad i adeiladu ffatri
newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.48 I’w
ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Sian
Gwenllian (Arfon): A
wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gefnogaeth fydd ar
gael i'r celfyddydau yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi pecyn i
gefnogi'r sector ymdopi ag effeithiau Covid-19? I’w
ateb gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Carwyn
Jones (Pen-y-bont ar Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn
adroddiadau bod Ineos yn ailystyried ei benderfyniad i adeiladu ffatri newydd
ym Mhen-y-bont ar Ogwr? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Weinidog Addysg: Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.13 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ffermio Cynaliadwy: dyfodol y gefnogaeth i amaethyddiaeth Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.09 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Effaith Covid-19 ar Chwaraeon NDM7344 Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith yr achosion o Covid-19
ar chwaraeon, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.50 NDM7344 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith yr
achosion o Covid-19 ar chwaraeon, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2020. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Am 17.23, cafwyd
egwyl technegol, ailddechreuodd y trafodion am 17.25. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-967 -Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru NDM7343 Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb
'P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi
annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru' a gasglodd
5,790 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.35 NDM7343 Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb 'P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar
ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng
Nghymru' a gasglodd 5,790 o lofnodion. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid-19 a Thrafnidiaeth NDM7345 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu
llacio'r cyfyngiadau diweddar ar deithio yn ystod coronafeirws. 2. Yn cydnabod effaith
andwyol y cyfyngiadau teithio blaenorol ar berthnasoedd personol, iechyd meddwl
a lles pobl, a manwerthwyr. 3. Yn gresynu at
fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau yng
Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws. 4. Yn mynegi siom bod
Llywodraeth Cymru wedi peidio â chefnogi cwmnïau hedfan i hedfan o Faes Awyr
Caerdydd. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) diystyru'r angen i
gyflwyno gofynion cwarantin i breswylwyr sy'n teithio i Gymru o'r tu mewn i'r
Ardal Deithio Gyffredin; b) mynd ati ar frys i
adolygu a chynyddu'r cymorth sydd ar gael i weithredwyr bysiau yng Nghymru, er
mwyn eu galluogi i gynyddu amlder a chapasiti
gwasanaethau bysiau i bobl Cymru; c) hyrwyddo'r broses o
sefydlu llwybrau newydd o Faes Awyr Caerdydd i gyrchfannau diogel ledled y byd
er mwyn ei helpu i lamu yn ôl o'r pandemig coronafeirws. Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi nad yw Coronafeirws wedi diflannu er gwaethaf y ffaith bod y
trosglwyddiad o fewn cymunedau wedi lleihau yn sgil y mesurau sydd wedi’u
cyflwyno. Mae hyn yn cyfiawnhau dull gofalus Llywodraeth Cymru o gydbwyso’r
peryglon i iechyd y cyhoedd â pheryglon economaidd, cymdeithasol ac eraill, gan
gynnwys teithio. 2. Yn cydnabod y
pwysau sylweddol y mae’r Coronafeirws wedi’i roi ar
gyllid Llywodraeth Cymru, a heb hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae
buddsoddiad uwch mewn un maes, fel iechyd, cymorth i fusnesau neu drafnidiaeth
yn golygu bod llai o gyllid ar gael ar gyfer meysydd eraill. 3. Yn croesawu’r pecyn
sylweddol o gymorth brys sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn
achub cwmnïau bysiau a threnau yng Nghymru yn ystod y pandemig. 4. Yn cydnabod
swyddogaeth bwysig Maes Awyr Caerdydd yn ystod yr argyfwng, gan helpu i gludo
cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol i Gymru. 5. Yn nodi gwaith
Llywodraeth Cymru: a) gyda llywodraethau
eraill datganoledig er mwyn ystyried dull ar draws y pedair gwlad ar gyfer codi
cyfyngiadau teithio rhyngwladol; b) gyda chwmnïau
bysiau ac awdurdodau lleol er mwyn ystyried cynyddu gwasanaethau mewn modd
priodol a rheoli hyn mewn modd cynaliadwy yn y dyfodol; ac c) gyda Maes Awyr
Caerdydd er mwyn ystyried llwybrau teithio newydd a diogelu ei ddyfodol fel
rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar draws Cymru, a hynny er
gwaethaf gwrthwynebiad parhaus gan Lywodraeth y DU mewn maes polisi sydd wedi’i
gadw i raddau helaeth er mwyn sicrhau bod meysydd awyr rhanbarthol oll yn cael
eu trin yn yr un modd. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Siân
Gwenllian (Arfon) Dileu pwynt 5(a) a
rhoi yn ei le: 'cytuno i sefydlu
pontydd awyr i wledydd eraill pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a chadw
trefniadau teithio o dan adolygiad parhaus; ' Gwelliant 3 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 5: 'sicrhau bod gwisgo
gorchuddion wyneb yn orfodol ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus; ' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.52 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7345 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu llacio'r
cyfyngiadau diweddar ar deithio yn ystod coronafeirws. 2. Yn cydnabod effaith andwyol
y cyfyngiadau teithio blaenorol ar berthnasoedd personol, iechyd meddwl a lles
pobl, a manwerthwyr. 3. Yn gresynu at fethiant
Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau yng Nghymru
yn ystod y pandemig coronafeirws. 4. Yn mynegi siom bod Llywodraeth
Cymru wedi peidio â chefnogi cwmnïau hedfan i hedfan o Faes Awyr Caerdydd. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) diystyru'r angen i gyflwyno
gofynion cwarantin i breswylwyr sy'n teithio i Gymru o'r tu mewn i'r Ardal
Deithio Gyffredin; b) mynd ati ar frys i adolygu a
chynyddu'r cymorth sydd ar gael i weithredwyr bysiau yng Nghymru, er mwyn eu
galluogi i gynyddu amlder a chapasiti gwasanaethau bysiau i bobl
Cymru; c) hyrwyddo'r broses o sefydlu
llwybrau newydd o Faes Awyr Caerdydd i gyrchfannau diogel ledled y byd er mwyn
ei helpu i lamu yn ôl o'r pandemig coronafeirws.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi nad yw Coronafeirws wedi diflannu er
gwaethaf y ffaith bod y trosglwyddiad o fewn cymunedau wedi lleihau yn sgil y
mesurau sydd wedi’u cyflwyno. Mae hyn yn cyfiawnhau dull gofalus Llywodraeth
Cymru o gydbwyso’r peryglon i iechyd y cyhoedd â pheryglon economaidd,
cymdeithasol ac eraill, gan gynnwys teithio. 2. Yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae’r Coronafeirws wedi’i
roi ar gyllid Llywodraeth Cymru, a heb hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth y
DU, mae buddsoddiad uwch mewn un maes, fel iechyd, cymorth i fusnesau neu
drafnidiaeth yn golygu bod llai o gyllid ar gael ar gyfer meysydd eraill. 3. Yn croesawu’r pecyn sylweddol o gymorth brys sydd
wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn achub cwmnïau bysiau a threnau yng
Nghymru yn ystod y pandemig. 4. Yn cydnabod swyddogaeth bwysig Maes Awyr Caerdydd yn
ystod yr argyfwng, gan helpu i gludo cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol i
Gymru. 5. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru: a) gyda llywodraethau eraill datganoledig er mwyn
ystyried dull ar draws y pedair gwlad ar gyfer codi cyfyngiadau teithio
rhyngwladol; b) gyda chwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol er mwyn
ystyried cynyddu gwasanaethau mewn modd priodol a rheoli hyn mewn modd
cynaliadwy yn y dyfodol; ac c) gyda Maes Awyr Caerdydd er mwyn ystyried llwybrau
teithio newydd a diogelu ei ddyfodol fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus
integredig ar draws Cymru, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad parhaus gan
Lywodraeth y DU mewn maes polisi sydd wedi’i gadw i raddau helaeth er mwyn
sicrhau bod meysydd awyr rhanbarthol oll yn cael eu trin yn yr un modd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7345 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi nad yw Coronafeirws wedi diflannu er
gwaethaf y ffaith bod y trosglwyddiad o fewn cymunedau wedi lleihau yn sgil y
mesurau sydd wedi’u cyflwyno. Mae hyn yn cyfiawnhau dull gofalus Llywodraeth
Cymru o gydbwyso’r peryglon i iechyd y cyhoedd â pheryglon economaidd,
cymdeithasol ac eraill, gan gynnwys teithio. 2. Yn cydnabod y pwysau sylweddol y
mae’r Coronafeirws wedi’i roi ar gyllid Llywodraeth Cymru, a heb
hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae buddsoddiad uwch mewn un maes,
fel iechyd, cymorth i fusnesau neu drafnidiaeth yn golygu bod llai o gyllid ar
gael ar gyfer meysydd eraill. 3. Yn croesawu’r pecyn sylweddol o gymorth brys sydd
wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn achub cwmnïau bysiau a threnau yng
Nghymru yn ystod y pandemig. 4. Yn cydnabod swyddogaeth bwysig Maes Awyr Caerdydd yn
ystod yr argyfwng, gan helpu i gludo cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol i
Gymru. 5. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru: a) gyda llywodraethau eraill datganoledig er mwyn
ystyried dull ar draws y pedair gwlad ar gyfer codi cyfyngiadau teithio
rhyngwladol; b) gyda chwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol er mwyn
ystyried cynyddu gwasanaethau mewn modd priodol a rheoli hyn mewn modd
cynaliadwy yn y dyfodol; ac c) gyda Maes Awyr Caerdydd er mwyn ystyried llwybrau
teithio newydd a diogelu ei ddyfodol fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus
integredig ar draws Cymru, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad parhaus gan
Lywodraeth y DU mewn maes polisi sydd wedi’i gadw i raddau helaeth er mwyn
sicrhau bod meysydd awyr rhanbarthol oll yn cael eu trin yn yr un modd.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 19.02, cafodd y trafodion
eu hatal dros dro am 5 munud er mwyn caniatáu ar gyfer egwyl technegol cyn y
cyfnod pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 19.07 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Cyfnod 3 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) Yn unol â Rheol Sefydlog
26.68, mae’r Llywydd wedi penderfynu nad yw’r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau
(Cymru) yn gofyn am benderfyniad ariannol. Mae’r Llywydd wedi ystyried y
gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 3 yn unol â Rheol Sefydlog 26.72, ac mae
wedi penderfynu nad yw effeithiau unrhyw un o’r gwelliannau, neu’r gwelliannau
oll, os cytunir arnynt, yn gofyn am benderfyniadau ariannol. Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn
cael eu trafod fel a ganlyn: 1. Trosedd i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn
syrcasau teithiol 1,
3, 2 2. Pwerau arolygu 4,
5, 6, 7, 8, 9 Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.10 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 19.24, cafodd y
trafodion eu hatal dros dro am 5 munud cyn pleidleisio ar welliannau 1, 3 a 2. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant
1. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant
3. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 19.38, cafodd y
trafodion eu hatal dros dro am 5 munud cyn pleidleisio ar weddill y
gwelliannau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant
4. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant
5. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant
6. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant
7. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Gwrthodwyd gwelliant
8. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Gwrthodwyd gwelliant
9. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |