Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 281
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dechreuodd yr eitem am
12.30 Dywedodd y Llywydd, ar ôl
ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34
yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda. Dywedodd y Llywydd fod y
cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r
Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond
byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn
cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol. Cafodd yr Aelodau eu
hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau
a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn. |
||||||||||
Teyrngedau i Mohammad Asghar AS Dechreuodd
yr eitem am 12.31 |
||||||||||
(5 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.45 |
|||||||||
Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Cyhoeddwyd fel datganiad ysgrifenedig |
||||||||||
Cwestiynau Amserol Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni
dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
||||||||||
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Cyhoeddwyd fel datganiad ysgrifenedig |
||||||||||
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - COVID-19: Adferiad Cofnodion: Cyhoeddwyd fel datganiad ysgrifenedig |
||||||||||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân |
||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 NDM7332 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4)
2020 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2020. Dogfennau Ategol Cofnodion: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 13.47 NDM7332 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 NDM7333 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5)
2020 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mehefin 2020. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.47 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7333 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru)
(Diwygio) (Rhif 5) 2020 a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mehefin 2020. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||
Dadl Plaid Brexit - Codi'r Cyfyngiadau Symud NDM7334 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru: a) i gyflymu'r gwaith o
godi mesurau'r cyfyngiadau symud; b) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i gefnogi dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan; c) hwyluso ail-agor
economi Cymru yn gyflymach; d) diystyru codi
cyfraddau treth incwm Cymru i dalu costau ymestyn y cyfyngiadau symud. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Sicrhau bod y broses o lacio'r cyfyngiadau symud yn
digwydd yn ddiogel drwy sicrhau bod y rhaglen lymaf bosibl o brofi, olrhain,
ynysu a thrin yn cael ei rhoi ar waith. Cofnodion: Mae’r eitem
wedi'i gohirio tan 24 Mehefin |
||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.52 Fel y
nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog
34.11. Enwebodd pob
grŵp
gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd
o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn
cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp
hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth. Roedd Aelodau nad ydynt
yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain. |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |