Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 278(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dechreuodd
yr eitem am 10.58 Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn
rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo
yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at
ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor
Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob
un ohonynt ar yr agenda. Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol
Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel
sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael
ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y
ffordd arferol. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y
byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod
Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad y Llywydd Dechreuodd
yr eitem am 10.59 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 10.59 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 11.00 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Dirprwy
Weinidog a’r Prif
Chwip Neil McEvoy (Canol De Cymru): Yng
ngoleuni'r digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau, ar draws y byd a phrotestiadau
yng Nghymru yn dilyn marwolaeth George Floyd, a wnaiff Llywodraeth Cymru
amlinellu ei pholisïau ar gydlyniant cymunedol? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 12.08 Gofyn i’r Dirprwy
Weinidog a’r Prif Chwip Neil
McEvoy (Canol De Cymru):
Yng ngoleuni'r digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau, ar draws y byd a phrotestiadau
yng Nghymru yn dilyn marwolaeth George Floyd, a wnaiff Llywodraeth Cymru
amlinellu ei pholisïau ar gydlyniant cymunedol? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 13.20 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddarpariaeth Addysg Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 14.34 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.45 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 NDM7327 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau
Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol)
(Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mai 2020.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.37 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7327 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau
Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol)
(Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mai 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig: Derbyniwyd y cynnig
Derbyniwyd y cynnig Derbyniwyd y cynnig. D |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymchwiliad annibynnol i Covid-19 NDM7328 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn galw am ymchwiliad annibynnol wedi'i arwain gan farnwr
a benodir gan y Senedd, i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r
pandemig Covid-19, i'w gychwyn ar ddyddiad priodol, pan fydd y pandemig o dan
reolaeth, ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru. Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu 'wedi'i arwain
gan farnwr a benodir gan y Senedd'. Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu “ac i'w gwblhau
cyn etholiad nesaf Senedd Cymru”. [Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon) Dileu 'ac i'w gwblhau'
a rhoi yn ei le 'ac i adroddiad cychwynnol ar ei ganfyddiadau gael ei gyflwyno
' Gwelliant 4 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am gychwyn
ymchwiliad annibynnol yn cydredeg, wedi'i arwain gan farnwr, i'r modd y mae
Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.45 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7328 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn galw am ymchwiliad annibynnol wedi'i arwain gan farnwr
a benodir gan y Senedd, i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r
pandemig Covid-19, i'w gychwyn ar ddyddiad priodol, pan fydd y pandemig o dan
reolaeth, ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu 'wedi'i arwain gan
farnwr a benodir gan y Senedd'. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu “ac i'w gwblhau
cyn etholiad nesaf Senedd Cymru”. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn,
cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol Gwelliant 4 - Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am gychwyn ymchwiliad
annibynnol yn cydredeg, wedi'i arwain gan farnwr, i'r modd y mae Llywodraeth y
DU wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7328 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn galw am ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y mae
Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19, i'w gychwyn ar ddyddiad
priodol, pan fydd y pandemig o dan reolaeth.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.51 Fel y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol
Sefydlog 34.11. Enwebodd pob grŵp
gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o
bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd
â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o
aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth.
Roedd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio
drostynt eu hunain. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |