Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 277(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/05/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Dechreuodd
yr eitem am 13.33 Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn
rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo
yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at
ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor
Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob
un ohonynt ar yr agenda. Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol
Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel
sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael
ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y
ffordd arferol. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y
byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod
Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn. |
||
(5 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.34 |
|
(60 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.34 |
|
Pwynt o Drefn Cododd Adam Price bwynt o drefn yn gofyn i’r Llywydd
ddefnyddio ei phwerau o dan Reol Sefydlog 12.17 neu 12.18 i newid trefn busnes
heddiw neu ohirio’r cyfarfod dros dro er mwyn sicrhau cyfle i’r Aelodau astudio
dogfen COVID-19 y Llywodraeth ‘Strategaeth Profi Olrhain Diogelu’, a gyhoeddwyd
8 munud yn unig cyn dechrau’r Cyfarfod Llawn, yn ymwneud â’r datganiad y
byddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei wneud. Cafodd pwysigrwydd y ddogfen ei gydnabod gan y Llywydd a dywedodd ei bod yn arfer da i
ddosbarthu datganiadau cyn iddynt gael eu rhoi, ond nid oedd yn credu ei bod yn
briodol ar hyn o bryd i oedi’r datganiad. |
||
Cwestiynau Amserol Ni ddewiswyd unrhyw
Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.48 Am
16.04 gohiriwyd y cyfarfod am 10 munud. |
|
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y goblygiadau cyllidol i Gymru yn sgil effaith COVID-19 a'r ymateb iddo Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.16 |
|
(60 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.11 |