Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 274 (v2) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/04/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. 

Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda. 

Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn. 

(5 munud)

1.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.32

(45 munud)

2.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (Covid-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.34

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (Covid-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.37

(45 munud)

4.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19)

Cofnodion:

Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Llywydd am un funud am 15.51 oherwydd diffyg ar y meicroffonau, cyn ailymgynnull

Dechreuodd yr eitem am 15.52

Pwyntiau o Drefn

Pwynt o Drefn 1

Cododd Neil McEvoy bwynt o drefn ynghylch y posibilrwydd o ddychwelyd at yr agenda fusnes arferol ar y sail fod y Cyfarfod Llawn bellach yn cael ei gynnal ar ffurf sesiynau rhithwir ac nad ydynt yn peri risg i iechyd cyhoeddus. Dywedodd y Dirprwy Lywydd mai barn unfrydol y Pwyllgor Busnes fu y dylai busnes y Cyfarfod Llawn ganolbwyntio ar glywed datganiadau yn ymwneud â’r argyfwng iechyd cyhoeddus rydym yn ei wynebu, ac i’r Aelodau holi Gweinidogion ar y datganiadau hynny. Fodd bynnag, dywedodd y Dirprwy Lywydd y bydd y Pwyllgor Busnes yn adolygu’r penderfyniadau hynny’n wythnosol.

Pwynt o Drefn 2

Cododd Sian Gwenllian bwynt o drefn ynghylch sylwadau’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol oddi ar gamera, tuag at gyd-Aelod a oedd wedi gofyn cwestiynau iddo yn ystod ei ddatganiad. Dywedodd y Dirprwy Lywydd y byddai’n adolygu’r cofnod ac yn dychwelyd at y mater.

 

5.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 - gohiriwyd tan 29 Ebrill 2020