Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 273(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/04/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad gan y Llywydd Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori
â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys -
nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda. Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod
Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r
cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei
gyhoeddi yn y ffordd arferol. |
||||||||||
(5 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.33 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (Covid-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.33 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ymateb i'r Coronafeirws (Covid-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.52 |
|||||||||
Derbyniwyd y cynnig o dan Reolau Sefydlog 12.24 a 12.40 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd a'u bod yn destun un bleidlais (60 munud) Am 16.00 gohiriwyd y cyfarfod am 15 munud. |
||||||||||
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) NDM7307 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Gosodwyd y Bil
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 18 Tachwedd 2019; Gosodwyd
adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 13 Mawrth 2020. Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.15 Dyfarniad
y Llywydd 16.22
- Yn unol â Rheol Sefydlog 13.11, dywedodd y Llywydd ei bod yn
ofynnol Neil McEvoy ymneilltuo o drafodion y Cynulliad Gohiriwyd pleidlais
ar y cynigion o dan eitemau 4 a 5 tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7307 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Cafodd y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 18 Tachwedd 2019; Cafodd adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil Llywodraeth Leol
ac Etholiadau (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 13 Mawrth 2020. |
||||||||||
Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) NDM7308 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio
o’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn
gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o
ganlyniad i’r Bil. Cofnodion: NDM7308 - Rebecca
Evans (Gŵyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n
deillio o'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), yn cytuno i unrhyw
gynnydd mewn gwariant o fath y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi
o ganlyniad i'r Bil. Fel
y nodir ar yr Agenda, cynhelir pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog
34.11. Enwebodd
pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un
nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp
gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o
bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau
eraill o'r llywodraeth. Roedd aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu
grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain. Cynhaliwyd
y pleidleisiau trwy alw'r gofrestr. Gan
fod y Cynulliad wedi cytuno i grwpio'r cynigion ar Egwyddorion Cyffredinol a
Phenderfyniad Ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ar gyfer
pleidleisio, cafwyd un bleidlais fel a ganlyn.
Canlyniad
y bleidlais ar y cynigion oedd:
Derbyniwyd y cynigion. |
||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.30 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |