Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Senedd
Amseriad disgwyliedig: 272(v1)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/04/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Datganiad gan y Llywydd Dechreuodd
yr eitem am 14:00 Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir cyntaf o Gynulliad
Cenedlaethol Cymru, a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy
gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn
gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes,
y bydd darpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys o ran cworwm, pleidlais wedi’i
phwysoli a datgymhwyso’r gofynion ar gyfer cwestiynau llafar. Rhoddodd hysbysiad, hefyd, yn unol â Rheol Sefydlog
34.17, nad oedd yn ymarferol i'r cyfarfod gael ei ddarlledu'n fyw. Bydd
recordiad ar gael ar Senedd TV cyn gynted â phosibl ar ôl i'r cyfarfod ddod i
ben a chyhoeddir cofnod o'r trafodion yn y ffordd arferol. Cafodd yr Aelodai eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd bod
Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn
yn gymwys i’r cyfarfod hwn. |
||
(5 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 14.03 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (Covid-19) Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 14.05 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (Covid-19) Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 14.58 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb economaidd i Covid-19 Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 15.58 |
|
Datganiad gan y Llywydd Diolchodd y Llywydd i’r Aelodau a’r swyddogion am eu
gwaith wrth gynnal y sesiwn arbennig hon o’r Cyfarfod Llawn, a dywedodd bod
atebolrwydd democrataidd yn parhau i wella, hyd yn oedd yn ystod yr adegau
mwyaf heriol hyn ac y byddwn yn parhau i gynnal sesiynau rhithwir o’r Cyfarfod
Llawn cyhyd ag y bydd angen. |