Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 268(v6) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1, 2, 4, 5 a 10. Tynnwyd cwestiynau 3 a 6-9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.25

 

(60 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-19)

Cofnodion:

Gan nad oedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu bod yn bresennol ar gyfer dechrau’r datganiad, cynigiodd y Llywydd symud i Eitem 4, cyn cymryd eitem 3. Nid oedd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu.

Dechreuodd yr eitem am 15.55.

Y bwriad oedd i’r Gweinidog wneud ei ddatganiad drwy linc fideo, ond oherwydd anawsterau technegol, gwnaeth y Prif Weinidog y datganiad ac atebodd gwestiynau’r Aelodau.

(60 munud)

4.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Coronafeirws (COVID-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.42

(60 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.16

(0 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) - WEDI'I OHIRIO

(0 munud)

7.

Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adroddiad y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd - I'W GYHOEDDI FEL DATGANIAD YSGRIFENEDIG

(0 munud)

8.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith i wella ansawdd a pherfformiad mewn gofal brys ac argyfwng - I'W GYHOEDDI FEL DATGANIAD YSGRIFENEDIG

(15 munud)

9.

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

NDM7298 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2020. 

Dogfennau Atodol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.54

NDM7298 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2020. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

10.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham

NDM7300 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2019-21

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau


Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.56

NDM7300 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

11.

Dadl: Cyfnod 4 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

NDM7306Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (heb ei wirio)

Dogfen Ategol
Datganiad y Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 26.50A

Cofnodion:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7306Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

1

16

39

Derbyniwyd y cynnig.

12.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.15

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(0 munud)

13.

Dadl: Cyfnod 3 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - WEDI'I OHIRIO

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd wedi penderfynu nad yw’r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) yn gofyn am benderfyniad ariannol.

Mae’r Llywydd wedi ystyried y gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 3 yn unol â Rheol Sefydlog 26.72, ac mae wedi penderfynu nad yw effeithiau unrhyw un o’r gwelliannau, neu’r gwelliannau oll, os cytunir arnynt, yn gofyn am benderfyniadau ariannol.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

1. Trosedd i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol  

1, 3, 2

2. Pwerau arolygu

4, 5, 6, 7, 8, 9

Dogfennau Ategol
Y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli
Grwpio Gwelliannau