Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 264(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Atebodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip gwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.48

(0 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - WEDI'I OHIRIO

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf ar Coronavirus (COVID-2019)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.59

(15 munud)

5.

Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020

NDM7279 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2020. 

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

NDM7279 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2020. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

6.

Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2020-2021

NDM7285 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch y cyfraddau Cymreig ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru 2020-21 fel a ganlyn:

a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c;

b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c;

c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.03

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

6

1

50

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

7.

Dadl: Cyllideb Derfynol 2020-2021

NDM7282 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 25 Chwefror 2020.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7282 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 25 Chwefror 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

1

22

50

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

8.

Dadl: Y Setliad Llywodraeth Leol 2020-2021

NDM7283 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2020-21 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2020.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.09

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7283 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2020-21 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

4

19

50

Derbyniwyd y cynnig.

(15 munud)

9.

Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2019-20

NDM7284 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 4 Chwefror 2020.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfen Atodol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn unol â Rheol Sefydlog 20.37, yn cytuno bod yr adnoddau sy’n cronni ac sydd i’w cadw gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan Ran 3 o Atodlen 4 o Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 a’r Grynodeb o’r Gofynion Adnoddau a Chyfalaf ar gyfer Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ar dudalen 6, yn cael ei ddiwygio o £14,825,000 i £14,775,000, fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru i’r Pwyllgor Cyllid i’w ystyried yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror 2020; ac yn cytuno hefyd gyda’r newid cyfatebol i Atodlen 7 ar dudalen 29 fel bod Taliadau o Ffynonellau Eraill £50,000 yn fwy, a’r Symiau a Awdurdodwyd i’w Cadw gan Weinidogion Cymru a Chyrff a Ariennir yn Uniongyrchol £50,000 yn llai.

Explanatory Memorandum to the Finance Committee Regarding the Variation of the Estimate of the Wales Audit Office for the Year Ending 31 March 2020 (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

16

3

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7284 - Rebecca Evans (Gwyr)

1. Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 4 Chwefror 2020.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 20.37, yn cytuno bod yr adnoddau sy’n cronni ac sydd i’w cadw gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan Ran 3 o Atodlen 4 o Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 a’r Grynodeb o’r Gofynion Adnoddau a Chyfalaf ar gyfer Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ar dudalen 6, yn cael ei ddiwygio o £14,825,000 i £14,775,000, fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru i’r Pwyllgor Cyllid i’w ystyried yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror 2020; ac yn cytuno hefyd gyda’r newid cyfatebol i Atodlen 7 ar dudalen 29 fel bod Taliadau o Ffynonellau Eraill £50,000 yn fwy, a’r Symiau a Awdurdodwyd i’w Cadw gan Weinidogion Cymru a Chyrff a Ariennir yn Uniongyrchol £50,000 yn llai.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

20

3

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

(60 munud)

10.

Dadl: Cynnydd ar fynd i'r afael â Throseddau Casineb

NDM7281 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cytuno nad oes lle i droseddu casineb yng Nghymru.

2. Yn nodi ymdrechion Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i fynd i’r afael â throseddu casineb drwy roi mwy o hyder i ddioddefwyr ddod ymlaen, gwella’r ffordd y cofnodir troseddau casineb, a gweithio gyda chymunedau i atal troseddu casineb yn y dyfodol.

3. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i sicrhau bod dioddefwyr yn cael cyngor a gofal pwrpasol.

4. Yn cydnabod bod mynd i’r afael â throseddu casineb yn parhau’n flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi cynllun gweithredu troseddau casineb Llywodraeth y DU sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr.

Llywodraeth y DU - Action Against Hate: The UK Government's plan for tackling hate crime - 'two  years on' (Saesneg yn unig)

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y cynnydd o 17 y cant yn y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru y llynedd, o'i gymharu â chynnydd cyffredinol o 10 y cant ar draws Cymru a Lloegr gyfan.

Gwelliant 3 - Sian Gwenllian (Arfon)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod atal troseddau casineb yn sbardun strategol allweddol yn y broses o gynllunio a chreu system gyfiawnder i Gymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7281 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cytuno nad oes lle i droseddu casineb yng Nghymru.

2. Yn nodi ymdrechion Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i fynd i’r afael â throseddu casineb drwy roi mwy o hyder i ddioddefwyr ddod ymlaen, gwella’r ffordd y cofnodir troseddau casineb, a gweithio gyda chymunedau i atal troseddu casineb yn y dyfodol.

3. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i sicrhau bod dioddefwyr yn cael cyngor a gofal pwrpasol.

4. Yn cydnabod bod mynd i’r afael â throseddu casineb yn parhau’n flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi cynllun gweithredu troseddau casineb Llywodraeth y DU sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr.

Llywodraeth y DU - Action Against Hate: The UK Government's plan for tackling hate crime - 'two  years on'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

1

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y cynnydd o 17 y cant yn y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru y llynedd, o'i gymharu â chynnydd cyffredinol o 10 y cant ar draws Cymru a Lloegr gyfan.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

7

1

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod atal troseddau casineb yn sbardun strategol allweddol yn y broses o gynllunio a chreu system gyfiawnder i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

4

11

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7281 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cytuno nad oes lle i droseddu casineb yng Nghymru.

2. Yn nodi ymdrechion Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i fynd i’r afael â throseddu casineb drwy roi mwy o hyder i ddioddefwyr ddod ymlaen, gwella’r ffordd y cofnodir troseddau casineb, a gweithio gyda chymunedau i atal troseddu casineb yn y dyfodol.

3. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i sicrhau bod dioddefwyr yn cael cyngor a gofal pwrpasol.

4. Yn cydnabod bod mynd i’r afael â throseddu casineb yn parhau’n flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru.

5. Yn nodi cynllun gweithredu troseddau casineb Llywodraeth y DU sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr.

6. Yn gresynu at y cynnydd o 17 y cant yn y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru y llynedd, o'i gymharu â chynnydd cyffredinol o 10 y cant ar draws Cymru a Lloegr gyfan.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod atal troseddau casineb yn sbardun strategol allweddol yn y broses o gynllunio a chreu system gyfiawnder i Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

4

9

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 18.41 ar gyfer y cyfnod pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 18.41

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: