Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 255(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 2 gan y Dirprwy Weinidog.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.27 Gofynnwyd
cwestiynau 1-6, 8 a 10. Cafodd cwestiynau 1, 4 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i
gilydd. Ni ofynnwyd cwestiynau 7 a 9. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) NDM7231 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
darpariaethau yn y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad
Deddfwriaethol), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU. Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2020 yn unol â
Rheol Sefydlog 29.2. Bil
Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2019-20 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.11 NDM7231 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai darpariaethau yn y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad
Deddfwriaethol), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2020 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad
Deddfwriaethol) 2019-20 Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.21 Gwnaeth
Elin Jones ddatganiad am - Dathlu 60
mlynedd o Bapur Sain Aberystwyth - yr hynaf yng ngwledydd Prydain. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cefnogaeth mewn Profedigaeth ar ôl Hunanladdiad NDM7211 Lynne
Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod
colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol i deuluoedd,
ffrindiau a chymunedau cyfan. 2. Yn nodi'r cymorth
cyfyngedig sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi'r rhai sy'n dioddef profedigaeth
drwy hunanladdiad. 3. Yn nodi bod colli
rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg mawr ar gyfer marw drwy hunanladdiad a
bod cymorth i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan hanfodol o atal
hunanladdiad. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau ar frys bod cymorth ar gael i'r rhai sydd mewn galar
ar ôl hunanladdiad ledled Cymru fel rhan
o lwybr ôl-gyflawni cynhwysfawr i Gymru. Wrth wneud hynny, rhaid i Lywodraeth
Cymru sicrhau bod gwelliannau i wasanaethau a'r llwybr newydd yn cael eu llunio
ar y cyd gan y rhai sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.23 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7211 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod colli
rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol i deuluoedd, ffrindiau a
chymunedau cyfan. 2. Yn nodi'r cymorth
cyfyngedig sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi'r rhai sy'n dioddef profedigaeth
drwy hunanladdiad. 3. Yn nodi bod colli
rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg mawr ar gyfer marw drwy hunanladdiad a
bod cymorth i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan hanfodol o atal
hunanladdiad. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau ar frys bod cymorth ar gael i'r rhai sydd mewn galar ar
ôl hunanladdiad ledled Cymru fel rhan o lwybr ôl-gyflawni
cynhwysfawr i Gymru. Wrth wneud hynny, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod
gwelliannau i wasanaethau a'r llwybr newydd yn cael eu llunio ar y cyd gan y
rhai sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad. Cyd-gyflwynwyr Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Iechyd Meddwl yng nghyd-destun Plismona a dalfa'r Heddlu NDM7233 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Iechyd meddwl yng nghyd-destun
plismona a dalfa’r heddlu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 30 Hydref 2019. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.11 NDM7233 Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Iechyd meddwl yng
nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2019. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10
Rhagfyr 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - goblygiadau i Gymru NDM7237 David
Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i
Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - y goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 8 Tachwedd 2019. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru ar 15 Ionawr 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.40 NDM7237 David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i
Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - y goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Sgiliau'r Gweithlu ar ôl Brexit NDM7234 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
darpariaeth addysg bellach o ran datblygu sgiliau gweithlu Cymru i fodloni
gofynion economi Cymru ar ôl Brexit. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy: a) gynyddu'r cyllid i
addysg bellach; b) ehangu nifer y
prentisiaethau gradd yng Nghymru; c) creu lwfans dysgu
oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau; a d) datblygu Sefydliad
Technoleg yng ngogledd Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Ym mhwynt 2, mewnosod
fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (b) ac ail-rifo’n unol â hynny: ‘cynyddu rhwydweithiau cymorth i brentisiaid
drwy drefniadau partneriaeth ffurfiol gyda cholegau addysg bellach;’ Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Ym mhwynt 2, dileu
is-bwynt 2(d) a rhoi yn ei le: 'gweithio gyda
sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth
yn diwallu anghenion technoleg esblygol yr economi.' Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu
anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac
ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn
2021. Gwelliant 4 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i greu gwell amodau ar gyfer datblygu sgiliau gweithlu Cymru drwy gynyddu
isafswm cyflog y flwyddyn gyntaf ar gyfer prentis i’r isafswm cyflog
cenedlaethol safonol, yn unol â grŵp oedran y person. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.35 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7234 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o ran datblygu
sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl Brexit. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy: a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach; b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru; c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau;
a d) datblygu Sefydliad Technoleg yng ngogledd Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon) Ym mhwynt 2, mewnosod
fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (b) ac ail-rifo’n unol a hynny: ‘cynyddu rhwydweithiau
cymorth i brentisiaid drwy drefniadau partneriaeth ffurfiol gyda cholegau
addysg bellach;’ Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr) Ym mhwynt 2, dileu
is-bwynt 2(d) a rhoi yn ei le: 'gweithio gyda
sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr i sicrhau bod y
ddarpariaeth yn diwallu anghenion technoleg esblygol yr economi.' Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu
anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac
ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn
2021. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i greu gwell amodau ar gyfer datblygu sgiliau gweithlu Cymru drwy gynyddu
isafswm cyflog y flwyddyn gyntaf ar gyfer prentis i’r isafswm cyflog
cenedlaethol safonol, yn unol â grŵp oedran y person. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7234 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o ran datblygu
sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl Brexit. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy: a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach; b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru; c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau;
a d) gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr i
sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion technoleg esblygol yr economi. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu
pobl i Gymru i ddiwallu anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach
ac addysg uwch, ac ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i
adael y rhaglen yn 2021.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.26 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.29 NDM7235 Hefin David (Caerphilly) Yr achos o blaid trefi
angori: Eu rôl o ran adeiladu economi decach. |