Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 255(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 2 gan y Dirprwy Weinidog. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.27

Gofynnwyd cwestiynau 1-6, 8 a 10. Cafodd cwestiynau 1, 4 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Ni ofynnwyd cwestiynau 7 a 9. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

3.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)

NDM7231 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2019-20
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.11

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2019-20
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(0 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol.

(5 munud)

5.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.21

Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am -  Dathlu 60 mlynedd o Bapur Sain Aberystwyth - yr hynaf yng ngwledydd Prydain.

(60 munud)

6.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cefnogaeth mewn Profedigaeth ar ôl Hunanladdiad

NDM7211 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan.

2. Yn nodi'r cymorth cyfyngedig sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi'r rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad.

3. Yn nodi bod colli rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg mawr ar gyfer marw drwy hunanladdiad a bod cymorth i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan hanfodol o atal hunanladdiad.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ar frys bod cymorth ar gael i'r rhai sydd mewn galar ar ôl  hunanladdiad ledled Cymru fel rhan o lwybr ôl-gyflawni cynhwysfawr i Gymru. Wrth wneud hynny, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwelliannau i wasanaethau a'r llwybr newydd yn cael eu llunio ar y cyd gan y rhai sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad.

Cyd-gyflwynwyr
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)

Cefnogwyr
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
David Rees (Aberafan)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

12

0

47

Derbyniwyd y cynnig.

(30 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Iechyd Meddwl yng nghyd-destun Plismona a dalfa'r Heddlu

NDM7233 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2019.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2019.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.11

NDM7233 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2019.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - goblygiadau i Gymru

NDM7237 David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - y goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2019.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 15 Ionawr 2020.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.40

NDM7237 David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - y goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

9.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Sgiliau'r Gweithlu ar ôl Brexit

NDM7234 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o ran datblygu sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl Brexit.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy:

a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach;

b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru;

c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau; a

d) datblygu Sefydliad Technoleg yng ngogledd Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ym mhwynt 2, mewnosod fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (b) ac ail-rifo’n unol â hynny:

 ‘cynyddu rhwydweithiau cymorth i brentisiaid drwy drefniadau partneriaeth ffurfiol gyda cholegau addysg bellach;’

Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)

Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt 2(d) a rhoi yn ei le:

'gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion technoleg esblygol yr economi.'

Gwelliant 3 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn 2021.

Gwelliant 4 - Sian Gwenllian (Arfon)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu gwell amodau ar gyfer datblygu sgiliau gweithlu Cymru drwy gynyddu isafswm cyflog y flwyddyn gyntaf ar gyfer prentis i’r isafswm cyflog cenedlaethol safonol, yn unol â grŵp oedran y person.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.35

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7234 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o ran datblygu sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl Brexit.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy:

a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach;

b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru;

c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau; a

d) datblygu Sefydliad Technoleg yng ngogledd Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

34

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ym mhwynt 2, mewnosod fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (b) ac ail-rifo’n unol a hynny:

‘cynyddu rhwydweithiau cymorth i brentisiaid drwy drefniadau partneriaeth ffurfiol gyda cholegau addysg bellach;’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

27

47

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)

Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt 2(d) a rhoi yn ei le:

'gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion technoleg esblygol yr economi.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

1

12

47

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn 2021.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

13

0

47

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu gwell amodau ar gyfer datblygu sgiliau gweithlu Cymru drwy gynyddu isafswm cyflog y flwyddyn gyntaf ar gyfer prentis i’r isafswm cyflog cenedlaethol safonol, yn unol â grŵp oedran y person.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

8

30

47

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7234 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o ran datblygu sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl Brexit.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy:

a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach;

b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru;

c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau; a

d) gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion technoleg esblygol yr economi.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn 2021.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

9

0

47

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.26

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

11.

Dadl Fer

NDM7235 Hefin David (Caerffili)

Yr achos dros drefi angor: Eu rôl o ran adeiladu economi decach.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.29

NDM7235 Hefin David (Caerphilly)

Yr achos o blaid trefi angori: Eu rôl o ran adeiladu economi decach.