Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 253(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad gan y Llywydd Cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â
Rheol Sefydlog 26.75, bod y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) wedi cael
Cydsyniad Brenhinol ar 15 Ionawr. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan Mondi ynghylch colledion
swyddi ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint? Russell
George (Sir Drefaldwyn) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i
adroddiadau ynghylch dyfodol Flybe a'i effaith ar faes awyr Caerdydd? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.17 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan
Mondi ynghylch colledion swyddi ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y
Fflint? Russell George (Sir
Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i
adroddiadau ynghylch dyfodol Flybe a'i effaith ar faes awyr Caerdydd? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.42 Gwnaeth Leanne Wood ddatgniad yn llongyfarch Wayne Warren o’r Rhondd wedi
iddo ennill Pencampwriaeth Ddartiau BDO a chanmol y gamp. Gwnaeth Sian Gwenllian ddatganiad yn dathlu’r ffaith bod Dafydd Iwan wedi
cyrraedd brig gwerthiant iTunes gydag Yma o Hyd. Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad yn cofnodi 80 mlynedd ers genedigaeth
Leighton Thomas Rees. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru NDM7226 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth
Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 4 Tachwedd 2019. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.47 NDM7226 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr
ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2019. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2020. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Addysgu Hanes Cymru NDM7228 Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar addysgu hanes Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 14 Tachwedd. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 NDM7228 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar addysgu hanes Cymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2020. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Trais a Chamdriniaeth Rywiol NDM7229 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r cynnydd
mewn adroddiadau o drais rhywiol yng Nghymru a
Lloegr. 2. Yn mynegi
cydymdeimlad ac undod â goroeswyr trais a chamdriniaeth rywiol. 3. Yn gresynu at
fethiant parhaus nifer o systemau cyfiawnder troseddol ledled y byd i gynnig
cefnogaeth i oroeswyr, a gresynu’r ffaith nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael
eu credu ac yn cael eu gorfodi i ail-fyw profiadau erchyll drwy brosesau llys
dwys, a diwylliannau mewn heddluoedd nad ydynt yn credu dioddefwyr. 4. Yn nodi bod
erlyniadau ar gyfer trais rhywiol ac euogfarnau yng Nghymru a Lloegr ar eu
lefelau isaf ers degawd, a bod gwella cyfraddau euogfarnu’n rhan hanfodol o
strategaeth atal trais. 5. Yn nodi bod
comisiwn Thomas wedi dadlau mai dim ond datganoli deddfwriaethol llawn, ar y
cyd â phwerau gweithredol, fydd yn goresgyn rhwystrau’r setliad datganoli
presennol o ran mynd i’r afael â diffyg cyfiawnder ac atebolrwydd y status quo. 6. Yn galw i
gefnogaeth a gwasanaethau ymosodiad rhywiol fod ar gael a chael eu hariannu’n
ddigonol, ac i lysoedd gael eu haddasu fel y bydd dioddefwyr yn teimlo eu bod
yn cael eu hamddiffyn, nid eu dychryn, wrth roi tystiolaeth. 7. Yn galw i
ddatganoli cyfiawnder fel y gallwn fynd i’r afael â’r cyfraddau euogfarnu isel
hyn drwy fabwysiadu arfer gorau rhyngwladol ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac
atal camdriniaeth a thrais rhywiol. Adroddiad
Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru - Hydref 2019 Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Dileu pwyntiau 5 a 7. Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Nodi adroddiad
Comisiwn Thomas ac yn diolch i’r Comisiwn am ei waith ar y posibilrwydd o
ddatganoli cyfiawnder gan edrych ymlaen at y ddadl a addawyd yn ystod amser y
llywodraeth ar ganfyddiadau’r Comisiwn ac unrhyw effaith gaiff y rhain ar
gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol. Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod adroddiad
Arolwg Trais Rhywiol 2019 Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM wedi canfod
bod nifer yr achosion a gyfeiriwyd at y Gwasanaeth i gael eu penderfynu gan yr
heddlu a nifer yr achosion a erlynwyd gan y Gwasanaeth wedi disgyn, er gwaethaf
bod adroddiadau o drais a gaiff eu cyflwyno i'r heddlu bron wedi dyblu. Arolygiaeth
Gwasanaeth Erlyn y Goron EM - Arolwg Trais Rhywiol 2019 - Rhagfyr 2019 Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi datganiad
Llywodraeth y DU bod y canfyddiadau yn peri pryder mawr a'i bod wedi ymrwymo i
adfer hyder yn y system gyfiawnder a darparu gwell cefnogaeth i ddioddefwyr. Adroddiad
HMCPSI ar gyfraddau euogfarnau trais rhywiol - 17 Rhagfyr 2019 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.37 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7229 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru : 1. Yn nodi’r cynnydd mewn adroddiadau o
drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr. 2. Yn mynegi cydymdeimlad ac undod â
goroeswyr trais a chamdriniaeth rywiol. 3. Yn gresynu at fethiant parhaus nifer o
systemau cyfiawnder troseddol ledled y byd i gynnig cefnogaeth i oroeswyr, a
gresynu’r ffaith nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael eu credu ac yn cael eu
gorfodi i ail-fyw profiadau erchyll drwy brosesau llys dwys, a diwylliannau
mewn heddluoedd nad ydynt yn credu dioddefwyr. 4. Yn nodi bod erlyniadau ar gyfer trais
rhywiol ac euogfarnau yng Nghymru a Lloegr ar eu lefelau isaf ers degawd, a bod
gwella cyfraddau euogfarnu’n rhan hanfodol o strategaeth atal trais. 5. Yn nodi bod comisiwn Thomas wedi dadlau
mai dim ond datganoli deddfwriaethol llawn, ar y cyd â phwerau gweithredol,
fydd yn goresgyn rhwystrau’r setliad datganoli presennol o ran mynd i’r afael â
diffyg cyfiawnder ac atebolrwydd y status quo. 6. Yn galw i gefnogaeth a gwasanaethau
ymosodiad rhywiol fod ar gael a chael eu hariannu’n ddigonol, ac i lysoedd gael
eu haddasu fel y bydd dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn, nid eu
dychryn, wrth roi tystiolaeth. 7. Yn galw i ddatganoli cyfiawnder fel y
gallwn fynd i’r afael â’r cyfraddau euogfarnu isel hyn drwy fabwysiadu arfer
gorau rhyngwladol ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais
rhywiol. Adroddiad Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru - Hydref 2019
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.45 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7227 Mick
Antoniw (Pontypridd) Dathlu Arwyr Cymru:
Cyfraniad arwyr Cymru i broffil rhyngwladol ein gwlad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.45 NDM7227 Mick Antoniw (Pontypridd) Dathlu Arwyr Cymru: Cyfraniad arwyr Cymru i
broffil rhyngwladol ein gwlad. |