Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 249(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/12/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1-4
a 6-9. Trosglwyddwyd cwestiwn 5 i’w ateb yn ysgrifenedig. Ni ofynnwyd
cwestiynau 10 a 12. Tynnwyd cwestiwn 11 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.08 Gofynnwyd y cwestiwn 9
cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau Amserol Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau
Amserol Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
Gwestiynau Amserol |
||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.52 Gwnaeth Helen Mary Jones
ddatganiad am gefnogi digwyddiad a gaiff ei gynnal yn Ngwersyll yr Urdd ym Mae
Caerdydd ar 18 a 19 Rhagfyr. Gwnaeth Suzy Davies
ddatganiad yn nodi 40 mlynedd ers mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Ddileu pob math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod (CEDAW). Gwnaeth Caroline Jones
ddatganiad am Sefydliad y Merched Cwm Brombil. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cynnig i ddirymu Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019 - TYNNWYD YN ÔL NDM7209 David
Melding (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2: Yn cytuno bod
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019,
a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 15 Tachwedd 2019, yn cael eu dirymu. Cofnodion: Tynnwyd yr eitem hon yn
ôl |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Lefelau Staff Nyrsio NDM7215 Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad Coleg
Nyrsio Brenhinol Cymru, Cynnydd a Her: Gweithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio
(Cymru) 2016. 2. Yn nodi bod mwy o
nyrsys yn gadael y GIG nag sy'n ymuno. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd GIG Cymru yn cynyddu'r cyfleoedd i weithio'n
hyblyg fel rhan o strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw nyrsys. Cynnydd
a Her: Gweithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 Cyd-gyflwynwyr Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.57 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7215 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
adroddiad Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Cynnydd a Her: Gweithredu Deddf Lefelau
Staff Nyrsio (Cymru) 2016. 2. Yn nodi bod mwy
o nyrsys yn gadael y GIG nag sy'n ymuno. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd GIG Cymru yn cynyddu'r cyfleoedd i weithio'n
hyblyg fel rhan o strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw nyrsys. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Mynediad at Fancio NDM7219 Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i: Mynediad at Fancio
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 17 Hydref 2019. Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan
Lywodraeth Cymru ar 4 Rhagfyr 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.34 NDM7219 Russell George (Sir
Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i: Mynediad at Fancio
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysg Ysgol NDM7218 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi canlyniadau
PISA 2018 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). 2. Yn gresynu: a) na fu unrhyw
welliant ystadegol sylweddol yn sgoriau PISA Cymru mewn darllen a mathemateg
ers 2006; b) bod sgoriau
Gwyddoniaeth Cymru yn sylweddol waeth nag yn 2006; c) bod Cymru wedi'i
gosod ar waelod gwledydd y DU mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth; d) mai Cymru yw'r unig
genedl yn y DU sydd â sgôr is na chyfartaledd yr OECD ym mhob un o fesurau
PISA. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) cydnabod ei methiant
i wella addysg yng Nghymru; b) ymddiheuro i
ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi; c) gwarantu bod
adnoddau ychwanegol yn deillio o wariant ychwanegol ar ysgolion gan Lywodraeth
y DU yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi mai Cymru yw'r
unig genedl yn y DU i wella ym mhob maes. Yn croesawu: a) sgoriau gorau Cymru
erioed mewn darllen a mathemateg, a gwelliant mewn gwyddoniaeth; b) gostyngiad yn y
bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion; c) gwelliant ym
mherfformiad myfyrwyr uchel eu perfformiad. Yn credu bod y
gwelliant yn sgoriau PISA yn brawf o waith caled athrawon a disgyblion ledled
Cymru. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) barhau ar y trywydd
o ddiwygio’r cwricwlwm newydd a gadael iddo wreiddio fel rhan o’r ymgais i godi
safonau; b) gwarantu bod yr
adnoddau angenrheidiol ar gael i ysgolion er mwyn gallu gwella amodau gwaith
athrawon ac i ddenu mwy o athrawon newydd i’r proffesiwn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.35 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7218 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi canlyniadau
PISA 2018 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). 2. Yn gresynu: a) na fu unrhyw welliant
ystadegol sylweddol yn sgoriau PISA Cymru mewn darllen a mathemateg ers 2006; b) bod sgoriau
Gwyddoniaeth Cymru yn sylweddol waeth nag yn 2006; c) bod Cymru wedi'i gosod
ar waelod gwledydd y DU mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth; d) mai Cymru yw'r unig
genedl yn y DU sydd â sgôr is na chyfartaledd yr OECD ym mhob un o fesurau
PISA. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) cydnabod ei methiant i
wella addysg yng Nghymru; b) ymddiheuro i
ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi; c) gwarantu bod adnoddau
ychwanegol yn deillio o wariant ychwanegol ar ysgolion gan Lywodraeth y DU yn
cael ei fuddsoddi mewn ysgolion yng Nghymru.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi mai Cymru yw'r unig genedl yn y DU i wella
ym mhob maes. Yn croesawu: a) sgoriau gorau Cymru erioed mewn darllen a
mathemateg, a gwelliant mewn gwyddoniaeth; b) gostyngiad yn y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf
difreintiedig a'u cyfoedion; c) gwelliant ym mherfformiad myfyrwyr uchel eu
perfformiad. Yn credu bod y gwelliant yn sgoriau PISA yn brawf o
waith caled athrawon a disgyblion ledled Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gan
fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7218 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
canlyniadau PISA 2018 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad
Economaidd (OECD). 2. Yn nodi mai Cymru yw'r unig genedl yn y DU i
wella ym mhob maes. 3. Yn croesawu: a) sgoriau gorau Cymru erioed mewn darllen a
mathemateg, a gwelliant mewn gwyddoniaeth; b) gostyngiad yn y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf
difreintiedig a'u cyfoedion; c) gwelliant ym mherfformiad myfyrwyr uchel eu
perfformiad. 4. Yn credu bod y gwelliant yn sgoriau PISA yn
brawf o waith caled athrawon a disgyblion ledled Cymru.
Derbyniwyd y
cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.32 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.35 NDM7220 Vikki Howells (Cwm Cynon) Mynd i'r afael â heriau gofal yr unfed
ganrif ar hugain. |