Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 243(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i
3 a 5 i 9. Ni ofynnwyd cwestiwn 4. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.17 Gofynnwyd y 7 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4 i 6 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.04 Gofynnwyd y 4 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ynghylch
diogelwch tân mewn llety myfyrwyr yng Nghymru yn dilyn tân yr wythnos diwethaf
ym Mhrifysgol Bolton? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.15 Gofyn i’r
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol David Melding (Canol De Cymru): A
wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ynghylch diogelwch tân mewn llety myfyrwyr
yng Nghymru yn dilyn tân yr wythnos diwethaf ym Mhrifysgol Bolton? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.27 Gwnaeth Joyce Watson
ddatganiad am - Nodi Diwrnod Rhyngwladol
i Ddileu Trais yn erbyn Menywod (25 Tachwedd). Gwnaeth John Griffiths
ddatganiad am - Gwaith Colegau Cymru a oedd yn 10 oed yr wythnos hon. Gwnaeth Rhun ap Iorwerth
ddatganiad am - Addewid Plastig (rhan o
ymgyrch Future Girl y Girlguides). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Ardoll ar Barcio yn y Gweithle NDM7188 Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i alluogi rhoi ardoll ar
barcio yn y gweithle. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a) galluogi awdurdodau lleol i weithredu ardoll ar barcio
yn y gweithle, yn dibynnu ar nifer y lleoedd parcio a neilltuir i gyflogeion; b) galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio'r refeniw i
gryfhau trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol; c) lleihau tagfeydd traffig mewn canolfannau poblogaeth
mawr; d) annog cyflogwyr i hyrwyddo cynlluniau teithio llesol
ar gyfer eu staff ac eiriol ar gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus; e) cymell Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol yng
Nghymru i roi'r ardoll hon ar waith, fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r
afael â'r allyriadau carbon sy'n achosi argyfwng yn yr hinsawdd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.32 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7188 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i alluogi rhoi ardoll ar barcio yn y gweithle. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a)
galluogi awdurdodau lleol i weithredu ardoll ar barcio yn y gweithle, yn
dibynnu ar nifer y lleoedd parcio a neilltuir i gyflogeion; b)
galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio'r refeniw i gryfhau trafnidiaeth
gyhoeddus a llwybrau teithio llesol; c)
lleihau tagfeydd traffig mewn canolfannau poblogaeth mawr; d)
annog cyflogwyr i hyrwyddo cynlluniau teithio llesol ar gyfer eu staff ac
eiriol ar gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus; e)
cymell Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol yng Nghymru i roi'r ardoll
hon ar waith, fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â'r allyriadau
carbon sy'n achosi argyfwng yn yr hinsawdd. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol NDM7193 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau
a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad i Ofal Hosbis a Gofal
Lliniarol. 2. Yn cydnabod bod gan tua 23,000 o bobl yng Nghymru
angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys dros 1,000 o blant. 3. Yn cydnabod er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o
ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru, bod anghenion
sylweddol sydd heb eu diwallu ac anghenion na fodlonwyd yn barhaus, ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) amlinellu sut y bydd Cymru'n dod yn 'wlad dosturiol'; b) sicrhau bod cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal
lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i'r dull hwn o weithredu; c) darparu meini prawf adrodd cyson, a mynd i'r afael â
bylchau yn y data a gaiff eu casglu ar anghenion gofal lliniarol i oedolion a
phediatrig; d) diweddaru'r mecanwaith cyllido ar gyfer hosbisau
elusennol fel ei fod yn seiliedig ar y data sydd ei angen ar y boblogaeth leol
a nifer yr achosion; e) cynyddu lefel y cyllid statudol a ddarperir i hosbisau
oedolion a phlant yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod
cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng
Nghymru a bod angen gwneud rhagor o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei
ddiwallu Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru: a) yn parhau i weithio
gyda phartneriaid statudol a phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r
uchelgais o sicrhau mai Cymru yw 'gwlad dosturiol' gyntaf y byd; b) yn sicrhau bod
cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei
wneud yn ganolog i’r dull gweithredu hwn; c) yn darparu meini
prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu
am anghenion gofal lliniarol oedolion a gofal lliniarol pediatrig; d) yn parhau i
fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau elusennol gan weithio gyda’r bwrdd
diwedd oes a’r byrddau iechyd; e) yn parhau i fonitro
ac adolygu’r cyllid a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4: sicrhau bod gofalwyr
yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod ac ar ôl iddynt ofalu am rywun
sy'n cael gofal lliniarol. Gwelliant 3 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4: sicrhau bod amrywiaeth
o wasanaethau ar gael ym mhob rhan o Gymru fel bod modd parchu dewisiadau'r
unigolyn o ran y math o ofal lliniarol a ddarperir, ynghyd â lleoliad y gofal
hwnnw. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.59 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7193 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y Grŵp
Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad
i Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol. 2. Yn cydnabod bod gan tua
23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys
dros 1,000 o blant. 3. Yn cydnabod er bod rhywfaint
o gynnydd wedi'i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol
yng Nghymru, bod anghenion sylweddol sydd heb eu diwallu ac anghenion na
fodlonwyd yn barhaus, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) amlinellu sut y bydd Cymru'n
dod yn 'wlad dosturiol'; b) sicrhau bod cryfhau'r
ddarpariaeth o wasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn
ganolog i'r dull hwn o weithredu; c) darparu meini prawf adrodd
cyson, a mynd i'r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu ar anghenion
gofal lliniarol i oedolion a phediatrig; d) diweddaru'r mecanwaith
cyllido ar gyfer hosbisau elusennol fel ei fod yn seiliedig ar y data sydd ei
angen ar y boblogaeth leol a nifer yr achosion; e) cynyddu lefel y cyllid
statudol a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu
mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru a bod angen gwneud rhagor
o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru: a) yn parhau i weithio gyda phartneriaid statudol a
phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r uchelgais o sicrhau mai Cymru yw
'gwlad dosturiol' gyntaf y byd; b) yn sicrhau bod cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau
gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i’r dull gweithredu
hwn; c) yn darparu meini prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r
afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu am anghenion gofal lliniarol
oedolion a gofal lliniarol pediatrig; d) yn parhau i fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau
elusennol gan weithio gyda’r bwrdd diwedd oes a’r byrddau iechyd; e) yn parhau i fonitro ac adolygu’r cyllid a ddarperir i
hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7193 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y Grŵp
Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad
i Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol. 2. Yn cydnabod bod gan tua
23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys
dros 1,000 o blant. 3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu
mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru a bod angen gwneud rhagor
o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu 4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru: a) yn parhau i weithio gyda phartneriaid statudol a
phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r uchelgais o sicrhau mai Cymru yw
'gwlad dosturiol' gyntaf y byd; b) yn sicrhau bod cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau
gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i’r dull gweithredu
hwn; c) yn darparu meini prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r
afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu am anghenion gofal lliniarol
oedolion a gofal lliniarol pediatrig; d) yn parhau i fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau
elusennol gan weithio gyda’r bwrdd diwedd oes a’r byrddau iechyd; e) yn parhau i fonitro ac adolygu’r cyllid a ddarperir i
hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Strategaeth Cerbydau NDM7195 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
argymhelliad Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad yn 2013 y dylai
Llywodraeth Cymru: 'Ddatblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater o
frys, nid dim ond i sicrhau bod penderfyniadau pwysig ynglŷn â
chydweddiad cerbydau ar gyfer trydaneiddio a deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu
cymryd mewn da bryd i osgoi’r costau uwch a’r tarfu sy’n deillio o oedi, ond
hefyd i gynyddu capasiti ac ansawdd trenau ar gyfer y tymor hir '. 2. Yn gresynu at
fethiant Llywodraeth Cymru: (a) i gymryd camau
priodol i fynd i'r afael â'r materion y tynnwyd sylw atynt mor bell yn ôl â
2013 mewn perthynas â cherbydau; (b) i gyrraedd y
dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd
(PRM) mewn perthynas â'i gerbydau; (c) i wneud cais
amserol i'r Adran Drafnidiaeth am y rhyddhad angenrheidiol i gadw trenau nad
ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn
gwasanaeth o fis Ionawr 2020. 3. Yn mynegi
pryder am yr aflonyddwch parhaus y mae llawer o deithwyr rheilffordd Trafnidiaeth
Cymru yn ei wynebu bob dydd. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd bod ganddi gynlluniau wrth gefn ar waith i
liniaru'r posibilrwydd o golli cyfran fawr o'i fflyd. Y
Pwyllgor Menter a Busnes, Dyfodol Masnachfraint Cymru a'r Gororau, Rhagfyr 2013 Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi
yn ei le: 1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith
rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn
cerbydau. 2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu
hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â
symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU. 3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder
cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth
gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o
safbwynt darpariaeth cerbydau. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad
cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â
symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am
gyfnod byr hyd 2020. 5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn
gweithio ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau
datganoledig er mwyn datblygu model newydd. Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi mai mater i Lywodraeth Cymru oedd y cyfrifoldeb
dros ddarparu capasiti cerbydau ar gyfer gwasanaethau Cymru a gwasanaethau i
Gymru yn unig o dan y fasnachfraint reilffyrdd a weithredwyd gan Drenau Arriva
Cymru ers 2006. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.52 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7195 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
nodi argymhelliad Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad yn 2013 y
dylai Llywodraeth Cymru: 'Ddatblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater
o frys, nid dim ond i sicrhau bod penderfyniadau pwysig ynglŷn â
chydweddiad cerbydau ar gyfer trydaneiddio a deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu
cymryd mewn da bryd i osgoi’r costau uwch a’r tarfu sy’n deillio o oedi, ond
hefyd i gynyddu capasiti ac ansawdd trenau ar gyfer y tymor hir '. 2. Yn
gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru: (a) i gymryd camau
priodol i fynd i'r afael â'r materion y tynnwyd sylw atynt mor bell yn ôl â
2013 mewn perthynas â cherbydau; (b) i gyrraedd y
dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd
(PRM) mewn perthynas â'i gerbydau; (c) i wneud
cais amserol i'r Adran Drafnidiaeth am y rhyddhad angenrheidiol i gadw trenau
nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn
gwasanaeth o fis Ionawr 2020. 3. Yn
mynegi pryder am yr aflonyddwch parhaus y mae llawer o deithwyr rheilffordd
Trafnidiaeth Cymru yn ei wynebu bob dydd. 4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd bod ganddi gynlluniau wrth gefn ar
waith i liniaru'r posibilrwydd o golli cyfran fawr o'i fflyd.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi
yn ei le: 1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith
rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn
cerbydau. 2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu
hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â
symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU. 3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder
cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth
gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o
safbwynt darpariaeth cerbydau. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad
cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â
symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am
gyfnod byr hyd 2020. 5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn gweithio
ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig er
mwyn datblygu model newydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gwelliant
2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi mai mater i Lywodraeth Cymru oedd y cyfrifoldeb
dros ddarparu capasiti cerbydau ar gyfer gwasanaethau Cymru a gwasanaethau i
Gymru yn unig o dan y fasnachfraint reilffyrdd a weithredwyd gan Drenau Arriva
Cymru ers 2006. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant
2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7195 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith
rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn
cerbydau. 2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu
hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â
symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU. 3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder
cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth
gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o
safbwynt darpariaeth cerbydau. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad
cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â
symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am
gyfnod byr hyd 2020. 5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn
gweithio ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau
datganoledig er mwyn datblygu model newydd.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.45 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl Fer - Gohirwyd tan 8 Ionawr 2020 NDM7194 Suzy Davies
(Gorllewin De Cymru) Cymru Dairieithog: Y gwerth i Gymru o addysgu ieithoedd
tramor modern. |