Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 241(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad gan y Llywydd: Y Comisiynydd Safonau Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Integriti mewn Safonau Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.32 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Bydd
y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn
hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.35 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Atebodd
y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip y 2 gwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon
ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau. Gofynnwyd y 2 qwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Cododd Carwyn
Jones bwynt o drefn ynghylch ymddygiad Aelodau yn y Siambr. Diolchodd y Llywydd
i’r Aelod a dywedodd y bydd yn adolygu’r Cofnod i ystyried a dorrwyd y Rheolau Sefydlog.
Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd fod disgwyl iddynt wneud eu gwaith
yn gywir a threfnus o ran ymddygiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.49 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Nodi Dydd y Cofio a chefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.58 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.29 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Model Cyflenwi Arfaethedig ar gyfer y Dyfodol ar gyfer Gwasanaeth Busnes Cymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.17 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019 NDM7181 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol)
(Isafbris Uned) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2019.
Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.50 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7181 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris
Uned) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2019.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Cysylltedd Digidol NDM7180 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y gwaith
a wnaed gan Lywodraeth Cymru ers 2012 i wella cysylltedd digidol ledled Cymru
drwy’r rhaglen Superfast Cymru, â
733,000 o eiddo wedi cael mynediad at fand eang ffibr cyflym erbyn hyn. 2. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru wedi gwneud y gwaith hwn mewn maes nad yw wedi ei ddatganoli
yn sgil methiant Llywodraeth y DU ar y pryd i fuddsoddi’n ddigonol lle na
fyddai’r farchnad fasnachol yn darparu. 3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau a buddsoddi mewn band eang sy’n
gallu ymdopi â gigabit sy’n bodloni anghenion cartrefi a busnesau yng Nghymru,
gan sicrhau bod: a) cyllid yn
adlewyrchu’r heriau o roi seilwaith digidol ar waith yng Nghymru; b) dull sy’n edrych
o’r ‘tu allan i’r tu mewn’ yn cael ei ddilyn wrth gyflenwi, sy’n darparu cysylltedd
i’r eiddo hynny mewn ardaloedd gwledig neu wledig iawn; ac c) cysylltedd yn
cael ei ddarparu yn gyntaf i’r eiddo hynny nad ydynt yn gallu derbyn band eang
cyflym. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 2 a
rhoi yn ei le: Yn gresynu: a) at fethiant
Llywodraeth Cymru i gyflawni ei haddewid i sicrhau y byddai gan bob eiddo
preswyl a busnes, fand eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015; b) bod rhai
cymunedau wedi'u gadael gydag asedau wedi'u hynysu ar ôl cwblhau cam 1 Cyflymu
Cymru; c) at ddiffyg
pontio di-dor rhwng defnyddio cam un a cham dau y cynllun Cyflymu Cymru; d) at ddiffyg
amserlen glir ar gyfer cyflenwi band eang cyflym i'r eiddo sy'n weddill. Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 3 a
rhoi yn ei le: Yn croesawu: a) bod Llywodraeth
y DU yn cyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO) a fydd yn rhoi hawl
clir, gorfodadwy i gartrefi a busnesau cymwys yn y DU ofyn am gysylltiad band
eang digonol a fforddiadwy erbyn mis Mawrth 2020; b) buddsoddiad
Llywodraeth y DU i ddarparu band eang cyflym iawn a'i symbyliad ar gyfer
buddsoddiad masnachol mewn cysylltiadau ffeibr llawn mewn lleoliadau gwledig a
threfol ledled y DU gyfan; c) ymrwymiad
diweddar y Canghellor, o £5 biliwn, i ariannu defnyddio gallu-gigabit i 20 y
cant o'r adeiladau anoddaf eu cyrraedd drwy ddull 'o'r tu allan i mewn'; d) cyhoeddiad
diweddar o £1 biliwn gan Lywodraeth y DU a phedwar gweithredwr rhwydwaith
dyfeisiadau symudol y DU i adeiladu rhwydwaith gwledig gyffredin a fyddai'n
golygu bod cyrhaeddiad dyfeisiadau symudol 4G yn ymestyn i 95 y cant o dirwedd
y DU; e) ymrwymiad y
Swyddfa Gartref i adeiladu'r seilwaith rhwydwaith ychwanegol sydd ei angen i
ddarparu'r rhwydwaith gwasanaethau brys newydd a'r rhaglen gwasanaeth ardal
estynedig, a fydd yn darparu gwasanaeth 4G masnachol yn ardaloedd gwledig Cymru
na fyddai'n cael eu gwasanaethu fel arall. Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi
diweddariadau chwarterol sy'n dangos nifer y safleoedd, ar gyfer pob ardal
awdurdod lleol, a gysylltir o dan gam 2 o gontract Superfast Cymru; b) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i gydweithio â phartneriaid masnachol i flaenoriaethu
cysylltedd digidol y safleoedd hynny yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at
wasanaethau band eang cyflym dibynadwy. Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am ddarparu
gwell gwybodaeth - drwy ‘siop un stop’ - i’r rhai sydd ddim wedi cael eu
cysylltu drwy raglen Cyflymu Cymru, ynglyn â sut arall y gallant gael mynediad
cyflym i’r we. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.02 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7180 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y gwaith
a wnaed gan Lywodraeth Cymru ers 2012 i wella cysylltedd digidol ledled Cymru
drwy’r rhaglen Superfast Cymru, â
733,000 o eiddo wedi cael mynediad at fand eang ffibr cyflym erbyn hyn. 2. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru wedi gwneud y gwaith hwn mewn maes nad yw wedi ei ddatganoli
yn sgil methiant Llywodraeth y DU ar y pryd i fuddsoddi’n ddigonol lle na
fyddai’r farchnad fasnachol yn darparu. 3. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau a buddsoddi mewn band eang sy’n gallu ymdopi
â gigabit sy’n bodloni anghenion cartrefi a busnesau yng Nghymru, gan sicrhau
bod: a) cyllid yn adlewyrchu’r
heriau o roi seilwaith digidol ar waith yng Nghymru; b) dull sy’n edrych o’r
‘tu allan i’r tu mewn’ yn cael ei ddilyn wrth gyflenwi, sy’n darparu cysylltedd
i’r eiddo hynny mewn ardaloedd gwledig neu wledig iawn; ac c) cysylltedd yn cael ei
ddarparu yn gyntaf i’r eiddo hynny nad ydynt yn gallu derbyn band eang cyflym. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu pwynt 2 a rhoi yn
ei le: Yn gresynu: a) at fethiant
Llywodraeth Cymru i gyflawni ei haddewid i sicrhau y byddai gan bob eiddo
preswyl a busnes, fand eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015; b) bod rhai cymunedau
wedi'u gadael gydag asedau wedi'u hynysu ar ôl cwblhau cam 1 Cyflymu Cymru; c) at ddiffyg pontio
di-dor rhwng defnyddio cam un a cham dau y cynllun Cyflymu Cymru; d) at ddiffyg amserlen
glir ar gyfer cyflenwi band eang cyflym i'r eiddo sy'n weddill. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu pwynt 3 a rhoi yn
ei le: Yn croesawu: a) bod Llywodraeth y DU
yn cyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO) a fydd yn rhoi hawl
clir, gorfodadwy i gartrefi a busnesau cymwys yn y DU ofyn am gysylltiad band
eang digonol a fforddiadwy erbyn mis Mawrth 2020; b) buddsoddiad
Llywodraeth y DU i ddarparu band eang cyflym iawn a'i symbyliad ar gyfer
buddsoddiad masnachol mewn cysylltiadau ffeibr llawn mewn lleoliadau gwledig a
threfol ledled y DU gyfan; c) ymrwymiad diweddar y
Canghellor, o £5 biliwn, i ariannu defnyddio gallu-gigabit i 20 y cant o'r
adeiladau anoddaf eu cyrraedd drwy ddull 'o'r tu allan i mewn'; d) cyhoeddiad diweddar o
£1 biliwn gan Lywodraeth y DU a phedwar gweithredwr rhwydwaith dyfeisiadau
symudol y DU i adeiladu rhwydwaith gwledig gyffredin a fyddai'n golygu bod
cyrhaeddiad dyfeisiadau symudol 4G yn ymestyn i 95 y cant o dirwedd y DU; e) ymrwymiad y Swyddfa
Gartref i adeiladu'r seilwaith rhwydwaith ychwanegol sydd ei angen i ddarparu'r
rhwydwaith gwasanaethau brys newydd a'r rhaglen gwasanaeth ardal estynedig, a
fydd yn darparu gwasanaeth 4G masnachol yn ardaloedd gwledig Cymru na fyddai'n
cael eu gwasanaethu fel arall. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) cyhoeddi
diweddariadau chwarterol sy'n dangos nifer y safleoedd, ar gyfer pob ardal
awdurdod lleol, a gysylltir o dan gam 2 o gontract Superfast Cymru; b) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i gydweithio â phartneriaid masnachol i flaenoriaethu
cysylltedd digidol y safleoedd hynny yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at
wasanaethau band eang cyflym dibynadwy. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am ddarparu gwell
gwybodaeth - drwy ‘siop un stop’ - i’r rhai sydd ddim wedi cael eu cysylltu
drwy raglen Cyflymu Cymru, ynglyn â sut arall y gallant gael mynediad cyflym
i’r we. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7180 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y gwaith
a wnaed gan Lywodraeth Cymru ers 2012 i wella cysylltedd digidol ledled Cymru
drwy’r rhaglen Superfast Cymru, â
733,000 o eiddo wedi cael mynediad at fand eang ffibr cyflym erbyn hyn. 2. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru wedi gwneud y gwaith hwn mewn maes nad yw wedi ei ddatganoli
yn sgil methiant Llywodraeth y DU ar y pryd i fuddsoddi’n ddigonol lle na
fyddai’r farchnad fasnachol yn darparu. 3. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau a buddsoddi mewn band eang sy’n gallu ymdopi
â gigabit sy’n bodloni anghenion cartrefi a busnesau yng Nghymru, gan sicrhau
bod: a) cyllid yn
adlewyrchu’r heriau o roi seilwaith digidol ar waith yng Nghymru; b) dull sy’n edrych o’r
‘tu allan i’r tu mewn’ yn cael ei ddilyn wrth gyflenwi, sy’n darparu cysylltedd
i’r eiddo hynny mewn ardaloedd gwledig neu wledig iawn; ac c) cysylltedd yn cael ei
ddarparu yn gyntaf i’r eiddo hynny nad ydynt yn gallu derbyn band eang cyflym. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) cyhoeddi
diweddariadau chwarterol sy'n dangos nifer y safleoedd, ar gyfer pob ardal
awdurdod lleol, a gysylltir o dan gam 2 o gontract Superfast Cymru; b) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i gydweithio â phartneriaid masnachol i flaenoriaethu
cysylltedd digidol y safleoedd hynny yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at
wasanaethau band eang cyflym dibynadwy. 5. Yn galw am ddarparu
gwell gwybodaeth - drwy ‘siop un stop’ - i’r rhai sydd ddim wedi cael eu
cysylltu drwy raglen Cyflymu Cymru, ynglyn â sut arall y gallant gael mynediad
cyflym i’r we.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.33 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |