Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 221(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.25

 

(45 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.50

 

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Partneriaeth Gymdeithasol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.29

 

(45 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.16

 

(45 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ffermio Cynaliadwy a’n Tir

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.07

 

(15 munud)

7.

Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o'r Corff (Cymru) 2019

NDM7114 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2019.   

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.46

NDM7114 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2019.   

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(15 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

NDM7113 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

https://services.parliament.uk/Bills/2017-19/nondomesticratinglists.html

Dogfen Ategol

 

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.49

NDM7113 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(30 munud)

9.

Dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-2020

NDM7096 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 18 Mehefin 2019.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfen Ategol:

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7096 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 18 Mehefin 2019.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

18

0

45

 

Derbyniwyd y cynnig.

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.33

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: