Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 218(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru NDM7100 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi y bydd gwaith Senedd Ieuenctid
Cymru yn ystod ei thymor cyntaf yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn: a) iechyd meddwl a llesiant emosiynol; b) sgiliau bywyd yn y cwricwlwm; ac c) sbwriel a gwastraff plastig. 2. Yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i
gefnogi’r gwaith y mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgymryd ag ef i
ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru. 3. Yn cytuno â’r datganiad ar y cyd sy’n
amlinellu ymrwymiad y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru i weithio gyda’i
gilydd ar ran pobl ifanc Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Yn unol â Rheol Sefydlog 13.3, gwahoddodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â’r
Pwyllgor Busnes, wyth Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i gymryd rhan yn
nhrafodion y Cynulliad at ddibenion yr eitem hon ar y cyd. Roedd 31 Aelod o
Senedd Ieuenctid Cymru hefyd yn y Siambr ar gyfer yr eitem. NDM7100 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi y bydd gwaith Senedd Ieuenctid
Cymru yn ystod ei thymor cyntaf yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn: a) iechyd meddwl a llesiant emosiynol; b) sgiliau bywyd yn y cwricwlwm; ac c) sbwriel a gwastraff plastig. 2. Yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i
gefnogi’r gwaith y mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgymryd ag ef i
ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru. 3. Yn cytuno â’r datganiad ar y cyd sy’n
amlinellu ymrwymiad y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru i weithio gyda’i
gilydd ar ran pobl ifanc Cymru. Datganiad -Senedd
Ieuenctid Cymru a'r Cynulliad Yn unol â Rheol Sefydlog
11.15(ii), cynhaliwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon ar ddiwedd y
ddadl. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. Am 14.15,
cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 15 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5
munud cyn ailgynnull. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.19 Gofynnwyd cwestiynau 1-6 ac 8-10. Tynnwyd cwestiwn 7 yn
ôl. Cafodd cwestiynau 2, 8 a 9 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant,
Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.03 Gofynnwyd y ddau
gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Russell
George: (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am
y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i gwmni adeiladu Jistcourt? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.14 Gofyn
i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Russell George: (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth y mae
Llywodraeth Cymru wedi'i roi i gwmni adeiladu Jistcourt? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.26 Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad fel Hyrwyddwr Rhywogaethau ar gyfer y Llysywen Ewropeaidd. Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad yn coffáu 125 mlynedd ers
Trychineb Glofa Albion (23Mehefin 1894) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgor Dechreuodd yr eitem am 16.30 NDM7109 - Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Dawn
Bowden (Llafur) fel aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol NDM7099 John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Amrywiaeth ym maes
Llywodraeth Leol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 4 Ebrill 2019. Cofnodion: NDM7099 John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Amrywiaeth ym maes Llywodraeth
Leol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Ebrill 2019. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Y Sector Addysg Uwch NDM7101
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi'r argyfwng ariannol difrifol sy'n wynebu sector addysg uwch Cymru, gyda
chyhoeddi bod nifer sylweddol o swyddi wedi'u colli dros y deuddeg mis diwethaf
ymysg pryderon am gynaliadwyedd ariannol sefydliadau unigol. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad brys o gynaliadwyedd ariannol
sector prifysgolion Cymru. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mandad penodol i CCAUC ymyrryd i atal
methdaliad unrhyw sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn y dyfodol agos, drwy
gyfrwng benthyciad brys os oes angen. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw arian cyhoeddus i brifysgol
yng Nghymru yn amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn ddim mwy na
phum gwaith enillion canolrifol. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau digonolrwydd a thryloywder trefniadau
goruchwylio a llywodraethu prifysgolion, yn enwedig mewn perthynas â gwariant
arian cyhoeddus; 6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarwyddo CCAUC, ac unrhyw gorff olynol, i
weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a staff prifysgolion ar bob lefel o wneud
penderfyniadau; a'i gwneud yn ofynnol i brifysgolion ystyried llais myfyrwyr a
barn staff wrth wneud penderfyniadau staffio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le: 1. Yn cydnabod: a. bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas
Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol; b. yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector
Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y
bobl ifanc 18 oed; 2. Yn croesawu: a. bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r
system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr
rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol; b. bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i
gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob
blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon; c. bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru
i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran
adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael
â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol
mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu; d. mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn
y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr. 3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng
nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu
tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac
atebolrwydd. Cod
Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 3. Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 4, dileu 'yn
amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn ddim mwy na phum gwaith enillion
canolrifol' a rhoi yn ei le 'yn cynnwys amodau i fynd i'r afael â chyflogau
gormodol is-ganghellorion ac uwch arweinwyr'. Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi'r wybodaeth am y sefyllfa ariannol y mae'n ei hystyried o ran y
sector addysg uwch cyn cytuno ar ddyraniad cyllideb flynyddol y sector. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.25 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7101 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r argyfwng ariannol difrifol sy'n wynebu sector addysg uwch
Cymru, gyda chyhoeddi bod nifer sylweddol o swyddi wedi'u colli dros y deuddeg
mis diwethaf ymysg pryderon am gynaliadwyedd ariannol sefydliadau unigol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad brys o gynaliadwyedd
ariannol sector prifysgolion Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mandad penodol i CCAUC ymyrryd i
atal methdaliad unrhyw sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru yn y dyfodol agos,
drwy gyfrwng benthyciad brys os oes angen. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw arian cyhoeddus i
brifysgol yng Nghymru yn amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn
ddim mwy na phum gwaith enillion canolrifol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau digonolrwydd a thryloywder
trefniadau goruchwylio a llywodraethu prifysgolion, yn enwedig mewn perthynas â
gwariant arian cyhoeddus; 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarwyddo CCAUC, ac unrhyw gorff
olynol, i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a staff prifysgolion ar bob
lefel o wneud penderfyniadau; a'i gwneud yn ofynnol i brifysgolion ystyried
llais myfyrwyr a barn staff wrth wneud penderfyniadau staffio.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu’r cyfan a rhoi yn
ei le: 1. Yn cydnabod: a. bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas
Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol; b. yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector
Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y
bobl ifanc 18 oed; 2. Yn croesawu: a. bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r
system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr
rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol; b. bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i
gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob
blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon; c. bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru
i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran
adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael
â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol
mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu; d. mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn
y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr. 3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng
nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu
tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac
atebolrwydd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. [Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi'r wybodaeth am y sefyllfa ariannol y mae'n ei hystyried o ran
y sector addysg uwch cyn cytuno ar ddyraniad cyllideb flynyddol y sector. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7101 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Dileu’r cyfan a rhoi yn
ei le: 1. Yn cydnabod: a. bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas
Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol; b. yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector
Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y
bobl ifanc 18 oed; 2. Yn
croesawu: a. bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r
system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr
rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol; b. bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i
gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob
blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon; c. bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru
i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran
adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael
â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol
mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu; d. mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn
y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr. 3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng
nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu
tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac
atebolrwydd. Cod Ymarfer Cyflogaeth
Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.21 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl Fer - Ni chyflwynwyd cynnig Cofnodion: Ni chyflwynwyd cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog Dros Dro (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 18.23 NNDM7103 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal y rhan honno o
Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan
Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn
yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i Ddadl Fer Dawn Bowden gael ei hystyried
yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 26 Mehefin 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NNDM7098 - Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) Amser
i sefydlu hawl gyfreithiol i dai digonol yng Nghymru: Gwneud
ymrwymiad cenedlaethol i'r egwyddor sylfaenol y dylai pob un ohonom gael hawl
ddynol, wedi'i hategu gan gyfraith, i gael gafael ar dai digonol a chynaliadwy. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.23 NNDM7098
- Dawn Bowden (Merthyr Tydfil and Rhymney) Amser
i sefydlu hawl gyfreithiol i dai digonol yng Nghymru. Gwneud ymrwymiad cenedlaethol i’r egwyddor
sylfaenol y dylai pob un ohonom gael hawl ddynol, wedi’i hategu gan gyfraith, i
gael gafael ar dai digonol a chynaliadwy. |