Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 206(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1 – 3
a 5 – 9. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 6 gan
Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) Bydd y Llywydd yn
galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 Gofynnwyd
cwestiynau 1 – 6 ac 8. Tynnwyd cwestiwn
7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau Amserol Ni ddewiswyd unrhyw
Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Gwnaeth Sian Gwenllian
ddatganiad am Robin Llywelyn Williams, dyn ifanc o Arfon a
fu farw yn 26 oed ar ôl brwydro yn erbyn canser am dair blynedd a hanner. Roedd
Llywelyn neu “Llew” yn weithredwr yn ei gymuned. Roedd yn gweithio fel
Cynghorydd, drwy bwyllgorau lleol, llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Llanrug, ac
yn brif chwaraewr mewn Bandiau Prês lleoll a chôr Dyffryn Peris. Gwnaeth Jayne Bryant
ddatganiad am 30 mlynedd o Ŵyl Werin Tŷ Tredegar, sy’n
digwydd y penwythnos hwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgor (5 munud) Dechreuodd
yr eitem am 15.06 NDM7049 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3,
yn dileu Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) fel Aelod o’r
Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - E-chwaraeon NDM7044 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod yr effaith gynyddol y mae'r diwydiant e-chwaraeon yn ei chael ar
economïau lleol ledled y byd, megis twrnameintiau 2017 yn Valencia a Cologne a
ddenodd rhwng 15,000 a 40,000 o gefnogwyr. 2.
Yn nodi bod Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y
DU yn cynnal ymchwiliad i archwilio'r potensial ar gyfer e-chwaraeon yn y DU,
ymhlith tueddiadau eraill o ran technoleg. 3.
Yn croesawu argymhellion adolygiad Bazalgette o'r diwydiannau creadigol, a
gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n amlinellu argymhellion ar gyfer sut y
gall y sector e-chwaraeon fod yn sail i dwf economaidd y DU yn y dyfodol, drwy: a)
godi statws e-chwaraeon gyda chystadlaethau a noddir gan y Llywodraeth, timau
cenedlaethol, a sylw yn y cyfryngau; a b)
cynyddu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £23.7 miliwn yn ychwanegol dros bum
mlynedd i ymestyn rhaglenni datblygu lwyddiannus ac arloesol cronfa gemau'r DU
a'r ' Transfuzer'. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
archwilio manteision economaidd posibl y diwydiant e-chwaraeon yng Nghymru; b)
ymgynghori â rhanddeiliaid addas i drefnu a chynnal cystadleuaeth ryngwladol
e-chwaraeon yng Nghymru; c)
adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar gynnydd, erbyn 1 Hydref 2019. Llywodraeth
y DU - Department for Digital, Culture, Media and Sport - Independent Review of
the Creative Industries - 22 Medi 2017 (Saeneg
yn unig) Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1- Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu
pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn
nodi’r buddsoddiadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid
dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi helpu i greu sector Diwydiannau Creadigol
ffyniannus yng Nghymru. Yn
nodi bwriad Llywodraeth Cymru i fabwysiadu dull trawslywodraethol o ehangu’r
diwydiant e-chwaraeon yng Nghymru, gan gydnabod y ffaith y bydd y Sector
Diwydiannau Creadigol yn cyfrannu’n sylweddol at ei lwyddiant. Yn
galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig
eraill yn derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer y diwydiannau creadigol fel bod
modd iddynt fanteisio ar gyfleoedd newydd o fewn yr economi greadigol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.07 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7044
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr
effaith gynyddol y mae'r diwydiant e-chwaraeon yn ei chael ar economïau lleol
ledled y byd, megis twrnameintiau 2017 yn Valencia a Cologne a ddenodd rhwng
15,000 a 40,000 o gefnogwyr. 2. Yn nodi bod Adran
Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU yn cynnal
ymchwiliad i archwilio'r potensial ar gyfer e-chwaraeon yn y DU, ymhlith
tueddiadau eraill o ran technoleg. 3. Yn croesawu
argymhellion adolygiad Bazalgette o'r diwydiannau creadigol, a gomisiynwyd gan
Lywodraeth y DU, sy'n amlinellu argymhellion ar gyfer sut y gall y sector
e-chwaraeon fod yn sail i dwf economaidd y DU yn y dyfodol, drwy: a) godi statws
e-chwaraeon gyda chystadlaethau a noddir gan y Llywodraeth, timau cenedlaethol,
a sylw yn y cyfryngau; a b) cynyddu buddsoddiad
Llywodraeth y DU o £23.7 miliwn yn ychwanegol dros bum mlynedd i ymestyn
rhaglenni datblygu llwyddiannus ac arloesol cronfa gemau'r DU a'r '
Transfuzer'. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) archwilio
manteision economaidd posibl y diwydiant e-chwaraeon yng Nghymru; b) ymgynghori â
rhanddeiliaid addas i drefnu a chynnal cystadleuaeth ryngwladol e-chwaraeon yng
Nghymru; c) adrodd yn ôl i'r
Cynulliad ar gynnydd, erbyn 1 Hydref
2019.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1- Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le: Yn nodi’r
buddsoddiadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid dros y
blynyddoedd diwethaf sydd wedi helpu i greu sector Diwydiannau Creadigol
ffyniannus yng Nghymru. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i fabwysiadu dull trawslywodraethol o ehangu’r diwydiant
e-chwaraeon yng Nghymru, gan gydnabod y ffaith y bydd y Sector Diwydiannau
Creadigol yn cyfrannu’n sylweddol at ei lwyddiant. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i sicrhau bod Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill yn derbyn
cyllid ychwanegol ar gyfer y diwydiannau creadigol fel bod modd iddynt
fanteisio ar gyfleoedd newydd o fewn yr economi greadigol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7044
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr
effaith gynyddol y mae'r diwydiant e-chwaraeon yn ei chael ar economïau lleol
ledled y byd, megis twrnameintiau 2017 yn Valencia a Cologne a ddenodd rhwng
15,000 a 40,000 o gefnogwyr. 2. Yn nodi bod Adran
Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU yn cynnal
ymchwiliad i archwilio'r potensial ar gyfer e-chwaraeon yn y DU, ymhlith
tueddiadau eraill o ran technoleg. 3. Yn croesawu
argymhellion adolygiad Bazalgette o'r diwydiannau creadigol, a gomisiynwyd gan
Lywodraeth y DU, sy'n amlinellu argymhellion ar gyfer sut y gall y sector
e-chwaraeon fod yn sail i dwf economaidd y DU yn y dyfodol, drwy: a) godi statws
e-chwaraeon gyda chystadlaethau a noddir gan y Llywodraeth, timau cenedlaethol,
a sylw yn y cyfryngau; a b) cynyddu buddsoddiad
Llywodraeth y DU o £23.7 miliwn yn ychwanegol dros bum mlynedd i ymestyn
rhaglenni datblygu llwyddiannus ac arloesol cronfa gemau'r DU a'r '
Transfuzer'. 4. Yn nodi’r
buddsoddiadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid dros y
blynyddoedd diwethaf sydd wedi helpu i greu sector Diwydiannau Creadigol
ffyniannus yng Nghymru. 5. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i fabwysiadu dull trawslywodraethol o ehangu’r diwydiant
e-chwaraeon yng Nghymru, gan gydnabod y ffaith y bydd y Sector Diwydiannau
Creadigol yn cyfrannu’n sylweddol at ei lwyddiant. 6. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill yn
derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer y diwydiannau creadigol fel bod modd iddynt
fanteisio ar gyfleoedd newydd o fewn yr economi greadigol.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Byrddau Iechyd NDM7046 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cyhoeddi'r adroddiad Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm
Taf ar 30 Ebrill 2019. 2.
Yn nodi bod pryderon mawr ynghylch ansawdd gofal a threfniadau llywodraethu
byrddau iechyd hefyd wedi cael eu codi yn yr adroddiadau canlynol: a)
Ymddiried mewn Gofal: Adolygiad annibynnol o Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty
Castell-nedd Port Talbot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg,
2014; b)
Ymchwiliad allanol Donna Ockenden i bryderon a godwyd ynghylch gofal a
thriniaeth cleifion ar ward Tawel Fan, 2014; ac c)
Adolygiad Donna Ockenden o'r trefniadau llywodraethu sy'n ymwneud â gofalu am
gleifion ar ward Tawel Fan, 2018. 3.
Wedi colli hyder bellach yn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
presennol yn Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r methiannau systemig a
godwyd yn yr adroddiadau hyn, ac mewn adroddiadau eraill. Adolygiad
o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf. 2019 Donna
Ockenden - ymchwiliad allanol i bryderon a godwyd ynghylch gofal a thriniaeth
cleifion ar ward Tawel Fan. 2014 (Saesneg yn unig) Donna
Ockenden - adolygiad o'r trefniadau llywodraethu yn ymwneud â gofal cleifion ar
ward Tawel Fan. 2018 (Saaesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
derbyn argymhellion yr adroddiad ac yn cydnabod y trallod a'r trawma a achoswyd
i deuluoedd; Yn
nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau gwelliannau ar unwaith ac yn barhaus
i wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Cwm Taf; ac Yn
nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i ganfod a mynd i’r afael ag unrhyw faterion
llywodraethiant ehangach o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ar draws GIG
Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.54 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7046
Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi'r
adroddiad Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar 30 Ebrill
2019. 2. Yn nodi bod
pryderon mawr ynghylch ansawdd gofal a threfniadau llywodraethu byrddau iechyd
hefyd wedi cael eu codi yn yr adroddiadau canlynol: a) Ymddiried mewn
Gofal: Adolygiad annibynnol o Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd
Port Talbot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, 2014; b) Ymchwiliad allanol
Donna Ockenden i bryderon a godwyd ynghylch gofal a thriniaeth cleifion ar ward
Tawel Fan, 2014; ac c) Adolygiad Donna
Ockenden o'r trefniadau llywodraethu sy'n ymwneud â gofalu am gleifion ar ward
Tawel Fan, 2018. 3. Wedi colli hyder
bellach yn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol presennol yn
Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r methiannau systemig a godwyd yn yr
adroddiadau hyn, ac mewn adroddiadau eraill.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ol
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
derbyn argymhellion yr adroddiad ac yn cydnabod y trallod a'r trawma a achoswyd
i deuluoedd; Yn
nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau gwelliannau ar unwaith ac yn barhaus
i wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Cwm Taf; ac Yn
nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i ganfod a mynd i’r afael ag unrhyw faterion
llywodraethiant ehangach o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ar draws GIG
Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7046
Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi'r
adroddiad Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar 30 Ebrill
2019. 2. Yn derbyn
argymhellion yr adroddiad ac yn cydnabod y trallod a'r trawma a achoswyd i
deuluoedd; 3. Yn nodi’r camau
sy’n cael eu cymryd i sicrhau gwelliannau ar unwaith ac yn barhaus i
wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Cwm Taf; a 4. Yn nodi’r camau
sy’n cael eu cymryd i ganfod a mynd i’r afael ag unrhyw faterion
llywodraethiant ehangach o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ar draws GIG
Cymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Uno TATA Steel a ThyssenKrupp - Tynnwyd yn ôl NDM7047
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod TATA
Steel a ThyssenKrupp wedi cyhoeddi eu bwriad i werthu gwaith dur Trostre yn
Llanelli fel rhan o fwriad i uno'r ddau gwmni. 2. Yn nodi ymhellach
bod undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr yn ffatrïoedd TATA yng Nghymru
wedi dweud nad ydynt bellach wedi'u hargyhoeddi mai uno yw'r opsiwn gorau i
TATA Steel Europe a'u bod wedi mynegi pryderon nad partneriaeth gyfartal yw'r
fenter ar y cyd, ac yn credu y gall penderfyniadau strategol yn y dyfodol
flaenoriaethu buddiannau gweithrediadau ThyssenKrupp uwchlaw rhai TATA Steel
Europe. 3. Yn nodi bod y
Comisiwn Ewropeaidd wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ei adolygiad o'r
cytundeb cyd-fenter arfaethedig tan 17 Mehefin. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wrthwynebu'r uno fel y caiff ei gynnig ar hyn o bryd a
gwneud sylwadau ar y sail honno i Gomisiwn yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth y
DU a Bwrdd TATA Steel Europe. Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn ôl |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Gweithio Gartref NDM7045 Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi y cynhelir Wythnos Genedlaethol Gwaith Doeth rhwng dydd Sul 12 Mai a
dydd Sadwrn 18 Mai 2019. 2.
Yn credu bod gweithio gartref yn rhoi mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau
teuluol, a bod iddo fanteision ehangach hefyd, megis llai o draffig a llygredd,
gwaith mwy hygyrch i bobl anabl, a chadw costau adeiladau yn isel i fusnesau. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru
ddyletswydd i gynnwys gweithio gartref yn y broses o gynllunio swyddi a
recriwtio. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio
gartref o fewn y prosiect sy'n olynu Superfast Cymru, er mwyn sicrhau nad yw
pobl sy'n dymuno gweithio gartref yn cael eu rhwystro gan ddiffyg mynediad at
fand eang. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Ym
mhwynt 4, dileu: “ddatblygu
strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect sy'n olynu
Superfast Cymru, er mwyn Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi bod yr Athro Sharon Clarke a Dr Lyn Holdsworth o Ysgol Fusnes Manceinion
wedi datgan bod gweithwyr hyblyg, yn enwedig gweithwyr cartref, yn wynebu'r
posibilrwydd o gynnydd mewn straen galwedigaethol o ganlyniad i ddwysáu gwaith,
gwrthdaro â chyd-weithwyr, ac amharu ar lif gwybodaeth ac mae'n cydnabod yr
angen i'r materion hyn gael eu hystyried wrth lunio polisïau yn y dyfodol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.59 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7045
Gareth Bennett
(Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi y cynhelir
Wythnos Genedlaethol Gwaith Doeth rhwng dydd Sul 12 Mai a dydd Sadwrn 18 Mai
2019. 2. Yn credu bod
gweithio gartref yn rhoi mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau teuluol, a
bod iddo fanteision ehangach hefyd, megis llai o draffig a llygredd, gwaith mwy
hygyrch i bobl anabl, a chadw costau adeiladau yn isel i fusnesau. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd
i gynnwys gweithio gartref yn y broses o gynllunio swyddi a recriwtio. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o
fewn y prosiect sy'n olynu Superfast Cymru, er mwyn sicrhau nad yw pobl sy'n
dymuno gweithio gartref yn cael eu rhwystro gan ddiffyg mynediad at fand eang.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Ym
mhwynt 4, dileu: “ddatblygu
strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect sy'n olynu
Superfast Cymru, er mwyn Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi bod yr Athro Sharon Clarke a Dr Lyn Holdsworth o Ysgol Fusnes Manceinion
wedi datgan bod gweithwyr hyblyg, yn enwedig gweithwyr cartref, yn wynebu'r
posibilrwydd o gynnydd mewn straen galwedigaethol o ganlyniad i ddwysáu gwaith,
gwrthdaro â chyd-weithwyr, ac amharu ar lif gwybodaeth ac mae'n cydnabod yr
angen i'r materion hyn gael eu hystyried wrth lunio polisïau yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7045
Gareth Bennett
(Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi y cynhelir
Wythnos Genedlaethol Gwaith Doeth rhwng dydd Sul 12 Mai a dydd Sadwrn 18 Mai
2019. 2. Yn credu bod
gweithio gartref yn rhoi mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau teuluol, a
bod iddo fanteision ehangach hefyd, megis llai o draffig a llygredd, gwaith mwy
hygyrch i bobl anabl, a chadw costau adeiladau yn isel i fusnesau. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd
i gynnwys gweithio gartref yn y broses o gynllunio swyddi a recriwtio. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw pobl sy'n dymuno gweithio gartref yn cael eu
rhwystro gan ddiffyg mynediad at fand eang. 5. Yn nodi bod yr
Athro Sharon Clarke a Dr Lyn Holdsworth o Ysgol Fusnes Manceinion wedi datgan
bod gweithwyr hyblyg, yn enwedig gweithwyr cartref, yn wynebu'r posibilrwydd o gynnydd mewn straen
galwedigaethol o ganlyniad i ddwysáu gwaith, gwrthdaro â chyd-weithwyr, ac
amharu ar lif gwybodaeth ac mae'n cydnabod yr angen i'r materion hyn gael eu
hystyried wrth lunio polisïau yn y dyfodol.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.29 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: |