Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 200(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 Gofynnwyd
cwestiynau 1-2, 4-7 a 9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1 a 6 gan
y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Ni ofynnwyd cwestiwn 8. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) NDM7022 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) Bil
Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.08 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7022 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Rhentu
Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 NDM7015
Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol)
(Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 05 Mawrth 2019. Dogfen
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.15 NDM7015 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth ac
Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn
unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Caiff y cwestiwn hwn ei ateb
gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Gofyn i’r Prif Weinidog Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn ymateb i benderfyniad
yr Uchel Lys heddiw ynghylch yr ymchwiliad o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines
i ddiswyddo Carl Sargeant? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.17 Gofyn
i’r Prif Weinidog Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog
ddatganiad yn ymateb i benderfyniad yr Uchel Lys heddiw ynghylch yr ymchwiliad
o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines i ddiswyddo Carl Sargeant? Noder y cafodd y cwestiwn ei ateb gan y
Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.29 Gwnaeth
Dawn Bowden ddatganiad am -
Menywod yn erbyn cau'r pyllau. Gwnaeth
Nick Ramsay ddatganiad am - Codi ymwybyddiaeth o Apêl Seiclon Idai y DEC yn
dilyn y seiclon a ysgubodd drwy Simbabwe, Mozambique a Malawi yn ddiweddar. Gwnaeth Leanne Wood
ddatganiad - marwolaeth yr artist o’r Rhondda, Elwyn Thomas |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Rygbi NDM6990
Andrew R.T. Davies (Canol De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) pwysigrwydd rygbi i
bobl Cymru, y manteision economaidd sy'n gysylltiedig â'r gêm, a'i le arbennig
yng ngwead cymunedau ledled ein cenedl; b) yr heriau ariannol
a strwythurol sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd; c) goblygiadau posibl 'Project Reset' Undeb
Rygbi Cymru ar rygbi proffesiynol a'r strwythur rhanbarthol yng Nghymru, ac ar
y gwasanaethau lleol a chymunedol ychwanegol a ddarperir ar hyn o bryd gan y
rhanbarthau; a d) y pryderon cryf a
fynegwyd gan gefnogwyr ynghylch y posibilrwydd o uno rhanbarthau'r Gweilch a'r
Sgarlets. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid
rhanbarthol/clwb i ddiogelu rygbi yng Nghymru a llunio model cynaliadwy tymor
hir ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad. Cyd-gyflwynwyr Cefnogwyr Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.35 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6990 Andrew R.T. Davies
(Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) pwysigrwydd rygbi i
bobl Cymru, y manteision economaidd sy'n gysylltiedig â'r gêm, a'i lle arbennig
yng ngwead cymunedau ledled ein cenedl; b) yr heriau ariannol a
strwythurol sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd; c) goblygiadau posibl 'Project Reset' Undeb
Rygbi Cymru ar rygbi proffesiynol a'r strwythur rhanbarthol yng Nghymru, ac ar
y gwasanaethau lleol a chymunedol ychwanegol a ddarperir ar hyn o bryd gan y
rhanbarthau; a d) y pryderon cryf a
fynegwyd gan gefnogwyr ynghylch y posibilrwydd o uno rhanbarthau'r Gweilch a'r
Sgarlets. 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid rhanbarthol/clwb i
ddiogelu rygbi yng Nghymru a llunio model cynaliadwy tymor hir ar gyfer y gêm
ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad. Cyd-gyflwynwyr Cefnogwyr Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru) Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu Llywodraeth Leol NDM7018
Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rôl bwysig
y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
ledled Cymru. 2. Yn cydnabod yr
heriau ariannol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd. 3. Yn nodi bod
trethdalwyr Cymru, ar hyn o bryd, yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth
gyngor nag yn Lloegr na'r Alban. 4. Yn gresynu bod a) lefel y dreth
gyngor yng Nghymru wedi treblu ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym
1999; a b) lefel y dreth
gyngor yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu
llywodraeth leol Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod lefelau
treth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai
yn Lloegr. Yn cydnabod bod y
fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn
flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 4. Gwelliant
3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymgynghori ar setliad ariannu tymor hir ar gyfer llywodraeth leol a
fyddai'n caniatáu ar gyfer cynllunio tymor hwy ar gyfer llywodraeth leol. Gwelliant
4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod fod y
dreth gyngor wedi cynyddu oherwydd llymder a weithredwyd gan San Steffan a
diffyg blaenoriaeth ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru wrth lunio'r
gyllideb. Gwelliant
5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y
cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau. Gwelliant
6 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd
wrth i lywodraeth leol wario grantiau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.17 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7018 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae awdurdodau
lleol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. 2. Yn cydnabod yr heriau ariannol y mae
awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd. 3. Yn nodi bod trethdalwyr Cymru, ar hyn o bryd,
yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag yn Lloegr na'r Alban. 4. Yn gresynu bod a) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi treblu
ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999; a b) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu
ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu
adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod lefelau
treth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai
yn Lloegr. Yn cydnabod bod y
fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn
flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. [Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod fod y dreth
gyngor wedi cynyddu oherwydd llymder a weithredwyd gan San Steffan a diffyg
blaenoriaeth ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru wrth lunio'r
gyllideb. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y cysylltiad
pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd
wrth i lywodraeth leol wario grantiau. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7018 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth
ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. 2. Yn cydnabod yr heriau ariannol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn
eu hwynebu ar hyn o bryd. 3. Yn nodi bod lefelau treth gyngor ar gyfer eiddo band D
yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai yn Lloegr. 4. Yn cydnabod bod y
fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn
flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru. 5. Yn cydnabod y
cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau. 6. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd
wrth i lywodraeth leol wario grantiau.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Yr Undeb Ewropeaidd NDM7019
Gareth Bennett (Canol De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod y Cytuniad
ar yr Undeb Ewropeaidd yn ymrwymo aelod-wladwriaethau i symud tuag at uno
agosach fyth ymhlith pobl Ewrop. 2. Yn gresynu bod yr
UE, ers 1973, wedi cymryd pŵer oddi ar seneddau cenedlaethol etholedig, ac
wedi ei ganoli yn nwylo sefydliadau anetholedig yr UE. 3. Yn nodi bod fetoau
cenedlaethol yn cael eu herydu wrth ffafrio pleidlais y mwyafrif yng Nghyngor y
Gweinidogion, mewn nifer gynyddol o feysydd polisi, ac y bydd y duedd hon yn
parhau am gyfnod amhenodol. 4. Yn credu bod
ansicrwydd parhaus y trafodaethau rhwng yr UE a'r Deyrnas Unedig yn creu perygl
y bydd y Deyrnas Unedig yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn groes i ewyllys
penderfyniad y pobl fel y mynegwyd yng nghanlyniad refferendwm 2016. 5. Yn credu bod y
prosiect Ewropeaidd yn rym ddi-baid, yn cael ei hyrwyddo gan sefydliadau
parhaol yr UE, yn arbennig y Comisiwn, a bod y risgiau o aros o fewn yr UE yn
cynnwys dod yn ddarostyngedig i fyddin Ewropeaidd, rhagor o integreiddio
economaidd ac erydu sofraniaeth y Deyrnas Unedig. 6. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar ddod i gytundeb masnach rydd gyda'r
UE mor gyflym â phosibl, er mwyn hwyluso'r broses o ymadael yn llawn a dirwystr
â'r Undeb Ewropeaidd. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Cymru
wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ym mis Mehefin
2016. 2. Yn credu bod yn
rhaid parchu canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb
Ewropeaidd ac y dylid gweithredu'r penderfyniad i ymadael. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas
Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant
2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl
“Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi bod yr
Undeb Ewropeaidd a’i ragflaenydd wedi bod yn rym cadarnhaol dros heddwch a
sefydlogrwydd parhaus yn Ewrop ers ei sefydlu. 2. Yn ailddatgan ei
gefnogaeth i’r safbwynt a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn
pleidleisiau olynol ar 4 Rhagfyr 2018, 30 Ionawr 2019 a 5 Mawrth 2019. 3. Yn credu beth
bynnag fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai’r Deyrnas Unedig geisio
cynnal y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl
rhwng y DU a’r 27 gwladwriaeth arall sy’n rhan o’r UE. [Os derbynnir
gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant
3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod y
Cytundeb Ymadael a drafodwyd rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd wedi'i
wrthod dro ar ôl tro gan Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. 2. Yn nodi bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio ar 30 Ionawr 2019 y 'dylid
dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais gyhoeddus'. 3. Yn credu y dylid
ymestyn Erthygl 50 am hyd at 21 mis fel y gellir cynnal pleidlais y bobl i
alluogi'r bobl i benderfynu a ddylid cymeradwyo'r Cytundeb Ymadael a drafodwyd
neu aros yn yr UE. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud datganiad i'r Cynulliad yn nodi'r camau y mae wedi'u cymryd
i baratoi ar gyfer pleidlais y bobl a pha sylwadau y mae wedi'u gwneud i
Lywodraeth y DU i'r perwyl hwn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.14 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7019 Gareth Bennett (Canol De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd yn ymrwymo
aelod-wladwriaethau i symud tuag at uno agosach fyth ymhlith pobl Ewrop. 2. Yn gresynu bod yr UE, ers 1973, wedi cymryd pŵer oddi ar seneddau
cenedlaethol etholedig, ac wedi ei ganoli yn nwylo sefydliadau anetholedig yr
UE. 3. Yn nodi bod fetoau cenedlaethol yn cael eu herydu wrth ffafrio pleidlais
y mwyafrif yng Nghyngor y Gweinidogion, mewn nifer gynyddol o feysydd polisi,
ac y bydd y duedd hon yn parhau am gyfnod amhenodol. 4. Yn credu bod ansicrwydd parhaus y trafodaethau rhwng yr UE a'r Deyrnas
Unedig yn creu perygl y bydd y Deyrnas Unedig yn aros o fewn yr Undeb
Ewropeaidd, yn groes i ewyllys penderfyniad y pobl fel y mynegwyd yng
nghanlyniad refferendwm 2016. 5. Yn credu bod y prosiect Ewropeaidd yn rym ddi-baid, yn cael ei
hyrwyddo gan sefydliadau parhaol yr UE, yn arbennig y Comisiwn, a bod y risgiau
o aros o fewn yr UE yn cynnwys dod yn ddarostyngedig i fyddin Ewropeaidd,
rhagor o integreiddio economaidd ac erydu sofraniaeth y Deyrnas Unedig. 6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar ddod i
gytundeb masnach rydd gyda'r UE mor gyflym â phosibl, er mwyn hwyluso'r broses
o ymadael yn llawn a dirwystr â'r Undeb Ewropeaidd.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Cymru
wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ym mis Mehefin
2016. 2. Yn credu bod yn rhaid
parchu canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb
Ewropeaidd ac y dylid gweithredu'r penderfyniad i ymadael. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael
â'r Undeb Ewropeaidd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl
“Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi bod yr Undeb
Ewropeaidd a’i ragflaenydd wedi bod yn rym cadarnhaol dros heddwch a
sefydlogrwydd parhaus yn Ewrop ers ei sefydlu. 2. Yn ailddatgan ei
gefnogaeth i’r safbwynt a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn
pleidleisiau olynol ar 4 Rhagfyr 2018, 30 Ionawr 2019 a 5 Mawrth 2019. 3. Yn credu beth bynnag
fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai’r Deyrnas Unedig geisio cynnal y
cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl rhwng y DU
a’r 27 gwladwriaeth arall sy’n rhan o’r UE. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. [Gan fod gwelliant 2 wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7019 Gareth Bennett (Canol De
Cymru) 1. Yn nodi bod yr Undeb
Ewropeaidd a’i ragflaenydd wedi bod yn rym cadarnhaol dros heddwch a
sefydlogrwydd parhaus yn Ewrop ers ei sefydlu. 2. Yn ailddatgan ei
gefnogaeth i’r safbwynt a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn
pleidleisiau olynol ar 4 Rhagfyr 2018, 30 Ionawr 2019 a 5 Mawrth 2019. 3. Yn credu beth bynnag
fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai’r Deyrnas Unedig geisio cynnal y
cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl rhwng y DU
a’r 27 gwladwriaeth arall sy’n rhan o’r UE.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.12 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7016
Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Gwasanaethau plant:
amser am newid. Dadl ar y newidiadau
sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau plant yn diogelu plant Cymru yn y
ffordd orau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.18 NDM7016 Neil McEvoy (Canol De Cymru) Gwasanaethau plant:
amser am newid. Dadl ar y newidiadau
sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau plant yn diogelu plant Cymru yn y
ffordd orau. |