Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 182(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiwn 2 ei ateb gan y Dirprwy Weinidog. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.20

Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ar ôl cwestiwn 2.

 

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i’r Prif Weinidog

Mick Antoniw (Pontypridd): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff pleidlais Senedd y DU ar gytundeb Brexit Llywodraeth y DU ar 15 Ionawr 2019 ar Gymru?

 

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â dyfodol Wylfa Newydd?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.07

Gofyn i’r Prif Weinidog

Mick Antoniw (Pontypridd): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff pleidlais Senedd y DU ar gytundeb Brexit Llywodraeth y DU ar 15 Ionawr 2019 ar Gymru? 

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â dyfodol Wylfa Newydd?

 

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.38

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Gwerthfawrogi Cymwysterau Galwedigaethol – nodi lansio Deuddegfed Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol ddydd Mercher 16 Ionawr.

 

Cynigion o dan Reol Sefydlog 17.14 i ethol Aelodau i bwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 15.40

Cynigion o dan Reol Sefydlog 17.14 i ethol Aelodau i Bwyllgorau

NDM6922 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carwyn Jones (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Lee Waters (Llafur).

NDM6923 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vikki Howells (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Jack Sargeant (Llafur).

NDM6924 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Huw Irranca-Davies (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Jane Hutt (Llafur).

NDM6925 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Davies (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Vikki Howells (Llafur).

NDM6926 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Julie Morgan (Llafur).

NDM6927 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jenny Rathbone (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Jayne Bryant (Llafur).

NDM6928 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vikki Howells (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Jane Hutt (Llafur).

NDM6929 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jayne Bryant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Jenny Rathbone (Llafur).

NDM6930 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carwyn Jones (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Jayne Bryant (Llafur).

NDM6931 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Huw Irranca-Davies (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Jack Sargeant (Llafur).

NDM6932 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jayne Bryant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Julie Morgan (Llafur).

NDM6933 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Rees (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Rhianon Passmore (Llafur).

NDM6934 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhianon Passmore (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle David Rees (Llafur).

NDM6935 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Davies (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Jane Hutt (Llafur).

NDM6936 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Reckless (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).

NDM6938 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Lee Waters (Llafur).

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

 

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 i ethol Aelod i bwyllgor

Dechreuodd yr eitem am 15.40

NDM6937 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Sian Gwenllian (Plaid Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

 

(15 munud)

5.

Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

NDM6913 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 8(1) o, a pharagraff 21(b) i Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018, yn unol â’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Rhagfyr 2018.

Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15:40

NDM6913 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 8(1) o, a pharagraff 21(b) i Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018, yn unol â’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Rhagfyr 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

6.

Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Awtistiaeth (Cymru).

Gosodwyd Bil Awtistiaeth (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2018.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

28

52

Gwrthodwyd y cynnig.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Diogelwch Tân mewn Adeiladau Uchel Iawn (sector preifat)

NDM6917 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Ionawr 2019.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.02

NDM6917 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru - Brexit Heb Gytundeb

NDM6918 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gwrthod ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau.

 

2. Yn galw ar y Prif Weinidog i ofyn bod cyd-bwyllgor Gweinidogion y DU yn cael ei ailgynnull ar fyrder er mwyn ceisio cytundeb ar ddiystyru gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. 

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod cytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU yn negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, drwy gadw’r DU  yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu hefyd o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn cymeradwyo ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ac o dan delerau Sefydliad Masnach y Byd, er mwyn bodloni dymuniadau pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gofleidio adferiad sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Draft Agreement on the withdrawal of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland from the European Union and the European Atomic Energy Community (Saesneg yn unig)

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU wrth iddi geisio rhoi canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar waith.

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.38

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6918 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gwrthod ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau.

2. Yn galw ar y Prif Weinidog i ofyn bod cyd-bwyllgor Gweinidogion y DU yn cael ei ailgynnull ar fyrder er mwyn ceisio cytundeb ar ddiystyru gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

16

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.25

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM6914 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Contract ar gyfer gwell cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.27

NDM6914 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Contract ar gyfer gwell cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle.