Lleoliad: Y Siambr - Y_Senedd. Cyfarwyddiadau
Nodyn: 179(v3)
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Trawsgrifiad: Trawsgrifiad ar gyfer 08/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn
Nodyn | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
|
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.29 |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Diweddaraf ar Drefniadau Pontio’r UE Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.02
|
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cyflwyno Asesiadau Personol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.58 |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Prentisiaethau: Buddsoddi mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol - Gohiriwyd |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019 NDM6912 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2018.
Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.27 NDM6912 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2018. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018 NDM6911 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.
Dogfennau Ategol
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.30 NDM6911 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Holtham ar Dalu am Ofal Cymdeithasol NDM6906 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi: a) y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth; b) yr adroddiad a gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; ac c) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorlloewin Clwyd) Dileu is-bwynt a) a rhoi yn ei le: 'y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy'n deillio o setliadau llywodraeth leol gwael a'r newid yn y boblogaeth;' Gwelliant 2 – Darren Millar (Gorlloewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.33 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6906 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi: a) y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth; b) yr adroddiad a gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; a c) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu is-bwynt a) a rhoi yn ei le: 'y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy'n deillio o setliadau llywodraeth leol gwael a'r newid yn y boblogaeth;' Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6906 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi: a) y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth; b) yr adroddiad a gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; a c) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith. Yn cydnabod yr angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) NDM6910 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol: a) adrannau 2 – 4; b) atodlen 1; c) adrannau 5 – 9; d) atodlen 2; e) adrannau 10 – 26; f) adran 1; g) teitl hir. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.27 NDM6910 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol: a) adrannau 2 – 4; b) atodlen 1; c) adrannau 5 – 9; d) atodlen 2; e) adrannau 10 – 26; f) adran 1; g) teitl hir. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu i’r eitem nesaf o fusnes gael ei hystyried NNDM6904 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6905 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 8 Ionawr 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 NNDM6904 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6905 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 8 Ionawr 2019. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog i Ei Mawrhydi benodi Cwnsler Cyffredinol NNDM6905 - Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Jeremy Miles AC yn Gwnsler Cyffredinol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NNDM6905 - Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Jeremy Miles AC yn Gwnsler Cyffredinol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.36 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |