Lleoliad: Y Siambr - Y_Senedd. Cyfarwyddiadau
Nodyn: 178(v6)
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Trawsgrifiad: Trawsgrifiad ar gyfer 12/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn
Nodyn | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8. Dechreuodd yr eitem am 13.30. Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 8.2.
Cafodd Mark Drakedord ei enwebu gan Carwyn Jones. Cafodd Paul Davies ei enwebu gan Janet Finch-Saunders. Cafodd Adam Price ei enwebu gan Rhun ap Iorwerth. Gan fod tri enwebiad, cynhaliwyd pleidlais drwy alw cofrestr yr Aelodau. Gwahoddodd y Llywydd bob Aelod a oedd yn bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Cafodd yr Aelodau eu galw yn nhrefn yr wyddor. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniatawyd i’r Llywydd na’r Dirprwy Lywydd bleidleisio.
Canlyniad y bleidlais oedd:
[gweler y crynodeb o’r pleidleisiau i gael y
canlyniad llawn] |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.46 Gofynnwyd yr un cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y contract sector cyhoeddus sydd wedi'i ddyfarnu i Interserve ar hyn o bryd i ymgymryd â gwaith adeiladu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.52 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y contract sector cyhoeddus sydd wedi'i ddyfarnu i Interserve ar hyn o bryd i ymgymryd â gwaith adeiladu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.02 Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am: Millicent Mackenzie - y fenyw gyntaf yng Nghymru i sefyll i'w hethol i San Steffan yn Etholiad Cyffredinol 14 Rhagfyr 1918. Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad am: Cydnabod Llangollen fel y gymuned gyntaf yng ngogledd Cymru i sicrhau ei statws fel cymuned ddi-blastig. Gwnaeth Dai Lloyd ddatganiad am: Llywelyn ein Llyw Olaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol NDM6896 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018. 2. Yn nodi ei bod yn 70 mlynedd ers mabwysiadu’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y twf mewn mudiadau gwleidyddol sy'n gwrthod egwyddorion y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei gwaith i fynd i'r afael ag eithafiaeth yn cynnwys mesurau rhagweithiol i atal eithafiaeth asgell dde.
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod yr holl hawliau a nodir yn natganiad y Cenhedloedd Unedig o hawliau dynol yn un mor bwysig â'i gilydd. Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd o ran rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, amddiffyn rhyddid crefydd neu gred, rhoi terfyn ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, a hyrwyddo democratiaeth.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.07 NDM6896 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018. 2. Yn nodi ei bod yn 70 mlynedd ers mabwysiadu’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd o ran rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, amddiffyn rhyddid crefydd neu gred, rhoi terfyn ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, a hyrwyddo democratiaeth. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant sy’n weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6896 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018. 2. Yn nodi ei bod yn 70 mlynedd ers mabwysiadu’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. 3. Yn gresynu at y twf mewn mudiadau gwleidyddol sy'n gwrthod egwyddorion y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei gwaith i fynd i'r afael ag eithafiaeth yn cynnwys mesurau rhagweithiol i atal eithafiaeth asgell dde. 4. Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod yr holl hawliau a nodir yn natganiad y Cenhedloedd Unedig o hawliau dynol yn un mor bwysig â'i gilydd. 5.Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd o ran rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, amddiffyn rhyddid crefydd neu gred, rhoi terfyn ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, a hyrwyddo democratiaeth.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) NDM6899 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3
Cofnodion: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6899 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio (Busnes y Llywodraeth) Dechreuodd yr eitem am 15.16 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Atal Gwastraff ac Ailgylchu NDM6893 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar atal ac ailgylchu gwastraff. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a) atal gwastraff drwy osod gofynion ailgylchu ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr o ran deunydd pacio a gwastraff deunydd pacio; a b) cyflwyno cyfrifoldebau estynedig ar y cynhyrchydd i sicrhau bod costau ailgylchu a rheoli gwastraff yn cael eu rhannu yn deg, gyda chynhyrchwyr yn cyfrannu at gost ariannol triniaeth ar ddiwedd bywyd eu cynnyrch.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.18 NDM6893 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar atal ac ailgylchu gwastraff. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a) atal gwastraff drwy osod gofynion ailgylchu ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr o ran deunydd pacio a gwastraff deunydd pacio; a b) cyflwyno cyfrifoldebau estynedig ar y cynhyrchydd i sicrhau bod costau ailgylchu a rheoli gwastraff yn cael eu rhannu yn deg, gyda chynhyrchwyr yn cyfrannu at gost ariannol triniaeth ar ddiwedd bywyd eu cynnyrch. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cyflog Byw NDM6860
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1. Yn nodi yr adroddiad gan Ysgol Fusnes Caerdydd, 'The Living Wage Employer Experience'. 2. Yn croesawu'r camau a gymerwyd gan 174 o gyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru i dalu cyflog byw go iawn i'w cyflogeion. 3. yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) nodi'r mesurau i gefnogi mwy o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fabwysiadu'r cyflog byw go iawn a dod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn achrededig; a b) ystyried cryfhau y Cod ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi mewn perthynas â'r cyflog byw go iawn. The Living Wage Employer Experience (Saesneg yn unig) Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
Cefnogwyr
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.47
NDM6860
Jane Hutt (Bro Morgannwg) 1. Yn nodi yr adroddiad gan Ysgol Fusnes Caerdydd, 'The Living Wage Employer Experience'. 2. Yn croesawu'r camau a gymerwyd gan 174 o gyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru i dalu cyflog byw go iawn i'w cyflogeion. 3. yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) nodi'r mesurau i gefnogi mwy o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fabwysiadu'r cyflog byw go iawn a dod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn achrededig; a b) ystyried cryfhau y Cod ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi mewn perthynas â'r cyflog byw go iawn.
Cefnogwyr Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Rhwystrau Carthffosydd NDM6898 Gareth Bennett (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad Water UK ar ei astudiaeth ynghylch hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd. 2. Yn gresynu at y ffaith y ceir tua 2,000 o rwystrau mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr achosir llawer ohonynt gan bobl yn fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a hancesi gwlyb i lawr y toiled. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gwaith ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig y tu hwnt i fwyd a diod i gynnwys eitemau traul fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer profi cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ar sail rheoleiddiol; ac os bydd cynhyrchion o'r fath yn methu prawf newydd y diwydiant dŵr i weld a ellir eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr becynnu'r cynhyrchion hynny gyda logo clir, trawiadol ac amlwg sy'n nodi na ellir eu fflysio. Water UK - Wipes in Sewer Blockage Study (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae defnyddiau traul yn achosi i doiledau flocio. Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Dŵr Cymru ac asiantaethau eraill i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau traul er mwyn lleihau rhwystrau yn y system garthffosiaeth. Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio trethi newydd i leihau’r defnydd o ddefnyddiau traul.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.33 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6898 Gareth Bennett (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad Water UK ar ei astudiaeth ynghylch hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd. 2. Yn gresynu at y ffaith y ceir tua 2,000 o rwystrau mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr achosir llawer ohonynt gan bobl yn fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a hancesi gwlyb i lawr y toiled. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gwaith ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig y tu hwnt i fwyd a diod i gynnwys eitemau traul fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer profi cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ar sail rheoleiddiol; ac os bydd cynhyrchion o'r fath yn methu prawf newydd y diwydiant dŵr i weld a ellir eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr becynnu'r cynhyrchion hynny gyda logo clir, trawiadol ac amlwg sy'n nodi na ellir eu fflysio.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae defnyddiau traul yn achosi i doiledau flocio. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Dŵr Cymru ac asiantaethau eraill i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau traul er mwyn lleihau rhwystrau yn y system garthffosiaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio trethi newydd i leihau’r ddefnydd o defnyddiau traul. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6898 Gareth Bennett (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad Water UK ar ei astudiaeth ynghylch hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd. 2. Yn gresynu at y ffaith y ceir tua 2,000 o rwystrau mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr achosir llawer ohonynt gan bobl yn fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a hancesi gwlyb i lawr y toiled. 3. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae defnyddiau traul yn achosi i doiledau flocio. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer profi cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ar sail rheoleiddiol; ac os bydd cynhyrchion o'r fath yn methu prawf newydd y diwydiant dŵr i weld a ellir eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr becynnu'r cynhyrchion hynny gyda logo clir, trawiadol ac amlwg sy'n nodi na ellir eu fflysio. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Dŵr Cymru ac asiantaethau eraill i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau traul er mwyn lleihau rhwystrau yn y system garthffosiaeth. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio trethi newydd i leihau’r defnydd o ddefnyddiau traul.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio (Busnes y Cynulliad) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.02 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6897 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru) Cyfraith Lucy: yr ymgyrch i wella lles anifeiliaid drwy wahardd gwerthu a bridio cŵn bach a chathod bach gan siopau anifeiliaid anwes a'r holl werthwyr trydydd parti masnachol.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.05 NDM6897 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru) Cyfraith Lucy: yr ymgyrch i wella lles anifeiliaid drwy wahardd gwerthu a bridio cŵn bach a chathod bach gan siopau anifeiliaid anwes a'r holl werthwyr trydydd parti masnachol. |