Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 175(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r
Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Arweinydd y Tŷ
a’r Prif Chwip yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Yn unol â Rheol Sefydlog
12.58, roedd Arweinydd y Tŷ yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Gofynnwyd y 9 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(120 munud) |
Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol NDM6889 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r
Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn
y dyfodol y cytunwyd arnynt gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU, ond yn
siomedig nad yw Cymru na’r Alban yn cael eu crybwyll yn unrhyw un o’r
dogfennau. 2. Yn nodi’n
benodol y trefniadau ar gyfer diogelu hawliau dinasyddion ac ar gyfer cyfnod
pontio y mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson drosto ac a fyddai’n osgoi’r
canlyniad trychinebus lle na cheir cytundeb ym mis Mawrth 2019. 3. Yn nodi y bydd
gan y Cynulliad gyfle arall i drafod y Cytundeb Ymadael wrth iddo ystyried a
fydd yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol ai peidio i Fil y Cytundeb Ymadael y
mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei gyflwyno. 4. Yn credu nad
yw’r berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y Datganiad Gwleidyddol yn
bodloni’r model ar gyfer y berthynas rhwng y DU / EU yn y dyfodol a nodir yn
Diogelu Dyfodol Cymru, sydd wedi cael ei gefnogi’n gyson gan y Cynulliad ac nad
yw’n rhoi sicrwydd cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol a
deddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb yn y dyfodol. 5. Yn nodi bod
llinellau coch Llywodraeth y DU wedi cyfyngu ar gwmpas y cytundeb dros dro y
cytunwyd arno â’r UE ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio’n
hytrach ar ddiogelu perthynas hirdymor sy’n darparu fel bod modd cymryd rhan yn
y farchnad sengl ac mewn undeb tollau, gan geisio ymestyn Erthygl 50 os bydd
angen. 6. Yn credu y dylai
Llywodraeth y DU ddatgan yn awr ei bwriad i negodi ar y sail honno ac os yw’n
methu â gwneud hynny, dylid naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais
gyhoeddus i benderfynu ar y telerau ar gyfer ymadawiad y DU, neu a ydy’n dymuno
aros. Y
Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol (Saesneg yn unig) Dogfen Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi
yn ei le: Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod
pobl wedi pleidleisio drwy fwyafrif ar 23 Mehefin 2016 heb unrhyw amwysedd, neu
gyfyngiad, i adael yr UE, ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth
Cymru anrhydeddu ysbryd a llythyren y penderfyniad hwnnw. 2. Yn credu bod
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhwystro dymuniadau y 17.4 miliwn o
bobl a bleidleisiodd i ymadael. 3. Yn credu bod
cytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU yn ildiad, sy'n negyddu canlyniad y
refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r DU yn undeb tollau'r UE am gyfnod
amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw
lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r UE. 4. Yn galw ar y DU
a Llywodraeth Cymru i gofleidio adfer sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu
allan i'r UE a'r cyfleoedd byd-eang i fasnachu â gweddill y byd. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwyntiau 1-5
a rhoi yn eu lle: Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gwrthod y
cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol am y berthynas rhwng y DU a'r UE yn
y dyfodol a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU. Yn credu nad yw'r
berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y datganiad gwleidyddol yn mynd
mor bell â’r model ar gyfer perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a nodwyd
yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, sy'n darparu gwarantau cadarn mewn perthynas â
hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau
dinasyddion. Yn nodi bod
dadansoddiad economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd economi'r
DU yn gwaethygu 3.9 y cant dros 15 mlynedd o dan y cytundeb ymadael a’r
datganiad gwleidyddol presennol. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau. Yn galw am estyniad
i’r broses ar gyfer erthygl 50. Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 6 a
rhoi yn ei le: Yn galw am
bleidlais y bobl ar y cytundeb terfynol rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys opsiwn
i'r DU barhau i fod yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.19 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6889 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r Cytundeb
Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol
y cytunwyd arnynt gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU, ond yn siomedig
nad yw Cymru na’r Alban yn cael eu crybwyll yn unrhyw un o’r dogfennau. 2. Yn nodi’n benodol y
trefniadau ar gyfer diogelu hawliau dinasyddion ac ar gyfer cyfnod pontio y mae
Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson drosto ac a fyddai’n osgoi’r canlyniad
trychinebus lle na cheir cytundeb ym mis Mawrth 2019. 3. Yn nodi y bydd gan y
Cynulliad gyfle arall i drafod y Cytundeb Ymadael wrth iddo ystyried a fydd yn
rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol ai peidio i Fil y Cytundeb Ymadael y mae
Llywodraeth y DU yn bwriadu ei gyflwyno. 4. Yn credu nad yw’r
berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y Datganiad Gwleidyddol yn
bodloni’r model ar gyfer y berthynas rhwng y DU / EU yn y dyfodol a nodir yn
Diogelu Dyfodol Cymru, sydd wedi cael ei gefnogi’n gyson gan y Cynulliad ac nad
yw’n rhoi sicrwydd cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol a
deddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb yn y dyfodol. 5. Yn nodi bod llinellau
coch Llywodraeth y DU wedi cyfyngu ar gwmpas y cytundeb dros dro y cytunwyd
arno â’r UE ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio’n hytrach ar
ddiogelu perthynas hirdymor sy’n darparu fel bod modd cymryd rhan yn y farchnad
sengl ac mewn undeb tollau, gan geisio ymestyn Erthygl 50 os bydd angen. 6. Yn credu y dylai
Llywodraeth y DU ddatgan yn awr ei bwriad i negodi ar y sail honno ac os yw’n
methu â gwneud hynny, dylid naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais
gyhoeddus i benderfynu ar y telerau ar gyfer ymadawiad y DU, neu a ydy’n dymuno
aros. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod pobl
wedi pleidleisio drwy fwyafrif ar 23 Mehefin 2016 heb unrhyw amwysedd, neu
gyfyngiad, i adael yr UE, ac yn credu y dylai y Llywodraeth y DU a Llywodraeth
Cymru anrhydeddu ysbryd a llythyren y penderfyniad hwnnw. 2. Yn credu bod
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhwystro dymuniadau y 17.4 miliwn o
bobl a bleidleisiodd i ymadael. 3. Yn credu bod cytundeb
ymadael drafft Llywodraeth y DU yn ildiad, sy'n negyddu canlyniad y refferendwm
yn sylweddol, gan gadw'r DU yn undeb tollau'r UE am gyfnod amhenodol ac, i bob
pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais ffurfiol neu
bleidlais ym mhenderfyniadau'r UE. 4. Yn galw ar y DU a
Llywodraeth Cymru i gofleidio adfer sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan
i'r UE a'r cyfleoedd byd-eang i fasnachu â gweddill y byd. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwyntiau 1-5 a
rhoi yn eu lle: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn gwrthod y cytundeb
ymadael a'r datganiad gwleidyddol am y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol
a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU. Yn credu nad yw'r
berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y datganiad gwleidyddol yn mynd
mor bell â’r model ar gyfer perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a nodwyd
yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, sy'n darparu gwarantau cadarn mewn perthynas â
hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau
dinasyddion. Yn nodi bod dadansoddiad
economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd economi'r DU yn
gwaethygu 3.9 y cant dros 15 mlynedd o dan y cytundeb ymadael a’r datganiad
gwleidyddol presennol. Yn galw ar Lywodraeth y
DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau. Yn galw am estyniad i’r
broses ar gyfer erthygl 50. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 6 a rhoi yn
ei le: Yn galw am bleidlais y
bobl ar y cytundeb terfynol rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys opsiwn i'r DU barhau
i fod yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6889 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwrthod y cytundeb
ymadael a'r datganiad gwleidyddol am y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol
a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU. 2. Yn credu nad yw'r
berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y datganiad gwleidyddol yn mynd
mor bell â’r model ar gyfer perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a nodwyd
yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, sy'n darparu gwarantau cadarn mewn perthynas â
hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau
dinasyddion. 3. Yn nodi bod
dadansoddiad economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd economi'r
DU yn gwaethygu 3.9 y cant dros 15 mlynedd o dan y cytundeb ymadael a’r
datganiad gwleidyddol presennol. 4. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau. 5. Yn galw am estyniad
i’r broses ar gyfer erthygl 50. 6. Yn credu y dylai
Llywodraeth y DU ddatgan yn awr ei bwriad i negodi ar y sail honno ac os yw’n
methu â gwneud hynny, dylid naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais
gyhoeddus i benderfynu ar y telerau ar gyfer ymadawiad y DU, neu a ydy’n dymuno
aros.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.53 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Y Bil Deddfwriaeth (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.17 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018 NDM6888 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 06 Tachwedd 2018.
Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.48 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6888 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1. Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn
unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 06 Tachwedd 201 Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018 NDM6885 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018 yn cael ei
llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Cofnodion: Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6885 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1. Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru)
2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018 Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018 NDM6884 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018 yn
cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Cofnodion: Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6884 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod
y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau
Interim) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd
2018. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Llongau Morgludiant) (Cymru) 2018 NDM6886 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol)
(Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Cofnodion: NDM6886 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a
Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Cymru Net) (Cymru) 2018 NDM6887 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru)
(Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 06 Tachwedd 2018.
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Cofnodion: Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6887 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1. Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif
Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 06 Tachwedd 2018. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(90 munud) |
Dadl: Cyllideb Ddrafft 2019-20 NDM6883 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft
ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 2
a 23
Hydref 2018. Dogfennau Ategol Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi
yn ei le: Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu nad yw
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 yn diwallu anghenion pobl
Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.19 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6883 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn nodi'r Gyllideb
Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 2
a 23
Hydref 2018. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu nad yw Cyllideb
Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 yn diwallu anghenion pobl Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig: NDM6883 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn nodi'r Gyllideb
Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 2
a 23
Hydref 2018.
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 20.11 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |