Lleoliad: Y Siambr - Y_Senedd. Cyfarwyddiadau
Nodyn: 172(v2)
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Trawsgrifiad: Trawsgrifiad ar gyfer 21/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn
Nodyn | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 a 5 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
|
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.19 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
|
|||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Maes Awyr Caerdydd yn sgil adroddiadau bod cwmni awyrennau Flybe yn mynd i gael ei werthu?
Rhun Ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau trên yn dilyn ymddiheuriad cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru am ddiffygion yn y gwasanaethau?
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.11 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Maes Awyr Caerdydd yn sgil adroddiadau bod cwmni awyrennau Flybe yn mynd i gael ei werthu? Rhun Ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau trên yn dilyn ymddiheuriad cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru am ddiffygion yn y gwasanaethau?
|
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.38 Gwnaeth Sian Gwenllian ddatganiad am: Ymgyrch Flynyddol y Cenhedloedd Unedig - 16 diwrnod o weithredu i ymladd yn erbyn trais rhywiol. Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad am: 85 mlynedd ers Holodomor Wcrain. Gwnaeth Dai Lloyd ddatganiad am: Lansio Strategaeth Golwg Cymru (fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol).
|
|||||||||
Cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Cynulliad (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 15.43 NDM6876 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Adam Price (Plaid Cymru). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
|
||||||||||
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 15.43 NDM6877 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol Helen Mary Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
|
||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cyllido Addysg Bellach NDM6862
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau cyllidebol. 2. Yn nodi bod y sector addysg bellach wedi'i osod o dan bwysau ychwanegol, yn rhannol oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â dysgu gydol oes, sgiliau a chyflogadwyedd, a gafodd eu hegluro yn y cynllun cyflogadwyedd diweddar a ddiweddarwyd gan ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi 2018. 3. Yn mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach yn ystyried mynd ar streic dros gyflogau annigonol a phryderon ynghylch llwythi gwaith trwm. 4. Yn cynnig na ddylai fod unrhyw ostyngiad pellach o ran faint o arian a dderbynnir gan y sector addysg bellach ac y dylid cydnabod ei safle fel allwedd i gynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn economi Cymru.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.44 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6862
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau cyllidebol. 2. Yn nodi bod y sector addysg bellach wedi'i osod o dan bwysau ychwanegol, yn rhannol oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â dysgu gydol oes, sgiliau a chyflogadwyedd, a gafodd eu hegluro yn y cynllun cyflogadwyedd diweddar a ddiweddarwyd gan ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi 2018. 3. Yn mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach yn ystyried mynd ar streic dros gyflogau annigonol a phryderon ynghylch llwythi gwaith trwm. 4. Yn cynnig na ddylai fod unrhyw ostyngiad pellach o ran faint o arian a dderbynnir gan y sector addysg bellach ac y dylid cydnabod ei safle fel allwedd i gynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn economi Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Creu'r Diwylliant Cywir NDM6870 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2018. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2018 Dogfennau Ategol Ymateb Comisiwn y Cynulliad (28 Medi 2018) Ymateb Comisiwn y Cynulliad (30 Hydref 2018)
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.31 NDM6870 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2018. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ddeiseb P-05-828 Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig NDM6871 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r ddeiseb, ‘P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig’, a gasglodd 5,125 o lofnodion. Cofnodion: NDM6871 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r ddeiseb, ‘P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig’, a gasglodd 5,125 o lofnodion. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.49
|
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6872 Rhianon Passmore (Islwyn) Trafnidiaeth Cymru: y ffordd o drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.50 NDM6872 Rhianon Passmore (Islwyn) Trafnidiaeth Cymru: y ffordd o drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn.
|