Lleoliad: Y Siambr - Y_Senedd. Cyfarwyddiadau
Nodyn: 146(v3)
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Trawsgrifiad: Trawsgrifiad ar gyfer 20/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn
Nodyn | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.20 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.06 Gofynnwyd y 5 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn ymateb i'r 203 o swyddi a gollwyd yng nghanolfan alwadau Barclays ym Mhontprennau, Caerdydd? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.23 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn ymateb i'r 203 o swyddi a gollwyd yng nghanolfan alwadau Barclays ym Mhontprennau, Caerdydd? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.45 Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad ar dathlu 50 mlynedd ers agor Clwb Ffitrwydd a Chodi Pwysau Caergybi ac Ynys Môn Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar Marwolaeth Frank Vickery. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Adroddiad ar y Tanwariant sy’n deillio o Benderfyniadau’r Bwrdd Taliadau Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.48 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ansawdd Aer NDM6733 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) David Melding (Canol De Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân;
b) effaith niweidiol llygredd aer ar ein hiechyd - mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau y flwyddyn, sef 6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru; a
c) bod yn rhaid delio â NO2 a mater gronynnol er mwyn goresgyn llygredd aer.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella iechyd dinasyddion.
Cefnogwyr: Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Ym mhwynt 2, dileu 'a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a' a rhoi 'drwy gyflwyno dewisiadau amgen ar gyfer trafnidiaeth a mynd i'r afael â llygredd diwydiannol er mwyn' yn ei le.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.16 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6733
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân; b) effaith niweidiol llygredd aer ar ein hiechyd - mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau y flwyddyn, sef 6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru; a c) bod yn rhaid delio â NO2 a mater gronynnol er mwyn goresgyn llygredd aer. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella iechyd dinasyddion. Cefnogwyr:
Lee Waters
(Llanelli) Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol NDM6745 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
2. Yn credu y bydd gweithlu iach sy'n cael ei werthfawrogi a'i gefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid sydd ei angen ar GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi, erbyn mis Ionawr 2019, strategaeth integredig cynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal gymdeithasol Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau yn gallu mynd i'r afael â'r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud GIG Cymru yn esiampl fel cyflogwr o ganlyniad i'w gefnogaeth ar gyfer llesiant yn y gweithle drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a datblygu polisïau cadarn sy'n cefnogi iechyd, lles a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu gofal cymdeithasol a iechyd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu, oherwydd methiant llywodraethau olynol yng Nghymru i ymgymryd â gwaith cynllunio'r gweithlu digonol, fod gan y GIG yng Nghymru brinder staff ar draws llawer o feysydd arbenigol, yn enwedig nyrsio, ymarfer cyffredinol, meddygaeth frys, seiciatreg, radioleg ac endosgopi; a bod y prinderau hyn yn rhoi straen aruthrol ar staff presennol ac yn effeithio ar ofal cleifion. Gwelliant 2 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle: Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn 2019 i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu mynd i’r afael â’r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol; b) gwneud GIG Cymru yn esiampl o gyflogwr o ran y modd y mae’n cefnogi llesiant yn y gwaith drwy ddatblygu polisïau cadarn sy’n hybu iechyd, llesiant a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. [Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Ym mhwynt 4, dileu 'weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a datblygu' a rhoi 'ddatblygu' yn ei le. Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am agor canolfan ar gyfer addysg feddygol ym Mangor ac ehangu addysg feddygol ledled Cymru i sicrhau bod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei angen arno. Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am sicrhau bod cynlluniau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys targedau cadarn ar gyfer darparu gweithlu dwyieithog a manylion ynghylch sut y bydd staff presennol y GIG yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddysgu Cymraeg.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.15 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol NDM6745 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. 2. Yn credu y bydd gweithlu iach sy'n cael ei werthfawrogi a'i gefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid sydd ei angen ar GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi, erbyn mis Ionawr 2019, strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau yn gallu mynd i'r afael â'r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud GIG Cymru yn esiampl fel cyflogwr o ganlyniad i'w gefnogaeth ar gyfer llesiant yn y gweithle drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a datblygu polisïau cadarn sy'n cefnogi iechyd, lles a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu gofal cymdeithasol a iechyd.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu, oherwydd methiant llywodraethau olynol yng Nghymru i ymgymryd â gwaith cynllunio'r gweithlu digonol, fod gan y GIG yng Nghymru brinder staff ar draws llawer o feysydd arbenigol, yn enwedig nyrsio, ymarfer cyffredinol, meddygaeth frys, seiciatreg, radioleg ac endosgopi; a bod y prinderau hyn yn rhoi straen aruthrol ar staff presennol ac yn effeithio ar ofal cleifion. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle: Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn 2019 i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu mynd i’r afael â’r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol; b) gwneud GIG Cymru yn esiampl o gyflogwr o ran y modd y mae’n cefnogi llesiant yn y gwaith drwy ddatblygu polisïau cadarn sy’n hybu iechyd, llesiant a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am agor canolfan ar gyfer addysg feddygol ym Mangor ac ehangu addysg feddygol ledled Cymru i sicrhau bod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei angen arno. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am sicrhau bod cynlluniau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys targedau cadarn ar gyfer darparu gweithlu dwyieithog a manylion ynghylch sut y bydd staff presennol y GIG yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddysgu Cymraeg. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. 2. Yn credu y bydd gweithlu iach sy'n cael ei werthfawrogi a'i gefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid sydd ei angen ar GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol. 3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn 2019 i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu mynd i’r afael â’r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol; b) gwneud GIG Cymru yn esiampl o gyflogwr o ran y modd y mae’n cefnogi llesiant yn y gwaith drwy ddatblygu polisïau cadarn sy’n hybu iechyd, llesiant a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. 4. Yn galw am agor canolfan ar gyfer addysg feddygol ym Mangor ac ehangu addysg feddygol ledled Cymru i sicrhau bod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei angen arno. 5. Yn galw am sicrhau bod cynlluniau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys targedau cadarn ar gyfer darparu gweithlu dwyieithog a manylion ynghylch sut y bydd staff presennol y GIG yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddysgu Cymraeg.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd./Gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.14 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: |