Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Amseriad disgwyliedig: 140(v2) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.22

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Trafnidiaeth Cymru yn y fasnachfraint reilffyrdd newydd a gyhoeddwyd heddiw?

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (i’w ateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio):

David Melding (Canol De Cymru): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad terfynol ar adolygiad annibynnol y Fonesig Judith Hackitt o reoliadau adeiladu a diogelwch tân?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Trafnidiaeth Cymru yn y fasnachfraint reilffyrdd newydd a gyhoeddwyd heddiw?

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (atebwyd gan y Gweinidog Tai ac Adfywio):

David Melding (Canol De Cymru): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad terfynol ar adolygiad annibynnol y Fonesig Judith Hackitt o reoliadau adeiladu a diogelwch tân?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.50

Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad ar Wythnos Weithredu Dementia.

Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad i gofio’r Ymosodiad yn Arena Manceinion.

Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad ar sefydliad DPJ, sy’n cefnogi iechyd meddwl pobl mewn ardaloedd gwledig.

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Llywydd: Diweddariad ar sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.55

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

NDM6727 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd’ a gasglodd 7,171 o lofnodion.

2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2018.

P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.30

NDM6727 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd’ a gasglodd 7,171 o lofnodion.

2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Rhan un: safbwynt o Gymru

NDM6728 David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Ychwanegol a Materion Allanol, 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Rhan un: safbwynt o Gymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 16 Mai 2018.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.33

NDM6728 David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Ychwanegol a Materion Allanol, 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Rhan un: safbwynt o Gymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 16 Mai 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Dechrau'n Deg: Allgymorth

NDM6729 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Dechrau'n Deg: Allgymorth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 16 Mai 2018.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.18

NDM6729 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Dechrau'n Deg: Allgymorth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 16 Mai 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM6726 Nick Ramsay (Mynwy)

Mae angen eich cefnogaeth ar dadau hefyd: sicrhau bod tadau yn parhau i gael llais a chefnogaeth i fod yn fodelau rôl cadarnhaol ym mywydau eu plant.


Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.11

NDM6726 Nick Ramsay (Mynwy)

Mae angen eich cefnogaeth ar dadau hefyd: sicrhau bod tadau yn parhau i gael llais a chefnogaeth i fod yn fodelau rôl cadarnhaol ym mywydau eu plant.