Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 124(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1 – 6 ac 8 -11 cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 11
gan y Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
cwestiynau 2 – 4, 6, 7 a 9 – 13. Tynnwyd cwestiynau 1 ac 8 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn
5. Atebwyd cwestiwn 11 gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y
Cabinet ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a
Materion Gwledig: Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i effeithiau storm Emma
ar Gaergybi? Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth (i’w ateb gan y Gweinidog Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon): Lee Waters (Llanelli): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith rhoi'r gorau
i ddarlledu rygbi rhanbarthol am ddim o dymor nesaf ymlaen? Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a
Gwasanaethau Cyhoeddus (i’w ateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio): David
Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gytundeb
contract lesddaliad Llywodraeth Cymru gyda phump o’r prif adeiladwyr cartrefi? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.06 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i effeithiau
storm Emma ar Gaergybi? Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi a Thrafnidiaeth (i’w ateb gan y Gweinidog Diwylliant,
Twristiaeth a Chwaraeon): Lee Waters (Llanelli): Pa asesiad y mae Gweinidog
wedi'i wneud o effaith rhoi'r gorau i ddarlledu rygbi rhanbarthol am ddim o’r
tymor nesaf ymlaen? Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (i’w ateb gan y Gweinidog Tai ac
Adfywio): David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Gweinidog ddatganiad
am gytundeb contract lesddaliad Llywodraeth Cymru gyda phump o’r prif
adeiladwyr cartrefi? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.30 Gwnaeth David Melding (Canol De Cymru) ddatganiad ar
ddathlu canmlwyddiant St John Cymru. Gwnaeth Jane Hutt (Bro Morgannwg) ddatganiad
ar Val Feld a
datganoli, yn dilyn y digwyddiad plac porffor ddoe ac yn sgil dathliadau
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yr wythnos hon. Gwnaeth Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) ddatganiad ar dathlu'r digwyddiad LeadHership llwyddiannus iawn a drefnwyd gan Chwarae
Teg yr wythnos diwethaf i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Urddas a Pharch yn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.35 |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cyfiawnder Troseddol NDM6665 Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru) Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) David
Melding (Canol De Cymru) Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y ffaith: a) bod polisïau cyfiawnder troseddol ar gyfer Cymru a Lloegr wedi methu ag
atal y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu carcharu; b) nad yw amodau'r carchardai lle y mae gormod o garcharorion o Gymru yn
cael eu cadw yn ffafriol i adsefydlu, fel yr amlygwyd gan adroddiadau arolygu
diweddar ar CEM Abertawe a CEM Lerpwl; c) bod 47 y cant o garcharorion yn aildroseddu o fewn blwyddyn; d) nad yw'r rhan fwyaf o argymhellion adroddiad Corston o 2007 am drin
troseddwyr sy'n fenywod wedi'u gweithredu eto, gan anwybyddu'r dystiolaeth bod
carcharu menywod am droseddau cymharol ddibwys yn amharu ar fywydau eu plant
mewn ffordd sylweddol, costus ac na ellir ei chyfiawnhau. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i: a) treialu modelau amgen o gosbi troseddwyr di-drais o Gymru yng Nghymru er
mwyn osgoi amharu ar y teulu, tai a chysylltiadau cyflogaeth sy'n elfennau
hanfodol i adsefydlu llwyddiannus; b) hyrwyddo gwaith cydgysylltiedig gwell rhwng gwasanaethau iechyd, tai a chyfiawnder
troseddol i frwydro yn erbyn y cynnydd mewn digartrefedd a salwch meddwl ymysg
pobl sy'n gadael carchar; c) datblygu polisi cosbi Cymreig penodol ar sail y dystiolaeth o'r hyn sy'n
gweithio; 3. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol yn y pen draw, ynghyd â'r
adnoddau i adsefydlu troseddwyr mewn modd ataliol ac adferol, gan roi terfyn ar
y drws troi rhwng y carchar ac ail-droseddu. Adroddiad y
Swyddfa Gartref - The Corston Report (Saesneg yn unig) Women in Prison
- The Corston Report 10 Years On (Saesneg yn unig) Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.09 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y Cyfnod Pleidleisio. NDM6665 Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru) Dai Lloyd
(Gorllewin De Cymru) David Melding
(Canol De Cymru) Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y ffaith: a) bod polisïau cyfiawnder troseddol ar gyfer Cymru a
Lloegr wedi methu ag atal y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu carcharu; b) nad yw amodau'r carchardai lle y mae gormod o
garcharorion o Gymru yn cael eu cadw yn ffafriol i adsefydlu, fel yr amlygwyd
gan adroddiadau arolygu diweddar ar CEM Abertawe a CEM Lerpwl; c) bod 47 y cant o garcharorion yn aildroseddu o fewn
blwyddyn; d) nad yw'r rhan fwyaf o argymhellion adroddiad Corston o
2007 am drin troseddwyr sy'n fenywod wedi'u gweithredu eto, gan anwybyddu'r
dystiolaeth bod carcharu menywod am droseddau cymharol ddibwys yn amharu ar
fywydau eu plant mewn ffordd sylweddol, costus ac na ellir ei chyfiawnhau. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i: a) treialu modelau amgen o gosbi troseddwyr di-drais o
Gymru yng Nghymru er mwyn osgoi amharu ar y teulu, tai a chysylltiadau
cyflogaeth sy'n elfennau hanfodol i adsefydlu llwyddiannus; b) hyrwyddo gwaith cydgysylltiedig gwell rhwng
gwasanaethau iechyd, tai a chyfiawnder troseddol i frwydro yn erbyn y cynnydd
mewn digartrefedd a salwch meddwl ymysg pobl sy'n gadael carchar; c) datblygu polisi cosbi Cymreig penodol ar sail y
dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio; 3. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol yn y pen
draw, ynghyd â'r adnoddau i adsefydlu troseddwyr mewn modd ataliol ac adferol,
gan roi terfyn ar y drws troi rhwng y carchar ac ail-droseddu. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ynghylch y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru NDM6677 David
J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-796 Galw ar Lywodraeth
Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng
Nghymru’ a gasglodd 6,398 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.09 NDM6677 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o
ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru’ a gasglodd 6,398
o lofnodion. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) NDM6680 Mick
Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
a Deddfwriaethol, 'Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd
(Ymadael)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2018. 2. Yn cymeradwyo argymhellion 1, 2, 4 a 7 o'r
adroddiad, sy'n argymell gwelliannau i Fil Llywodraeth y DU, Bil yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael). Bil yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.06 NDM6680 Mick Antoniw (Pontypridd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol, 'Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd
(Ymadael)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror
2018. 2. Yn cymeradwyo argymhellion 1, 2, 4 a 7 o'r adroddiad,
sy'n argymell gwelliannau i Fil Llywodraeth y DU, Bil yr Undeb Ewropeaidd
(Ymadael). Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (Saesneg yn unig) Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.42 |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6679 Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cartrefi diogel - teuluoedd sefydlog Pam mae angen diddymu adran 21 i roi mwy o
sicrwydd i deuluoedd yn y sector rhentu preifat yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.43 NDM6679 Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd) Cartrefi diogel -
teuluoedd sefydlog Pam mae angen diddymu adran
21 i roi mwy o sicrwydd i deuluoedd yn y sector rhentu preifat yng Nghymru. |
|||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |