Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 116(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 31/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 5, 6 ac 8 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.23 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Darren Millar
(Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ffigurau
marwolaethau mewn adrannau achosion brys yng Nghymru? Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae
Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith gadael yr UE ar Gymru ar sail y
dadansoddiad o dair sefyllfa gan Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd a ddatgelwyd
ddydd Llun? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.24 Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Darren Millar
(Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ffigurau
marwolaethau mewn adrannau achosion brys yng Nghymru? Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae
Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith gadael yr UE ar Gymru ar sail y
dadansoddiad o dair sefyllfa gan Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd a ddatgelwyd
ddydd Llun? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.48 Gwnaeth Russell George ddatganiad i nodi 30 mlwyddiant
Opera Canolbarth Cymru. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Contractau preswyl lesddaliad NDM6626 Mick
Antoniw (Pontypridd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod contractau preswyl lesddaliad yn
parhau i gynrychioli cyfran sylweddol o eiddo a adeiladir o'r newydd yng
Nghymru; a a) bod contractau preswyl lesddaliad yn aml yn cael eu
cynnig ar delerau anfanteisiol, gan arwain at niwed i berchennog y cartref; a b) mai ychydig o amddiffyniad sydd gan berchnogion
cartrefi lesddaliad rhag ffioedd afresymol ac oedi afresymol wrth brynu,
gwerthu neu wella eu heiddo. 2. Yn nodi gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth y DU ar
werthu eiddo lesddaliad a adeiladir o'r newydd yn Lloegr. 3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i
ddiogelu perchnogion cartrefi yn y dyfodol drwy ddiddymu contractau preswyl
lesddaliad yng Nghymru. Cefnogwyr: Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.50 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6626 Mick Antoniw (Pontypridd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod bod contractau preswyl lesddaliad yn parhau i gynrychioli cyfran
sylweddol o eiddo a adeiladir o'r newydd yng Nghymru; a a)
bod contractau preswyl lesddaliad yn aml yn cael eu cynnig ar delerau
anfanteisiol, gan arwain at niwed i berchennog y cartref; a b)
mai ychydig o amddiffyniad sydd gan berchnogion cartrefi lesddaliad rhag
ffioedd afresymol ac oedi afresymol wrth brynu, gwerthu neu wella eu heiddo. 2.
Yn nodi gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth y DU ar werthu eiddo lesddaliad a
adeiladir o'r newydd yn Lloegr. 3.
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i ddiogelu perchnogion cartrefi
yn y dyfodol drwy ddiddymu contractau preswyl lesddaliad yng Nghymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl NDM6643
David
J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb:
Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo'i
Hangen Arnynt (P-05-710), a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2017. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.47 NDM6643
David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb: Sicrhau y gall Pobl Anabl
Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo'i Hangen Arnynt (P-05-710),
a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru NDM6642
Lynne
Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2017. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru ar 28 Tachwedd 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 NDM6642
Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl
Amenedigol yng Nghymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.31 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6644
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru) Agor drysau: sicrhau eglurder ynghylch mynediad i bobl
anabl ac argaeledd diffibrilwyr Galw am system lle mae'r holl fusnesau a gwasanaethau
cyhoeddus yn arddangos manylion am eu lefel o hygyrchedd i bobl anabl yn
ogystal â gwybodaeth am pa offer achub bywyd sydd ar gael i'w defnyddio gan y
cyhoedd os bydd argyfwng. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.32 NDM6644
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Agor
drysau: sicrhau eglurder ynghylch mynediad i bobl anabl ac argaeledd
diffibrilwyr Galw
am system lle mae'r holl fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn arddangos
manylion am eu lefel o hygyrchedd i bobl anabl yn ogystal â gwybodaeth am pa
offer achub bywyd sydd ar gael i'w defnyddio gan y cyhoedd os bydd argyfwng. |