Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 110(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Croesawodd y Llywydd Lysgennad newydd Iwerddon i’r
Deyrnas Unedig, Adrian O’Neill, ar ei ymweliad â'r Cynulliad Cenedlaethol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a
Chwaraeon ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.20 Gofynnwyd y 4 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A
wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr argyfwng yn y
GIG y gaeaf hwn, yn sgil adroddiadau bod gwasanaethau wedi’u hymestyn i’r
eithaf? Gofyn
i Brif Weinidog Cymru: Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif
Weinidog ddatganiad am effaith Bil Ymadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru o
ystyried na chyflwynwyd gwelliannau yn ymwneud â datganoli i'r Bil gan
Lywodraeth y DU? Suzy Davies
(Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyhoeddiad y
bore yma o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.37 Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr argyfwng yn y
GIG y gaeaf hwn, yn sgil adroddiadau bod gwasanaethau wedi’u hymestyn i’r
eithaf? Gofyn
i Brif Weinidog Cymru (atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid): Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Bil Ymadael yr Undeb Ewropeaidd
ar Gymru o ystyried na chyflwynwyd gwelliannau yn ymwneud â datganoli i'r Bil
gan Lywodraeth y DU? Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y
Prif Weinidog ddatganiad am y cyhoeddiad y bore yma o gyllid cyfalaf
Llywodraeth Cymru ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.20 Gwnaeth Jane Hutt ddatganiad yn talu teyrnged i gaplan
rheilffyrdd ieuengaf y Deyrnas Unedig, Hannah Tuck o’r Barri. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Dechreuodd yr eitem am 15.22 Gan gyfeirio at Bwynt o Drefn a gododd ar 13 Rhagfyr
2017, ymddiheurodd Gareth Bennett am y tramgwydd a achoswyd gan sylwadau a
wnaeth ar 12 Rhagfyr 2017 yn y Siambr. Gwnaeth yn glir ei barch tuag at
awdurdod y Llywydd fel Cadeirydd; ond roedd yn cadw at y farn a fynegodd. Derbyniodd y Llywydd ymddiheuriad Gareth Bennett, a
sicrhaodd fod gan unrhyw Aelod yr hawl i fynegi safbwyntiau sy’n annymunol i’r
Aelodau eraill ac i eraill, ar yr amod y defnyddir iaith seneddol ac
anwahaniaethol wrth wneud hynny. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Llanw'n Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig NDM6620
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig, 'Y Llanw’n troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull
Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Awst 2017. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru ar 3 Hydref 2017. Dogfennau
ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.23 NDM6620
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 'Y
Llanw’n troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli
Ardaloedd Morol Gwarchodedig', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Awst 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6619 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi anallu y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru i ymdopi
â'r lefel bresennol o alw gan fodurwyr. 2. Yn gresynu bod seilwaith ffyrdd is-safonol Cymru yn
costio cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i economi Cymru. 3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol rwydwaith ffyrdd
addas at y diben ac sy'n gweithredu'n briodol ar gyfer datblygiad tymor hir
economi Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i edrych ar ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau ffyrdd yn y dyfodol. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith ffyrdd dibynadwy ac
effeithiol fel rhan o system drafnidiaeth amlfoddol integredig a chynaliadwy
sy’n gallu cynnal economi a chymunedau Cymru. 2. Yn nodi bod y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol
y mae Llywodraeth Cymru newydd ei gyhoeddi yn gosod allan rhaglen o welliannau
i’r ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol fel rhan o gynllun buddsoddi
cytbwys a chynaliadwy mewn trafnidiaeth. 3. Yn cydnabod cynllun Llywodraeth Cymru i ddatblygu
rhaglen pum mlynedd o gyllid cyfalaf i drafnidiaeth i gefnogi buddsoddiad yn y
seilwaith ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n cael
ei chyfran deg o fuddsoddiad y DU mewn seilwaith ac i weithio gyda Llywodraeth
Cymru i ystyried ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau yn y dyfodol. Cynllun
Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn
unol â hynny: Yn credu er mwyn cysylltu cymunedau Cymru yn well, gwella
ansawdd y teithiau i gymudwyr a datblygu economi Cymru, fod angen buddsoddiad
priodol ym mhob modd o deithio, nid ffyrdd yn unig, gan gynnwys rheilffyrdd,
bysiau, teithio awyr a dros ddŵr. Gwelliant 3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn gresynu at fwriad Llywodraeth Cymru i ymrwymo ei
holl gyllideb fenthyca cyfalaf i adeiladu 'llwybr du' yr M4. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.16 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6619 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi anallu y rhwydwaith
ffyrdd yng Nghymru i ymdopi â'r lefel bresennol o alw gan fodurwyr. 2. Yn gresynu bod seilwaith
ffyrdd is-safonol Cymru yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i
economi Cymru. 3. Yn cydnabod pwysigrwydd
hanfodol rwydwaith ffyrdd addas at y diben ac sy'n gweithredu'n briodol ar
gyfer datblygiad tymor hir economi Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar ffyrdd arloesol o gyllido
prosiectau ffyrdd yn y dyfodol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith ffyrdd dibynadwy ac
effeithiol fel rhan o system drafnidiaeth amlfoddol integredig a chynaliadwy
sy’n gallu cynnal economi a chymunedau Cymru. 2. Yn nodi bod y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol
y mae Llywodraeth Cymru newydd ei gyhoeddi yn gosod allan rhaglen o welliannau
i’r ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol fel rhan o gynllun buddsoddi
cytbwys a chynaliadwy mewn trafnidiaeth. 3. Yn cydnabod cynllun Llywodraeth Cymru i ddatblygu
rhaglen pum mlynedd o gyllid cyfalaf i drafnidiaeth i gefnogi buddsoddiad yn y
seilwaith ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n cael
ei chyfran deg o fuddsoddiad y DU mewn seilwaith ac i weithio gyda Llywodraeth
Cymru i ystyried ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn
unol â hynny: Yn credu er mwyn cysylltu cymunedau Cymru yn well, gwella
ansawdd y teithiau i gymudwyr a datblygu economi Cymru, fod angen buddsoddiad
priodol ym mhob modd o deithio, nid ffyrdd yn unig, gan gynnwys rheilffyrdd,
bysiau, teithio awyr a dros ddŵr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn gresynu at fwriad Llywodraeth Cymru i ymrwymo ei
holl gyllideb fenthyca cyfalaf i adeiladu 'llwybr du' yr M4. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6619 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi anallu y rhwydwaith
ffyrdd yng Nghymru i ymdopi â'r lefel bresennol o alw gan fodurwyr. 2. Yn gresynu bod seilwaith
ffyrdd is-safonol Cymru yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i
economi Cymru. 3. Yn cydnabod pwysigrwydd
hanfodol rwydwaith ffyrdd addas at y diben ac sy'n gweithredu'n briodol ar
gyfer datblygiad tymor hir economi Cymru. 4. Yn credu er mwyn cysylltu cymunedau Cymru yn well,
gwella ansawdd y teithiau i gymudwyr a datblygu economi Cymru, fod angen
buddsoddiad priodol ym mhob modd o deithio, nid ffyrdd yn unig, gan gynnwys
rheilffyrdd, bysiau, teithio awyr a dros ddŵr. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar ffyrdd arloesol o gyllido
prosiectau ffyrdd yn y dyfodol.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6621 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r 'angen
blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le i
ddarparu llety i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn ddigartref, fel
rhan o'r broses o symud tuag at bolisi 'tai yn gyntaf'. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu pob dim a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r effaith gadarnhaol y mae fframwaith statudol
Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wedi’i chael yn peri i’r system
ddigartrefedd ganolbwyntio ar atal digartrefedd a’r sylfaen gref y mae hyn yn
ei rhoi ar gyfer camau gweithredu pellach. 2. Yn cydnabod y pwysau cynyddol ar y system a phroblemau
penodol i rai grwpiau. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diddymu'r
'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le
i ddarparu cynnig o lety addas i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn
ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at ddull cynhwysfawr o geisio dod
â digartrefedd i ben yng Nghymru, sy’n cynnwys polisi 'tai yn gyntaf'. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth cyn “fel rhan o'r broses o symud tuag at
bolisi 'tai yn gyntaf'” a rhoi yn ei le: "Yn nodi â phryder y cynnydd mewn digartrefedd yng
Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn trawsbleidiol i
gytuno ar strategaeth ddigartrefedd i gynnwys dod â chysgu ar y stryd i ben
erbyn 2020," Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.18 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6621 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddiddymu'r 'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi
dyletswydd yn ei le i ddarparu llety i bob person digartref ni waeth pam eu bod
yn ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at bolisi 'tai yn gyntaf'.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu pob dim a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r effaith gadarnhaol y mae fframwaith statudol
Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wedi’i chael yn peri i’r system
ddigartrefedd ganolbwyntio ar atal digartrefedd a’r sylfaen gref y mae hyn yn
ei rhoi ar gyfer camau gweithredu pellach. 2. Yn cydnabod y pwysau cynyddol ar y system a phroblemau
penodol i rai grwpiau. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diddymu'r
'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le
i ddarparu cynnig o lety addas i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn
ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at ddull cynhwysfawr o geisio dod
â digartrefedd i ben yng Nghymru, sy’n cynnwys polisi 'tai yn gyntaf'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth cyn “fel rhan o'r broses o symud tuag at
bolisi 'tai yn gyntaf'” a rhoi yn ei le: "Yn nodi â phryder y cynnydd mewn digartrefedd yng
Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn trawsbleidiol i
gytuno ar strategaeth ddigartrefedd i gynnwys dod â chysgu ar y stryd i ben
erbyn 2020," Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.20 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6615
Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Galw am siarter ar gyfer urddas wrth ymddeol a diogelwch
pobl hŷn Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.26 NDM6615
Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Galw
am siarter ar gyfer urddas wrth ymddeol a diogelwch pobl hŷn |