Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 102(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth
a Chwaraeon. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Darren
Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn adroddiadau ynghylch gwariant
ar siaradwyr enwog gan GwE, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y
trefniadau atebolrwydd ar gyfer consortia addysg rhanbarthol yng Nghymru? Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynllun i ehangu ffordd
Blaenau'r Cymoedd, yr A465, yn dilyn adroddiadau y gallai cost hirdymor y
prosiect saethu i fyny o £428 miliwn i fwy na £1.2 biliwn? Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Leanne
Wood (Rhondda): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith
cyllideb y DU ar gyflogau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.45 Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg Darren
Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn
adroddiadau ynghylch gwariant ar siaradwyr enwog gan GwE, a wnaiff Ysgrifennydd
y Cabinet ddatganiad am y trefniadau atebolrwydd ar gyfer consortia addysg
rhanbarthol yng Nghymru? Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gyllid) Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad
am y cynllun i ehangu ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465, yn dilyn adroddiadau y
gallai cost hirdymor y prosiect saethu i fyny o £428 miliwn i fwy na £1.2
biliwn? Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (atebwyd gan Ysgrifennydd
y Cabinet dros Gyllid) Leanne
Wood (Rhondda): A wnaiff
Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith cyllideb y DU ar gyflogau yn y
sector cyhoeddus yng Nghymru? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.02 Gwnaeth David Melding ddatganiad ar ddyfarniad olaf y
Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer yr hen Iwgoslafia, yn achos y
Cadfridog Ratko Mladic. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau Dechreuodd yr eitem am 15.05 Cytunwyd
o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y cynigion a ganlyn gyda'i gilydd, a
chytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.40 i grwpio’r pleidleisiau ar y cynigion. NDM6575 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mick Antoniw
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle Huw
Irranca-Davies (Llafur). NDM6582 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur)
yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Eluned
Morgan (Llafur). NDM6583 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jenny Rathbone
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn
lle Jeremy Miles (Llafur). NDM6584 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur)
yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Eluned Morgan (Llafur). NDM6585 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dawn Bowden
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn
lle Jenny Rathbone (Llafur). NDM6586 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mick Antoniw
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn
lle Joyce Watson (Llafur). NDM6587 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Joyce Watson
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn
lle Huw Irranca-Davies (Llafur). NDM6588 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mick Antoniw
(Llafur) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Hannah
Blythyn (Llafur). NDM6589 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Joyce Watson
(Llafur) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Jeremy
Miles (Llafur). NDM6590 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lee Waters
(Llafur) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Hannah
Blythyn (Llafur). NDM6591 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jenny Rathbone
(Llafur) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Dawn
Bowden (Llafur). NDM6592 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhianon Passmore
(Llafur) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Jeremy
Miles (Llafur). Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Seilwaith Digidol Cymru NDM6558 Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Seilwaith Digidol Cymru', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2017. Nodyn: Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Tachwedd 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.05 NDM6558
Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Seilwaith
Digidol Cymru', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6571 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu adolygiad
y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y
lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion. 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y
darperir yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u
teuluoedd yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r cymorth y
mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu ar gyfer personél milwrol, cyn-filwyr a’u
teuluoedd yng Nghymru, sy’n cynnwys: a) Dull cydweithredol y
grŵp arbenigol amlasiantaethol o ystyried y materion sy’n effeithio ar
gymuned y Lluoedd Arfog, a’r modd yr eir ati ar y cyd i fynd i’r afael â’r
materion hynny; b) y £100,000 o gyllid
ychwanegol i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru er mwyn cynyddu ei gapasiti a
gwella’i allu i helpu cyn-filwyr sydd mewn angen; c) eglurder ynglŷn
â’r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael yn unol â’i dogfennau polisi
allweddol: y Pecyn Cymorth, Croeso i Gymru a’r Llwybr Tai Cenedlaethol; ac d) penodi Swyddogion
Cyswllt y Lluoedd Arfog trwy Gymru i sicrhau cysondeb yn y modd y rhoddir y
Cyfamod ar waith. Gwelliant 2 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am
weithredu’r Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog. Gwelliant 3 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r
penderfyniad i gynnwys cwestiynau am wasanaeth yn y lluoedd arfog yn Cyfrif Cenedlaethol
o Gysgu Allan ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data a gasglwyd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.56 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6571 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu adolygiad y
Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y
lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y darperir
yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng
Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei
ddarparu ar gyfer personél milwrol, cyn-filwyr a’u teuluoedd yng Nghymru, sy’n
cynnwys: a) Dull cydweithredol y grŵp arbenigol
amlasiantaethol o ystyried y materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd
Arfog, a’r modd yr eir ati ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hynny; b) y £100,000 o gyllid ychwanegol i wasanaeth Cyn-filwyr
GIG Cymru er mwyn cynyddu ei gapasiti a gwella’i allu i helpu cyn-filwyr sydd
mewn angen; c) eglurder ynglŷn â’r ystod eang o wasanaethau sydd
ar gael yn unol â’i dogfennau polisi allweddol: y Pecyn Cymorth, Croeso i Gymru
a’r Llwybr Tai Cenedlaethol; ac d) penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog trwy Gymru i
sicrhau cysondeb yn y modd y rhoddir y Cyfamod ar waith. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf
i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weithredu’r Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer
Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r penderfyniad i gynnwys cwestiynau am
wasanaeth yn y lluoedd arfog yn Cyfrif Cenedlaethol o Gysgu Allan ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data a gasglwyd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6571 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu adolygiad y
Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y
lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y darperir
yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng
Nghymru. 3. Yn croesawu’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei
ddarparu ar gyfer personél milwrol, cyn-filwyr a’u teuluoedd yng Nghymru, sy’n
cynnwys: a) Dull cydweithredol y grŵp arbenigol
amlasiantaethol o ystyried y materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd
Arfog, a’r modd yr eir ati ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hynny; b) y £100,000 o gyllid ychwanegol i wasanaeth Cyn-filwyr
GIG Cymru er mwyn cynyddu ei gapasiti a gwella’i allu i helpu cyn-filwyr sydd
mewn angen; c) eglurder ynglŷn â’r ystod eang o wasanaethau sydd
ar gael yn unol â’i dogfennau polisi allweddol: y Pecyn Cymorth, Croeso i Gymru
a’r Llwybr Tai Cenedlaethol; ac d) penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog trwy Gymru i
sicrhau cysondeb yn y modd y rhoddir y Cyfamod ar waith. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth
ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weithredu’r Llwybr Tai
Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog. 5. Yn croesawu’r penderfyniad i gynnwys cwestiynau am
wasanaeth yn y lluoedd arfog yn Cyfrif Cenedlaethol o Gysgu Allan ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data a gasglwyd.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6566 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu: a) y bydd cyflwyno trethi
newydd yng Nghymru heb ganiatâd yr etholwyr, a thrin Cymru fel labordy treth
arbrofol, yn niweidio enw da Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru;
a b) bod trethi y DU a
Chymru yn ddigon uchel eisoes, yn atal entrepreneuriaeth a thwf ac yn gwasgu
cyllidebau pobl sydd ar incwm isel. 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i beidio â blaenoriaethu ymchwil i drethi newydd yng Nghymru ond, yn
hytrach, i ddilyn polisïau i wella twf economaidd a chreu swyddi â chyflog da,
na fyddant yn gosod beichiau treth ychwanegol ar unigolion a busnesau nac
yn cosbi unigolion am sut y maent yn dewis byw eu bywydau. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu popeth a rhoi yn ei
le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod datganoli
treth i Gymru yn rhoi cyfle i wella atebolrwydd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru. 2. Yn croesawu
ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y posibilrwydd o gyflwyno treth arloesol i
gefnogi amcanion polisi amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd. 3. Yn cefnogi cyflwyno
treth ar ddeunydd pacio polystyren ehangedig tafladwy. 4. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr a'r dreth gorfforaeth i Gymru. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a
3 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei
le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu Deddf
Cymru 2014 a Deddf Cymru 2017, sy'n datganoli mwy o bwerau i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ac yn rhoi mwy o atebolrwydd o ran gweithrediadau dydd i
ddydd Llywodraeth Cymru. 2. Yn credu bod sail
dreth gynhwysfawr yn annog mwy o ffyniant. 3. Yn gresynu at gynnig
Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ar y diwydiant twristiaeth yng
Nghymru. Deddf Cymru
2014 (Saesneg
yn unig) Deddf Cymru
2017 (Saesneg yn unig) [Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei
ddad-ddethol] Gwelliant 3 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei
le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi iddo
bleidleisio’n unfrydol o blaid y penderfyniad i brofi’r mecanwaith sydd yn
Neddf Cymru i gynnig trethi newydd mewn dadl ar 4 Gorffennaf 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.45 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6566 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu: a) y bydd cyflwyno trethi
newydd yng Nghymru heb ganiatâd yr etholwyr, a thrin Cymru fel labordy treth
arbrofol, yn niweidio enw da Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru;
a b) bod trethi y DU a Chymru yn
ddigon uchel eisoes, yn atal entrepreneuriaeth a thwf ac yn gwasgu cyllidebau
pobl sydd ar incwm isel. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i beidio â blaenoriaethu ymchwil i drethi newydd yng Nghymru ond, yn hytrach, i
ddilyn polisïau i wella twf economaidd a chreu swyddi â chyflog da, na fyddant
yn gosod beichiau treth ychwanegol ar unigolion a busnesau nac yn cosbi unigolion
am sut y maent yn dewis byw eu bywydau.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod datganoli treth i Gymru yn rhoi cyfle i
wella atebolrwydd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru. 2. Yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y
posibilrwydd o gyflwyno treth arloesol i gefnogi amcanion polisi amgylcheddol
ac iechyd y cyhoedd. 3. Yn cefnogi cyflwyno treth ar ddeunydd pacio polystyren
ehangedig tafladwy. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r doll
teithwyr awyr a'r dreth gorfforaeth i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu Deddf Cymru 2014 a Deddf Cymru 2017, sy'n
datganoli mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn rhoi mwy o
atebolrwydd o ran gweithrediadau dydd i ddydd Llywodraeth Cymru. 2. Yn credu bod sail dreth gynhwysfawr yn annog mwy o
ffyniant. 3. Yn gresynu at gynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno
treth ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi iddo bleidleisio’n unfrydol o blaid y
penderfyniad i brofi’r mecanwaith sydd yn Neddf Cymru i gynnig trethi newydd
mewn dadl ar 4 Gorffennaf 2017. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6566 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi iddo bleidleisio’n unfrydol o blaid y
penderfyniad i brofi’r mecanwaith sydd yn Neddf Cymru i gynnig trethi newydd
mewn dadl ar 4 Gorffennaf 2017.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.38 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer – Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) NDM6567 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Galw am help: diogelu
plant sydd ar goll yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.42 NDM6567
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Galw
am help: diogelu plant sydd ar goll yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer – Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) – Gohiriwyd o 15 Tachwedd NDM6570 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Busnes ar ôl Brexit a'r
cyfleoedd i Gymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.09 NDM6570
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Busnes
ar ôl Brexit a'r cyfleoedd i Gymru. |