Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 78(v7) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(5 munud)

Enwebiadau ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau canlynol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F:

(i) Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Enwebwyd Mike Hedges gan Dawn Bowden. Eiliodd Jeremy Miles yr enwebiad.

Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Mike Hedges wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

(ii) Y Pwyllgor Deisebau

Enwebwyd David Rowlands gan Neil Hamilton.

Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod David Rowlands wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.33

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.21

Gofynnwyd cwestiwn 1 a chwestiynau 3-6. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1 a 3 gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3.

(20 muned)

3.

Cwestiynau Amserol

I Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau beth yw targedau’r Llywodraeth ar gyfer asesiad PISA 2018?

I Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cytundeb mynediad masnachol rhwng GIG Cymru a Roche, a fydd yn golygu y gall cleifion canser y fron yng Nghymru gael gafael ar y cyffur Kadcyla?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.08

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau beth yw targedau’r Llywodraeth ar gyfer asesiad PISA 2018?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cytundeb mynediad masnachol rhwng GIG Cymru a Roche, a fydd yn golygu y gall cleifion canser y fron yng Nghymru gael gafael ar y cyffur Kadcyla?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.25

Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad ar Dîm Rygbi’r Gynghrair Cadeiriau Olwyn Cymru.

Gwnaeth Neil Hamilton ddatganiad ar Ben-blwydd Swyddogol Ei Mawrhydi y Frenhines.

(10 muned)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

Dechreuodd yr eitem am 15.29

5.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 mewn perthynas â Phroses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid

NDM6332 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 – Proses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14.06.17; ac

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6.

Cynnig i gymeradwyo protocol y gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru

NDM6333 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cymeradwyo'r protocol ar y trefniadau gweinyddol ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft flynyddol a materion eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2017.

Cofnodion:

NDM6333 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cymeradwyo'r protocol ar y trefniadau gweinyddol ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft flynyddol a materion eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

NDM6334 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2017.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin 2017.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

NDM6334 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru

NDM6336 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn datgan ei hun fel senedd genedlaethol Cymru.

2. Yn mynnu bod yr holl bwerau ac adnoddau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd ar lefel yr UE o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn mynnu ymhellach fod Llywodraeth y DU yn ceisio cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer pob cytundeb masnach yn y dyfodol â'r UE a gwledydd eraill o amgylch y byd er mwyn diogelu buddiannau economi Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi Papur Polisi Llywodraeth y DU 'The United Kingdom's exit from, and new partnership with, the European Union' sy'n nodi ein bod eisoes wedi ymrwymo na chaiff unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig eu tynnu oddi arnynt ac y byddwn yn defnyddio'r cyfle i ddwyn y broses o wneud penderfyniadau yn ôl i'r DU i sicrhau bod mwy o benderfyniadau yn cael eu datganoli.

'The United Kingdom's exit from, and new partnership with, the European Union'

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Prif Weinidog y DU wedi bod yn glir am ei bwriad i gael cytundeb wedi'i deilwra sy'n gweithio i'r DU gyfan, sy'n sicrhau'r fasnach fwyaf rhydd bosibl o ran tariff a rhwystr â'n cymdogion Ewropeaidd, drwy gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, hyderus ac uchelgeisiol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.33

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6336 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn datgan ei hun fel senedd genedlaethol Cymru.

2. Yn mynnu bod yr holl bwerau ac adnoddau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd ar lefel yr UE o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn mynnu ymhellach fod Llywodraeth y DU yn ceisio cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer pob cytundeb masnach yn y dyfodol â'r UE a gwledydd eraill o amgylch y byd er mwyn diogelu buddiannau economi Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

16

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

(60 munud)

9.

Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6335

Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

David Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi papur gwaith Banc Lloegr, The Impact of Immigration on Occupational Wages, a'r casgliadau ynddo bod cynnydd o 10 y cant yn y gyfran o fewnfudwyr sy'n gweithio mewn swyddi lled-grefftus neu heb grefft o gwbl, yn arwain, ar gyfartaledd, at dorri 2 y cant yng nghyflogau pobl sydd mewn gwaith mewn rhanbarth benodol.

2. Yn credu:

a) y byddai gan system fewnfudo deg, wedi'i rheoli, sy'n rhoi pwyslais ar fewnfudo â sgiliau, yn sicrhau buddiannau sylweddol i economi'r DU;

b) bod sefydliadau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dibynnu ar fewnfudo â sgiliau ar hyn o bryd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal ag o'r tu fewn iddo;

c) nad yw mewnfudo heb reolaeth, ac, ar y cyfan heb sgiliau, o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, ar y lefelau presennol, yn gynaliadwy;

d) bod polisi mewnfudwyr presennol y DU yn gwahaniaethu ar ran mewnfudwyr o blaid gwladolion yr UE ar draul pobl o rannau eraill y byd.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno system gadarn ond teg o reoli mewnfudwyr:

a) nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion o'r tu allan i'r UE;

b) nad yw'n dyblygu o ran sylwedd na ffaith, gyfundrefn bresennol yr UE na'r EEA o ran hawl gweithwyr i symud yn rhydd; ac

c) sy'n ceisio cydbwyso mewnfudo ac ymfudo dros gyfnod o bum mlynedd.

'The Impact of Immigration on Occupational Wages: evidence from Britain'

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gan Brydain a Chymru economi agored a chymdeithas groesawgar, gyda mewnfudo yn chwarae rhan sylweddol o ran cynnal a datblygu economi fodern yn yr 21ain ganrif.

2. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau y gall ein gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phrifysgolion o'r radd flaenaf barhau i recriwtio'r disgleiriaf a'r goreuon o bob cwr o'r byd.

3. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu atebolrwydd a rheolaeth o fewn system fewnfudo'r wlad.

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod dadansoddiad a gynhaliwyd gan Ganolfan Perfformiad Economaidd Ysgol Economaidd Llundain wedi dod i'r casgliad mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd i awgrymu bod mewnfudo yn ei gyfanrwydd na mewnfudo o'r UE wedi cael effaith negyddol sylweddol ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb o ran cyflogau ar y boblogaeth a anwyd yn y DU.

2. Yn credu y dylai'r hawliau a'r breintiau a roddir i ddinasyddion y DU a'r UE sy'n byw ac yn gweithio mewn aelod-wladwriaethau eraill yr UE ar hyn o bryd gael eu diogelu.

3. Yn credu bod angen creu Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo ar gyfer Cymru ac a allai gyhoeddi fisâu penodol i Gymru er mwyn cau'r bylchau yn economi Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i warantu hawliau holl ddinasyddion yr UE sy'n byw ac yn gweithio yn y DU ar hyn o bryd, ar ôl gadael yr UE.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymgynghoriad ar sut y gallai system trwyddedau gwaith i Gymru fod o fudd i economi Cymru.

'London School of Economics' Centre for Economic Performance'

[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 3. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy'n cydbwyso swyddi a'r economi â'r angen i ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus;

2. Yn cefnogi'r dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef:

a) cysylltu hawl gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i'r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a

b) cynyddu'r ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar gyflogau isel.

'Diogelu Dyfodol Cymru'

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6335

Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

David Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi papur gwaith Banc Lloegr, The Impact of Immigration on Occupational Wages, a'r casgliadau ynddo bod cynnydd o 10 y cant yn y gyfran o fewnfudwyr sy'n gweithio mewn swyddi lled-grefftus neu heb grefft o gwbl, yn arwain, ar gyfartaledd, at dorri 2 y cant yng nghyflogau pobl sydd mewn gwaith mewn rhanbarth benodol.

2. Yn credu:

a) y byddai gan system fewnfudo deg, wedi'i rheoli, sy'n rhoi pwyslais ar fewnfudo â sgiliau, yn sicrhau buddiannau sylweddol i economi'r DU;

b) bod sefydliadau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dibynnu ar fewnfudo â sgiliau ar hyn o bryd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal ag o'r tu fewn iddo;

c) nad yw mewnfudo heb reolaeth, ac, ar y cyfan heb sgiliau, o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, ar y lefelau presennol, yn gynaliadwy;

d) bod polisi mewnfudwyr presennol y DU yn gwahaniaethu ar ran mewnfudwyr o blaid gwladolion yr UE ar draul pobl o rannau eraill y byd.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno system gadarn ond teg o reoli mewnfudwyr:

a) nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion o'r tu allan i'r UE;

b) nad yw'n dyblygu o ran sylwedd na ffaith, gyfundrefn bresennol yr UE na'r EEA o ran hawl gweithwyr i symud yn rhydd; ac

c) sy'n ceisio cydbwyso mewnfudo ac ymfudo dros gyfnod o bum mlynedd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

45

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gan Brydain a Chymru economi agored a chymdeithas groesawgar, gyda mewnfudo yn chwarae rhan sylweddol o ran cynnal a datblygu economi fodern yn yr 21ain ganrif.

2. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau y gall ein gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phrifysgolion o'r radd flaenaf barhau i recriwtio'r disgleiriaf a'r goreuon o bob cwr o'r byd.

3. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu atebolrwydd a rheolaeth o fewn system fewnfudo'r wlad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

38

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod dadansoddiad a gynhaliwyd gan Ganolfan Perfformiad Economaidd Ysgol Economaidd Llundain wedi dod i'r casgliad mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd i awgrymu bod mewnfudo yn ei gyfanrwydd na mewnfudo o'r UE wedi cael effaith negyddol sylweddol ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb o ran cyflogau ar y boblogaeth a anwyd yn y DU.

2. Yn credu y dylai'r hawliau a'r breintiau a roddir i ddinasyddion y DU a'r UE sy'n byw ac yn gweithio mewn aelod-wladwriaethau eraill yr UE ar hyn o bryd gael eu diogelu.

3. Yn credu bod angen creu Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo ar gyfer Cymru ac a allai gyhoeddi fisâu penodol i Gymru er mwyn cau'r bylchau yn economi Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i warantu hawliau holl ddinasyddion yr UE sy'n byw ac yn gweithio yn y DU ar hyn o bryd, ar ôl gadael yr UE.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymgynghoriad ar sut y gallai system trwyddedau gwaith i Gymru fod o fudd i economi Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

42

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy'n cydbwyso swyddi a'r economi â'r angen i ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus;

2. Yn cefnogi'r dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef:

a) cysylltu hawl gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i'r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a

b) cynyddu'r ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar gyflogau isel.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

16

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6335

Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

David Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy'n cydbwyso swyddi a'r economi â'r angen i ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus;

2. Yn cefnogi'r dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef:

a) cysylltu hawl gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i'r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a

b) cynyddu'r ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar gyflogau isel.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

16

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

(5 munud)

Cynigion i gytuno ar aelodaeth pwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 18.14

Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y cynigion canlynol gyda’i gilydd a chytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.40 i grwpio’r pleidleisiau ar y cynigion.

NDM6341 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Vikki Howells (Llafur);

NDM6342 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mike Hedges (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Deisebau yn lle Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

NDM6343 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vikki Howells (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Mike Hedges (Llafur).

NDM6344 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes lle David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

NDM6345 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid.

NDM6346 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.15

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

11.

Dadl Fer

NDM6331 Vikki Howells (Cwm Cynon)

Yr heriau aml-ochrog sy'n deillio o dlodi yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.19